Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-072

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Tlodi Tanwydd

Rhodri Glyn Thomas

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Gwneud darpariaeth ynghylch ac yng nghyswllt swyddogaethau Llywodraeth Leol mewn perthynas â thlodi tanwydd.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Ceir oddeutu 340,000 o aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru.  Ar gyfer nifer o’r aelwydydd hyn, Awdurdodau Lleol fydd y prif ddarparwr gwasanaeth, yn gyfrifol am gynrychioli eu hanghenion a datblygu lles eu hardaloedd. Mae awdurdodau lleol yn darparu ac yn cydlynu gwasanaethau sydd â chyswllt anorfod gyda thlodi tanwydd gan gynnwys tai, effeithlonrwydd ynni, gwasanaethau cymdeithasol, yr amgylchedd ac iechyd.  Mae gan bron pob ardal awdurdod lleol Gynllun Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy sy’n nodi sut bydd yr awdurdod lleol a’i bartneriaid yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd lleol.  Fodd bynnag, nid oes dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithredu’r camau sydd yn y cynlluniau hyn.

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu cyflwyno Mesur a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynhyrchu adroddiad blynyddol yn dangos eu cynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn eu hardal leol.