Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-073

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gynnal a Chadw Gorsafoedd Trenau

Eleanor Burnham

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio’r maes penodol yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn gwneud darpariaethau sy’n ymwneud â chynnal a chadw gorsafoedd trenau.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Defnyddir y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn i sicrhau bod gorsafoedd trenau ledled Cymru yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.  Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod mynediad hwylus ar gael i bawb, amgylchedd braf a gwneud gorsafoedd yn byrth i gymunedau.

Un o’r elfennau allweddol yn hyn oll yw darparu mynediad i bobl anabl mewn gorsafoedd. Yn 2007, amcangyfrifwyd mai dim ond 236 o orsafoedd Cymru oedd â mynediad digonol ar gyfer pobl anabl. Mae nifer o achosion uchel eu proffil lle nad yw’r gorsafoedd wedi cydymffurfio â safonau digonol wedi dangos bod angen system fwy cynaliadwy er mwyn sicrhau bod pob un o ddinasyddion Cymru’n gallu cael mynediad i’w gorsafoedd.

Yn ogystal â hyn, dylai gorsafoedd sydd wrthi’n cael eu hadnewyddu’n sylweddol weithio at gael digon o gyfleusterau, gan gynnwys golau, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau sy’n dderbyniol ar gyfer rhwydwaith rheilffordd modern. Byddai hyn yn cynnwys gweithio at sicrhau bod pob cyfleuster parcio’n cydymffurfio â’r un safon.

Yn olaf, byddem yn ceisio symud gorsafoedd trenau at fod yn byrth i gymunedau, gyda phob gorsaf yn darparu gwybodaeth gyfredol am y cyfleusterau a’r amwynderau sydd ar gael yn y cymunedau a wasanaethant.