Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-079

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Trwyddedu Busnesau sy’n darparu Triniaethau Arbennig

Bethan Jenkins

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Gwneud darpariaethau ynghylch ac yng nghyswllt trwyddedu busnesau sy’n cynnig triniaethau arbennig, yn enwedig triniaethau lliw haul a thyllu’r corff.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Cefndir

Mae digwyddiadau diweddar a oedd yn cynnwys pobl ifanc dan oed yn eu harddegau yn dioddef llosgiadau sylweddol mewn salonau lliw haul wedi tynnu sylw at yr angen am ddeddfwriaeth i amddiffyn pobl ifanc.   Mae’r salonau lliw haul hyn heb oruchwyliaeth yn peri pryder penodol gan nad ydynt yn rhwym wrth ddim rheolaethau.   

Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol yn Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003). Mae’r darpariaethau hyn wedi’u cyfyngu i is-ddeddfau sy’n ymwneud â glanweithdra eiddo cofrestredig, glanweithdra unigolion cofrestredig a glanhau a sterileiddio’r offer, y deunyddiau a’r cyfarpar a ddefnyddir yng nghyswllt y busnes.   Nid yw Adran 15 yn caniatáu i awdurdod lleol osod amodau ar yr unigolyn cofrestredig.

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol dros drwyddedu busnesau sy’n cynnig triniaethau arbennig. Mae Deddf Awdurdodau Lleol Llundain 1991 sy’n rhoi mwy o ryddid i awdurdodau Llundain Fwyaf wrth drwyddedu eiddo yn diffinio “triniaeth arbennig” fel tylino, trin dwylo, aciwbigo, rhoi tatw, tyllu cosmetig, trin traed, triniaeth ysgafn, drydanol neu driniaeth arbennig eraill megis math o anwedd, sawna neu fuddion eraill.   Bydd hyn wedyn yn golygu bod modd cyflwyno Mesur i gyfyngu ar oed cleientiaid a chwsmeriaid.

Cefnogaeth y Gymdeithas Ganser.