Cyf: LCO-080
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Trwyddedu Busnesau sy’n darparu Triniaethau Arbennig
Nerys Evans
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Gwneud darpariaethau ynghylch ac yng nghyswllt trwyddedu busnesau sy’n cynnig triniaethau arbennig, yn enwedig triniaethau lliw haul a thyllu’r corff.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Cefndir
Mae digwyddiadau diweddar a oedd yn cynnwys pobl ifanc dan oed yn eu harddegau yn dioddef llosgiadau sylweddol mewn salonau lliw haul wedi tynnu sylw at yr angen am ddeddfwriaeth i amddiffyn pobl ifanc. Mae’r salonau lliw haul hyn heb oruchwyliaeth yn peri pryder penodol gan nad ydynt yn rhwym wrth ddim rheolaethau. Ceir pryderon hefyd ynghylch effeithiau niweidiol a phosibilrwydd creithio oherwydd tyllu’r corff.
Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol yn Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003). Mae’r darpariaethau hyn wedi’u cyfyngu i is-ddeddfau sy’n ymwneud â glanweithdra eiddo cofrestredig, glanweithdra unigolion cofrestredig a glanhau a sterileiddio’r offer, y deunyddiau a’r cyfarpar a ddefnyddir yng nghyswllt y busnes. Nid yw Adran 15 yn caniatáu i awdurdod lleol osod amodau ar yr unigolyn cofrestredig.
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol dros drwyddedu busnesau sy’n cynnig triniaethau tatw, lliw haul a thyllu’r corff. Mae Deddf Awdurdodau Lleol Llundain 1991 sy’n rhoi mwy o ryddid i awdurdodau Llundain Fwyaf wrth drwyddedu eiddo yn diffinio “triniaeth arbennig” fel tylino, trin dwylo, aciwbigo, rhoi tatw, tyllu cosmetig, trin traed, triniaeth ysgafn, drydanol neu driniaeth arbennig eraill megis math o anwedd, sawna neu fuddion eraill. Bydd hyn wedyn yn golygu bod modd cyflwyno Mesur i gyfyngu ar oed cleientiaid a chwsmeriaid.