Mesur Addysg (Cymru) 2011

Mesur arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Diben y Mesur Arfaethedig

Mae’r Mesur arfaethedig yn creu pwerau a dyletswyddau i wneud cydlafurio yn y system addysg yn beth cyffredin, i wella llywodraethu ysgolion a symleiddio’r gwaith o gynllunio lleoedd mewn ysgolion yng Nghymru.

Cyfnod presennol y Mesur

Yn dilyn cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol ar destun y Mesur arfaethedig, cafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011. Mae’r Mesur erbyn hyn yn Fesur y Cynulliad Cenedlaethol (cyfraith Cymru).

Cofnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob Cyfnod o hynt Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru)

Cyfnod

Dyddiad

  • Cyflwyno’r Mesur Arfaethedig

  • Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol*

  • Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

  • Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau*

  • Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

  • Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn

  • Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol

* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

|
  • Cyfnod 1

Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar-lein i gael tystiolaeth am y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru), a daeth yr ymgynghoriad i ben ar 5 Ionawr 2011.

Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1
Cyflwynodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ar 21 Ionawr 2011.

Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r ddadl ar Gyfnod 1 yng Nghyfarfod Llawn 1 Chwefror 2011

  • Cyfnod 2

Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd iddo yn fanwl:

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 2 Chwefror 2011 a daeth i ben ar 2 Mawrth 2011. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yma:

  • Cyfnod 3

Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddetholwyd iddo yn fanwl: Dechreuodd Cyfnod 3 ar 3 Mawrth 2011 a daeth i ben ar 29 Mawrth 2011.Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yma:
  • Cyfnod 4

Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:

Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 29 Mawrth 2011.

Partneriaid a Help