Canllaw i'r Broses Ddeddfu

Mae Bil yn gyfraith ddrafft. Unwaith y bydd Bil wedi’i ystyried a’i basio gan y Cynulliad a’i fod wedi cael Cydsyniad Brenhinol, mae’n dod yn ‘Ddeddf y Cynulliad’. Gall y Cynulliad basio Deddfau ar unrhyw un o’r pynciau a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006.

Canllawiau a Dogfennau Deddfwriaeth

Mae'r lincs a'r dogfennau isod yn cynnig gwybodaeth manwl am brosesau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Canllaw i’r Broses Ddeddfu

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - (Gwefan allanol)

Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

Canllaw i Filiau a Deddfau

Gall Lywodraeth Cymru, Pwyllgor Cynulliad, Aelod unigol neu Gomisiwn y Cynulliad gynnig Bil. Mae gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n berthnasol i Filiau wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 26.

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil, sef:

Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Bil.

Mae cyfnod diwygio ychwanegol dewisol, a elwir yn gyfnod adrodd, y gellir ei gynnwys rhwng cyfnodau 3 a 4, os bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cynnig hynny a bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo.

Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth a ystyriwyd yn y Pedwerydd Cynulliad ar gael yn ‘Biliau a Deddfau'r Pedwerydd Cynulliad’.

Ceir manylion am yr holl Filiau a gyflwynwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad yma.

Balot ar gyfer Biliau Aelodau

O bryd i’w gilydd, rhaid i’r Llywydd gynnal Balot i benderfynu ar enw Aelod heblaw Aelod o’r Llywodraeth a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau gyflwyno’r wybodaeth sy’n angenrheidiol cyn y balot yn unol â Rheol Sefydlog 26.90.

Y Rhestr Bresennol o Gynigion ar gyfer y Balot

Canlyniadau'r Balotau

Canllawiau i Broses Biliau Aelodau

Rheolau Sefydlog Cynullliad Cenedlaethol Cymru

Penderfyniadau’r Llywydd o ran Ffurf Briodol

Biliau Cyhoeddus

Gwelliannau i Filiau Cyhoeddus

Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)

Canllawiau Deddfwriaeth o'r Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Deddfwriaeth
  4. Canllaw i'r Broses Ddeddfu

Partneriaid a Help