Cyf: LCO-086
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Dyfrffyrdd Mewndirol
Bethan Jenkins
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Gwneud darpariaethau ynghylch ac yng nghyswllt hawliau mynediad cyhoeddus i ddyfrffyrdd mewndirol.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Cefndir
Yng Nghymru, ni cheir hawl mynediad awtomatig i ddyfrffyrdd mewndirol. Mae’r sefyllfa gyfreithiol yn wahanol i nifer o wledydd eraill lle ceir llai o gyfyngiadau ar fynediad i ddyfroedd mewndirol ac nid oes yn rhaid i’r rheini sy’n ymwneud â chwaraeon dwr di-bwer gael trwyddedau bob tro i ddefnyddio afonydd a llynnoedd mewndirol.
Mae’r rheini sy’n defnyddio dyfrffyrdd mewndirol at ddibenion hamdden yng Nghymru wedi cael eu hannog i gynnal negodiadau a chreu cytundebau mynediad gyda gyfer dwr gyda thir dan berchnogaeth breifat. Mae’r rhan fwyaf o’r cytundebau hyn yn hen ac ystyrir eu bod yn gyfyngedig, gan ganiatáu mynediad dim ond yn ystod rhai diwrnodau o’r flwyddyn neu ar rannau byr o’r afon. Yng Nghymru, mae gan 13 o 300 o afonydd gytundeb mynediad.
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol dros fynediad i ddyfrffyrdd mewndirol. Mae’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn rhoi hawl i grwydro sy’n caniatáu mynediad i dir nad yw’n amaethyddol ond nid yw’n cynnwys dyfrffyrdd mewndirol.
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf yr Amgylchedd 1995 yw’r prif ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n delio â hawliau mynediad y cyhoedd.
Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd
Cymdeithas Ganwa Cymru; Canolfan Ganwa Llandysul
