Cyf: LCO-085
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Safleoedd Rhandiroedd
Leanne Wood
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Gwneud darpariaeth ynghylch ac yng nghyswllt safleoedd rhandiroedd yng Nghymru.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gwelwyd twf yn y galw am randiroedd ledled Cymru. Er gwaethaf y ffaith bod oddeutu 2,500 o bobl yn aros am randir yng Nghymru, prin iawn, os o gwbl, yw’r safleoedd rhandiroedd newydd sy’n cael eu datblygu ar ôl cau neu werthu rhandiroedd neu warchod safleoedd sydd eisoes yn bodoli. Ceir tystiolaeth hefyd nad yw awdurdodau lleol yn glynu wrth y ddeddfwriaeth gyfredol sy’n mynnu eu bod yn darparu rhandiroedd neu fannau amgen ar gyfer deiliaid rhandiroedd y mae eu safleoedd wedi cael eu cau.
Mae Erthygl 23 Deddf Tyddynnod a Rhandiroedd 1908 a Deddfau Rhandiroedd 1922 a 1950 yn amlinellu dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd rhandiroedd ar gyfer eu trigolion. Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol dros ddarparu safleoedd rhandiroedd.