Cyf: LCO-076
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Datblygiadau Ynni
Mick Bates
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio’r maes perthnasol yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud darpariaethau sy’n ymwneud ag adeiladu neu ymestyn gorsafoedd cynhyrchu ar y tir sydd â chapasiti o dros 50 megawat.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Pwrpas y Gorchymyn Arfaethedig hwn yw datganoli’r drefn rhoi caniatâd ar gyfer datblygiadau ynni ar raddfa fawr i Gymru. Hynny yw, prosiectau ar y tir sydd â chapasiti o dros 50MW.
Cefndir
Fesul pen yn y boblogaeth, mae Cymru dal yn un o’r llygrwyr mwyaf yn y byd ac mae cynhyrchu ynni’n cyfrannu at oddeutu traean o’r allyriadau CO2 yng Nghymru.
Mae gan Gymru, y DU a’r Undeb Ewropeaidd dargedau i leihau allyriadau, er hynny bach iawn fu cynnydd Cymru yn hyn o beth. Dengys y Dangosydd Nwy Ty Gwydr er 1990 – y flwyddyn sylfaenol a ddefnyddir i gyfrifo gostyngiadau dan rwymedigaethau rhyngwladol – y cafwyd llai na 2% o ostyngiad yn lefel yr allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru. Yr oedd allyriadau wedi cynyddu 4.7% mewn gwirionedd rhwng 2005 a 2006 – y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer.
Bydd datganoli’r broses benderfynu yng nghyswllt datblygiadau ynni ar raddfa fawr yn gwella gallu’r Cynulliad i fynd ar drywydd ei bolisïau ynni ei hun, gosod atebion wedi’u teilwra sy’n addas i anghenion Cymru a sicrhau ein cyflenwad ynni ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn golygu y gall Cymru gyrraedd ei thargedau o ran ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau CO2 a chyfrannu’n llawn at gyrraedd targedau’r DU i gyd.
Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd
Roedd datganoli’r broses gynllunio ar gyfer datblygiadau ynni sydd â chapasiti o fwy na 50MW yn un o addewidion maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol 2007.
Cynigiodd Cyswllt Amgylchedd Cymru argymhelliad i ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i leihau carbon yng Nghymru sef bod “angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru gael caniatâd cynllunio ar gyfer prosiectau ynni sydd â chapasiti o fwy na 50MW, er mwyn sicrhau bod gan Gymru gyfrifoldeb llwyr dros ffurfiau ar gynhyrchu pwer a thros lefelau allyriadau carbon o’r cyfryw gynhyrchu. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru felly’n argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru barhau i bwyso i gael trosglwyddo cyfrifoldebau cynllunio ar gyfer pob prosiect cynhyrchu pwer a leolir yng Nghymru, waeth beth yw eu capasiti.”
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn fudiad ag aelodaeth sy’n cynrychioli barn ei aelodau cyfansoddol. Dyma’r aelodau hynny a lofnododd yr ymateb i ymgynghoriad y pwyllgor:
Cadw Cymru'n Daclus
Cylch (Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru)
Cymdeithas Eryri
Groundwork Cymru
Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru
RSPB Cymru
WWF Cymru
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig
Gellir darllen ymateb Cyswllt Amgylchedd Cymru i Ymchwiliad y Pwyllgor yma:
http://www.waleslink.org/documents-for-downloading/wel-consultation-responses/080317%20WEL%20response%20-%20NAW%20Sus%20Committee%20-%20Energy%20Generation%20consultation%20FINAL.doc