Cyf: LCO-070
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Tlodi Tanwydd
Chris Franks
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Gwneud darpariaeth ynghylch ac yng nghyswllt swyddogaethau Llywodraeth Leol mewn perthynas â thlodi tanwydd.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Ceir oddeutu 340,000 o aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru. Yn achos nifer o’r aelwydydd hyn, Awdurdodau Lleol fydd y prif ddarparwr gwasanaeth, a hwy fydd yn gyfrifol am gynrychioli eu hanghenion a datblygu lles eu hardaloedd. Mae awdurdodau lleol yn darparu ac yn cydlynu gwasanaethau sydd â chyswllt anorfod gyda thlodi tanwydd gan gynnwys tai, effeithlonrwydd ynni, gwasanaethau cymdeithasol, yr amgylchedd ac iechyd. Mae gan bron pob ardal awdurdod lleol Gynllun Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol a’i bartneriaid yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd lleol. Fodd bynnag, nid oes dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithredu’r camau sydd yn y cynlluniau hyn.
Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu cyflwyno Mesur a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynhyrchu adroddiad blynyddol yn dangos eu cynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn eu hardal leol.