Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd)

(Cyfieithiad i'r Gymraeg er gwybodaeth yw’r ddogfen hon ac nid oes iddi rym cyfreithiol.     This is a translation into Welsh for information and it has no legal effect.)

Gall Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gael ei diwygio er mwyn ychwanegu 'Materion' penodol i 'Feysydd' bras, gan ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a darparu rhagor o feysydd polisi lle gellir gwneud Mesurau.

Mae’r fersiwn hwn o Atodlen 5 yn cynnwys diwygiadau sydd eisoes mewn grym, a chaiff ei ddiweddaru wrth i ragor o Faterion gael eu hychwanegu.

Gweler hefyd:

Atodlen 5: Mesurau’r Cynulliad: Rhan 1 - Materion

Maes 1: amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig

Sylwch: Mae Materion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 1 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 2: henebion ac adeiladau hanesyddol

Sylwch: Mae Materion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 2 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 3: diwylliant

Sylwch: Mae Materion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 3 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 4: datblygu economaidd

Maes 5: addysg a hyfforddiant

Mater 5.1

Darpariaeth am y categorïau o ysgol y caniateir eu cynnal gan awdurdodau addysg lleol.

Mater 5.2

Darpariaeth am sefydlu a chau ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol, eu newid o'r naill gategori i'r llall a'u newid mewn agweddau eraill.

Mater 5.3

Darpariaeth am dderbyn disgyblion i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol.

Mater 5.4

Darpariaeth am y cwricwlwm mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol.

Mater 5.4A

Rheoleiddio -

(a) ysgolion nas cynhelir gan awdurdodau addysg lleol;

(b) sefydliadau addysgol annibynnol perthnasol.

Mater 5.5

Darpariaeth am fynychu'r ysgol, ymddygiad disgyblion yn yr ysgol, disgyblaeth ysgol a gwahardd disgyblion o'r ysgol (gan gynnwys dyletswyddau rhieni mewn cysylltiad â'r materion hynny).

Mater 5.6

Darpariaeth am wneud trefniadau i ddarparu addysg ar gyfer personau mewn oedran ysgol gorfodol a waharddwyd o ysgolion neu na fyddent am unrhyw reswm arall yn cael addysg addas fel arall.

Mater 5.7

Darpariaeth am yr hawl i gael addysg gynradd, uwchradd a phellach ac i gael hyfforddiant.

Mater 5.8

Darpariaeth am ddarparu gwasanaethau a fwriedir i annog, galluogi neu gynorthwyo pobl -

(a) i gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant,

(b) i gymryd mantais o gyfleoedd i gael cyflogaeth, neu

(c) i gymryd rhan yn effeithiol ym mywyd eu cymuned.

Mater 5.9

Darpariaeth am fwyd a diod a ddarperir ym mangre'r ysgol neu a ddarperir ar gyfer plant mewn man lle y cânt eu haddysg neu eu gofal plant.

Mater 5.10

Trefniadau i bersonau deithio i fannau eraill ac o fannau eraill lle y maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant.

Mae’r mater hwn yn gymwys i’r canlynol -

(a) personau sy’n cael addysg feithrin, gynradd, uwchradd neu bellach neu hyfforddiant;

(b) personau a ddisgrifir ym mater 5.17 sy’n cael addysg uwch.

Mater 5.11

Darparu ar gyfer ac mewn cysylltiad â sicrhau darpariaeth cyfleusterau ar gyfer addysg ôl-16 neu hyfforddiant.

Mater 5.12

Darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â sefydlu a diddymu -

(a) sefydliadau sy'n ymwneud â darparu addysg bellach, a

(b) cyrff sy'n rhedeg y cyfryw sefydliadau,

gan gynnwys yr amgylchiadau pan fydd sefydliad addysgiadol yn dechrau neu yn peidio ag ymwneud â darparu addysg bellach.

Darpariaeth ynghylch -

(a) rhedeg a swyddogaethau'r cyfryw sefydliadau a chyrff sy'n rhedeg y cyfryw sefydliadau;

(b) eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r cyfryw sefydliadau a chyrff sy'n rhedeg y cyfryw sefydliadau;

(c) eiddo a ddelir gan unrhyw berson at ddibenion y cyfryw sefydliad;

(d) llywodraethiant a staff y cyfryw sefydliadau.

Mater 5.13

Darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â sicrhau cydlafurio -

(a) rhwng cyrff sy'n rhedeg sefydliadau sy'n ymwneud â darparu addysg bellach, neu

(b) rhwng un neu ragor o'r cyfryw gyrff a phersonau neu gyrff eraill ac iddynt swyddogaethau sy'n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant yng Nghymru,

gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â sefydlu cyrff at ddiben cyflawni swyddogaethau ar ran un neu ragor o bersonau neu gyrff sydd â rhan mewn trefniadau cydlafurio.

Mater 5.14

Darparu adnoddau ariannol ar gyfer ac mewn cysylltiad â -

(a) addysg neu hyfforddiant a ddarperir gan sefydliadau sy'n ymwneud â darparu addysg bellach;

(b) addysg ôl-16 neu hyfforddiant a ddarperir mewn dull heblaw gan y cyfryw sefydliadau;

(c) gwneud ymchwil sy'n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (b).

Mater 5.15

Arolygu -

(za) ysgolion;

(zb) sefydliadau addysgol annibynnol perthnasol;

(a) addysg neu hyfforddiant a ddarperir gan sefydliadau sy'n ymwneud â darparu addysg bellach;

(b) addysg neu hyfforddiant cyn-16 neu addysg neu hyfforddiant ôl-16, a ddarperir heblaw gan sefydliadau o fewn paragraffau (za) i (a);

(c) hyfforddi athrawon a chynorthwywyr addysgu arbenigol ar gyfer ysgolion;

(d) gwasanaethau o'r mathau a grybwyllir ym mater 5.8.

Mater 5.16

Darparu cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad ag:

(a) addysg neu hyfforddiant cyn-16;

(b) addysg neu hyfforddiant ôl-16;

(c) hyfforddiant athrawon a chynorthwywyr addysgu arbenigol i ysgolion;

(d) gwasanaethau o’r mathau a grybwyllwyd ym mater 5.8;

a chynnal astudiaethau mewn perthynas â hynny.

Mater 5.17

Addysg a hyfforddiant ar gyfer -

(a) personau sy'n cael mwy o anhawster i ddysgu na mwyafrif y personau o'r un oed â'r personau hynny;

(b) personau sydd â’r canlynol neu sydd wedi cael y canlynol -

(i) nam corfforol neu feddyliol, neu

(ii) cyflwr iechyd sy’n gwaethygu (megis canser, sglerosis ymledol neu haint HIV) pan fydd mewn cyfnod nad yw’n ymwneud â nam corfforol neu feddyliol.

Mater 5.18

Darparu unrhyw un o'r canlynol i blant neu bersonau ifanc -

(a) cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant cymdeithasol neu gorfforol;

(b) gweithgareddau addysgol.

Yn y mater hwn mae i “plant” (“children”) a “personau ifanc” (“young persons”) yr un ystyr ag sydd iddynt ym maes 15.

Dehongli’r maes hwn

Yn y maes hwn -

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy’n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol.

ystyr “addysg neu hyfforddiant cyn-16” (“pre-16 education or training”) yw addysg neu hyfforddiant sy’n addas at ofynion personau sydd o oedran ysgol gorfodol neu lai.”

ystyr "addysg ôl-16" (“post-16 education”) yw -

(a) addysg (heblaw addysg uwch) sy'n addas o ofynion personau sydd uwchlaw oedran ysgol gorfodol, a

(b) gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy'n gysylltiedig â'r cyfryw addysg;

ystyr "hyfforddiant ôl-16" (“post-16 training”) yw -

(a) hyfforddiant sy'n addas o ofynion personau sydd uwchlaw oedran ysgol gorfodol, a

(b) gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy'n gysylltiedig â'r cyfryw hyfforddiant.

ystyr “sefydliad addysgol annibynnol perthnasol” (“relevant independent educational institution”) yw sefydliad heblaw ysgol sydd -

(a) yn darparu addysg ran-amser i un neu fwy o bersonau o oedran ysgol gorfodol (“myfyrwyr rhan-amser”) p’un a yw hefyd yn darparu addysg amser-llawn i unrhyw berson neu beidio, a

(b) a fyddai’n ysgol annibynnol oni bai am y ffaith bod yr addysg a ddarperir ar gyfer y myfyriwr neu’r myfyrwyr rhan-amser yn rhan-amser yn hytrach nag amser-llawn.

At ddibenion y diffiniad uchod o “sefydliad addysgol annibynnol perthnasol” (“relevant independent educational institution”), mae sefydliad yn darparu addysg ran-amser ar gyfer person -

(a) os yw’n darparu addysg ar gyfer y person, a

(b) os nad yw’r addysg yn cyfateb i addysg amser-llawn.

Mae cyfeiriadau yn y maes hwn at sefydliad sy'n ymwneud â darparu addysg bellach yn gyfeiriadau at sefydliad addysgol, heblaw ysgol neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch (o fewn ystyr Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) a gynhelir (p'un ai at y diben hwnnw yn unig ai peidio) at ddiben darparu addysg bellach.

Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y maes hwn ac yn Neddf Addysg 1996 yr un ystyr yn y maes hwn ag yn y Ddeddf honno.

Sylwch: Mae rhagor o Faterion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 5 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 6: yr amgylchedd

Sylwch: Mae Materion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 6 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 7: gwasanaethau tân ac achub a hybu diogelwch rhag tân

Maes 8: bwyd

Maes 9: iechyd a gwasanaethau iechyd

Mater 9.1

Darpariaeth ar gyfer, ac mewn cysylltiad â darparu iawn heb droi at achos sifil o dan amgylchiadau, o dan gyfraith Cymru a Lloegr, pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau (yng Nghymru neu yn rhywle arall) fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Dehongli'r maes hwn

Yn y maes hwn -

mae "anaf personol" (“personal injury”) yn cynnwys unrhyw glefyd ac unrhyw amhariad ar iechyd corfforol neu feddyliol person;

ystyr "atebolrwydd cymwys mewn camwedd" (“qualifying liability in tort”) yw atebolrwydd mewn camwedd sy'n ddyledus o ran anaf personol neu golled neu o ganlyniad i anaf personol neu golled sy'n codi o dordyletswydd gofal neu mewn cysylltiad â thordyletswydd gofal sy'n ddyledus i unrhyw berson mewn cysylltiad â diagnosiad o salwch, neu mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth unrhyw glaf.

mae i "claf" (“patient”) yr un ystyr ag sydd iddo yn y Ddeddf honno;

ystyr "y gwasanaeth iechyd yng Nghymru" (“health service in Wales”) yw'r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1)o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

mae i "salwch" (“illness”) yr un ystyr ag sydd iddo yn y Ddeddf honno.

Sylwch: Mae rhagor o Faterion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 9 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 10: priffyrdd a thrafnidiaeth

Mater 10.1

Darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy -

(a) gwneud, gweithredu a gorfodi cynlluniau i godi taliadau mewn perthynas â defnyddio neu gadw cerbydau modur ar gefnffyrdd Cymru;

(b) defnyddio’r arenillion o daliadau a godir o dan gynlluniau o’r fath tuag at ddibenion sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

Nid yw hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch arwyddion traffig, heblaw darpariaeth ynghylch gosod a chynnal arwyddion traffig o fewn ystyr adran 177 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

Dehongli’r maes hwn

Yn y maes hwn -

ystyr “cefnffordd Gymreig” (“Welsh trunk road”) yw ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer (o fewn ystyr adran 121A o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984);

mae i “cerbyd modur” yr ystyr a roddir i “motor vehicle” yn adran 185(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, ac eithrio bod adran 189 o’r Ddeddf honno (eithriad ar gyfer cerbydau penodol o dan reolaeth cerddwyr a beiciau a gynorthwyir â thrydan) yn ei gymhwyso fel y mae’n gymwys at ddibenion y Deddfau Traffig Ffyrdd;

mae i “ffordd” yr un ystyr â “road” yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Sylwch: Mae rhagor o Faterion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 10 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 11: tai

Sylwch: Mae Materion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 11 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 12: llywodraeth leol

Mater 12.1

Darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag -

(a) cyfansoddiad prif ardaloedd newydd a diddymiad neu addasiad prif ardaloedd sydd eisoes yn bodoli, a

(b) sefydliad cynghorau ar gyfer y prif ardaloedd newydd a diddymiad prif gynghorau sydd eisoes yn bodoli.

Ystyr "prif ardal" (“principal area”) yw bwrdeistref sirol neu sir yng Nghymru, ac ystyr "prif gyngor" (“principal council”) yw cyngor ar gyfer prif ardal.

Mater 12.2

Darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag -

(a) y weithdrefn ar gyfer gwneud is-ddeddfau a'u dwyn i rym, a

(b) gorfodi is-ddeddfau.

Ystyr "is-ddeddfau" (“byelaws”) yw deddfau mewn dosbarth y caiff Gweinidogion Cymru eu cadarnhau (ond y mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn cynnwys darpariaeth i ddileu'r gofyniad am gadarnhad).

Mater 12.3

Unrhyw un neu ragor o'r canlynol -

(a) yr egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau o awdurdodau perthnasol,

(b) codau ymddygiad ar gyfer y cyfryw aelodau,

(c) rhoi swyddogaethau i unrhyw berson sy'n ymwneud â hybu neu gynnal safonau uchel o ymddygiad yn y cyfryw aelodau (gan gynnwys sefydlu cyrff sydd i fod â'r swyddogaethau hyn),

(d) gwneud neu drin honiadau bod aelodau (neu cyn aelodau) o awdurdodau perthnasol wedi torri safonau ymddygiad, gan gynnwys yn benodol -

(i) ymchwilio i'r cyfryw honiadau a dyfarnu arnynt ac adroddiadau ar ganlyniad yr ymchwiliadau,

(ii) y camau y caniateir eu cymryd pan geir bod toriadau wedi digwydd,

(e) codau ymddygiad ar gyfer cyflogeion awdurdodau perthnasol.

At ddibenion y mater hwn -

mae i "awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr un ystyr ag sydd iddo yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, ond ac eithrio ym mharagraff (d) nid yw'n cynnwys awdurdod heddlu,

mae "aelod" (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig o fewn ystyr y Rhan honno.

Mater 12.4

Darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â strategaethau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol i hybu neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol eu hardaloedd neu gyfrannu at sicrhau datblygu cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys darpariaeth sy'n gosod gofynion mewn cysylltiad â'r cyfryw strategaethau ar bersonau eraill ac iddynt swyddogaethau o natur gyhoeddus.

Mater 12.5

Darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag -

(a) gwneud trefniadau gan awdurdodau Cymreig perthnasol i sicrhau gwelliant yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer,

(b) gwneud trefniadau gan awdurdodau Cymreig perthnasol ar gyfer cynnwys, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio gan yr arferiad o swyddogaethau neu sy'n debygol o fod â buddiant ynddynt, a

(c) asesu ac arolygu perfformiad awdurdodau Cymreig perthnasol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau.

Mae'r canlynol yn "awdurdodau Cymreig perthnasol" (“relevant Welsh authorities”) -

(a) cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru,

(b) awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(c) awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys,

(d) corff codi ardoll o fewn ystyr adran 74(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mewn cysylltiad â hi yr oedd y cyngor sir neu'r awdurdod codi taliadau y cyfeirir ato yn adran 74(1)(b) o'r Ddeddf honno yn gyngor neu'n awdurdod ar gyfer ardal yng Nghymru,

(e) corff y mae adran 75 o'r Ddeddf honno yn gymwys (ardollau arbennig) ac a fu o ran y flwyddyn ariannol a ddechreuodd yn 1989 â'r pwer i godi ardreth drwy gyfeirio at eiddo yng Nghymru.

Sylwch: Mae rhagor o Faterion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 12 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 13: Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mater 13.1

Creu a rhoi swyddogaethau i swyddfa neu gorff ar gyfer ac mewn cysylltiad ag ymchwilio i gwynion am ymddygiad aelodau Cynulliad ac adrodd ar ganlyniad yr ymchwiliadau hynny i'r Cynulliad.

Mater 13.2

Rhoi swyddogaethau i Gomisiwn y Cynulliad ar gyfer ac mewn cysylltiad â hwyluso arfer gan y Cynulliad ei swyddogaethau (gan gynnwys darparu i'r Cynulliad yr eiddo, y staff a'r gwasanaethau sy'n ofynnol at ddibenion y Cynulliad).

Mater 13.3

Darparu ar gyfer ac mewn cysylltiad â thalu cyflogau, lwfansau, pensiynau ac arian rhodd i neu o ran aelodau Cynulliad, y Prif Weinidog, unrhyw un o Weinidogion Cymru a benodwyd o dan adran 48, y Cwnsler Cyffredinol ac unrhyw un o Ddirprwy Weinidogion Cymru.

Mater 13.4

Darparu ar gyfer ac mewn cysylltiad â chreu a chynnal cofrestr o fuddiannau aelodau Cynulliad a'r Cwnsler Cyffredinol.

Mater 13.5

Darparu am ystyr geiriau ac ymadroddion Cymraeg mewn -

(a) Mesurau'r Cynulliad,

(b) is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesurau'r Cynulliad, ac

(c) is-ddeddfwriaeth nas gwneir felly ond a wneir gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol.

Mater 13.6

Darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag ymdrin â Mesurau Cynulliad preifat arfaethedig, yn enwedig -

(a) gweithdrefnau ar gyfer gwrando ar hyrwyddwr a gwrthwynebwyr Mesurau Cynulliad preifat arfaethedig,

(b) y personau a gaiff gynrychioli'r hyrwyddwyr a'r cynrychiolwyr hynny, a'r cymwysterau y mae'n rhaid i'r personau hynny feddu arnyn nhw,

(c) pennu ffioedd ar gyfer ac mewn cysylltiad â hyrwyddo Mesurau Cynulliad preifat arfaethedig, ac

(d) asesu'r costau yr eir iddynt mewn cysylltiad â Mesurau Cynulliad preifat arfaethedig.

Brig

Maes 14: gweinyddiaeth gyhoeddus

Maes 15: lles cymdeithasol

Mater 15.1

Ffioedd a godir gan awdurdodau lleol am wasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir neu a sicrheir ganddynt a thaliadau ar gyfer unigolion ag anghenion sy’n ymwneud â’u lles fel bod modd iddynt hwy, neu i’r personau sy’n gofalu amdanynt, sicrhau gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddiwallu’r anghenion hynny.

Nid yw’r mater hwn yn cynnwys ffioedd a thaliadau ar gyfer gofal preswyl.

Mater 15.2

Swyddogaethau awdurdodau cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r canlynol -

(a) diogelu plant rhag niwed ac esgeulustod;

(b) diogelu a hyrwyddo llesiant plant hawdd eu niweidio;

(c) lleihau anghyfartaleddau llesiant rhwng plant neu bersonau ifanc.

Mae'r mater hwn yn gymwys i swyddogaethau awdurdodau cyhoeddus y mae eu prif swyddogaethau'n ymwneud ag unrhyw un neu fwy o'r meysydd yn y Rhan hon.

Mater 15.3

Gwasanaethau mabwysiadu a gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig.

Mater 15.4

Maethu.

Mater 15.5

Gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer unrhyw rai o'r canlynol -

(a) plant;

(b) personau sy'n gofalu am blant, neu sydd ar fin gofalu amdanynt;

(c) personau ifanc;

(d) personau y gofalwyd amdanynt o'r blaen ac -

(i) sydd wedi cyrraedd 25 oed, a

(ii) sydd, yn union cyn cyrraedd yr oedran hwnnw, wedi bod yn dilyn addysg neu hyfforddiant, neu'n bwriadu gwneud hynny.

Mater 15.6

Cydweithredu a threfniadau i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant neu bersonau ifanc.

Mae'r mater hwn yn gymwys i gydweithredu gan, a threfniadau sy’n cael eu gwneud gan y canlynol -

(a) awdurdodau cyhoeddus y mae eu prif swyddogaethau'n ymwneud ag unrhyw un neu fwy o'r meysydd yn y Rhan hon;

(b) awdurdodau heddlu a phrif swyddogion yr heddlu ar gyfer ardaloedd yr heddlu yng Nghymru;

(c) Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain;

(d) byrddau prawf lleol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru;

(e) yr Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Tramgwyddwyr 2007, neu unrhyw ddarparydd gwasanaethau prawf o dan drefniadau a wnaed o dan adran 3(2) o'r Ddeddf honno;

(f) timau troseddau ieuenctid ar gyfer ardaloedd yng Nghymru;

(g) llywodraethwyr carchardai, sefydliadau tramgwyddwyr ifanc neu ganolfannau hyfforddi diogel yng Nghymru (neu, yn achos carchardai, sefydliadau tramgwyddwyr ifanc neu ganolfannau hyfforddi diogel sydd wedi'u contractio allan neu rannau o sefydliadau o'r fath, a'r rhannau hynny wedi'u contractio allan, eu cyfarwyddwyr);

(h) personau ac eithrio awdurdodau cyhoeddus sy'n ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â llesiant plant neu bersonau ifanc.

Mater 15.7

Cynllunio gan awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni'u swyddogaethau sy’n gysylltiedig â llesiant plant neu bersonau ifanc.

Mater 15.8

Parhau, diddymu neu greu swydd neu gorff y mae a wnelo â diogelu a hyrwyddo llesiant plant neu bersonau ifanc;  swyddogaethau'r cyfryw swydd neu gorff, gan gynnwys yn benodol -

(a) adolygu'r modd y mae unrhyw berson yn arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'u llesiant yn effeithio ar blant neu bersonau ifanc;

(b) adolygu a monitro -

(i) gwasanaethau eiriol;

(ii) trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion a sylwadau a wnaed gan blant neu bersonau ifanc, neu ar eu rhan, mewn cysylltiad â phersonau y mae ganddynt swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'u llesiant neu bersonau sy'n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol iddynt;

(c) archwilio achosion plant neu bersonau ifanc penodol;

(d) ystyried unrhyw fater sy'n effeithio ar lesiant plant neu bersonau ifanc, a chyflwyno sylwadau amdano.

Dehongli'r maes hwn

Yn y maes hwn -

ystyr “awdurdodau cyhoeddus” (“public authorities”) yw pob awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, ar wahân i lysoedd neu dribiwnlysoedd

ystyr “awdurdodau lleol” (“local authorities”) yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “datblygiad” (“development”) yw datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol;

ystyr “gwasanaethau gofal cymdeithasol” (“social care services”) yw unrhyw un o'r canlynol a ddarperir mewn cysylltiad â llesiant unrhyw berson: gwasanaethau gofal preswyl neu ddibreswyl; gwasanaethau cynghori, cwnsela neu eiriol; cymorth ariannol neu unrhyw gymorth arall;

ystyr “iechyd” (“health”) yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl;

ystyr “llesiant” (“well-being”), mewn perthynas ag unigolion, yw llesiant i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw un o'r canlynol -

(a) iechyd a llesiant emosiynol;

(b) amddiffyniad rhag niwed ac esgeulustod;

(c) addysg, hyfforddiant a hamdden;

(d) y cyfraniad y maent yn ei wneud i’r gymdeithas;

(e) llesiant cymdeithasol ac economaidd;

(f) sicrhau eu hawliau;

ystyr “personau y gofalwyd amdanynt o'r blaen” (“persons formerly looked after”) yw personau sydd, ar unrhyw adeg cyn iddynt gyrraedd 18 oed -

(a) wedi bod yng ngofal awdurdod cyhoeddus, neu

(b) wedi cael llety gan awdurdod cyhoeddus er mwyn sicrhau eu llesiant;

ystyr “plant” (“children”) yw personau nad ydynt wedi cyrraedd 18  oed;

ystyr “plant hawdd eu niweidio” (“vulnerable children”) yw plant -

(a) sy'n annhebyg o gyrraedd neu gadw, na chael cyfle i gyrraedd neu gadw, safon resymol o ran iechyd neu ddatblygiad oni ddarperir gwasanaethau gofal cymdeithasol ar eu cyfer,

(b) y mae'n debyg yr amherir yn sylweddol, neu yr amherir ymhellach, ar eu hiechyd neu eu datblygiad oni ddarperir gwasanaethau gofal cymdeithasol iddynt,

(c) y mae ganddynt nam corfforol neu feddyliol,

(d) sydd yng ngofal awdurdod cyhoeddus, neu

(e) y mae llety'n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdod cyhoeddus er mwyn sicrhau eu llesiant;

ystyr “personau ifanc” (“young persons”) yw personau sydd wedi cyrraedd 18 oed ond nid 25 oed.

Sylwch: Mae rhagor o Faterion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 15 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 16: chwaraeon a hamdden

Mater 16.1

Darparu cyfleusterau a gweithgareddau hamdden i blant neu bersonau ifanc.

Yn y mater hwn mae i “plant” (“children”) a “personau ifanc” (“young persons”) yr un ystyr ag sydd iddynt ym maes 15.

Sylwch: Mae rhagor o Faterion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 16 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Maes 17: twristiaeth

Maes 18: cynllunio gwlad a thref

Mater 18.1

Darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy -

(a) cynlluniau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â datblygu a defnyddio tir yng Nghymru, a

(b) dileu gofynion bod rhaid cael cynlluniau o’r fath.

Nid yw hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch y statws sydd i’w roi i unrhyw gynlluniau o’r fath mewn cysylltiad â’r penderfyniad ar gais am orchymyn yn caniatáu cydsyniad cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Mater 18.2

Darpariaeth ar gyfer adolygiadau gan yr awdurdodau cynllunio lleol ar faterion y gellir disgwyl iddynt effeithio -

(a) ar ddatblygu ardaloedd yr awdurdodau, neu

(b) ar gynllunio datblygu ardaloedd yr awdurdodau,

ac mewn cysylltiad â hynny.

Mater 18.3

Darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy -

(a) cynlluniau’r awdurdodau cynllunio mewn perthynas â datblygu a defnyddio tir yn eu hardaloedd, a

(b) dileu gofynion bod rhaid cael cynlluniau o’r fath

Nid yw hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch y statws sydd i’w roi i unrhyw gynlluniau o’r fath mewn cysylltiad â’r penderfyniad ar gais am orchymyn yn caniatáu cydsyniad cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Dehongli’r maes hwn

Yn y maes hwn -

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) mewn perthynas ag ardal yw -

(a) awdurdod Parc Cenedlaethol, mewn perthynas â Pharc Cenedlaethol yng Nghymru;

(b) cyngor sir yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol, mewn unrhyw achos arall;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978.

Brig

Maes 19: dwr ac amddiffyn rhag llifogydd

Maes 20: Y Gymraeg

Sylwch: Mae Materion wedi’u cynnig yn y Maes hwn. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad ar gyfer Maes 20 i gael rhagor o wybodaeth

Brig

Eithriadau i Faterion

Nid yw’r eithriadau yng ngholofn cyntaf pob tabl isod wedi’u cynnwys yn y materion a nodir yn y cofnod cyfatebol yr yr ail golofn.

Tabl - Priffyrdd a thrafnidiaeth

Colofn 1

Eithriadau

Colofn 2

Materion y mae'r eithriadau'n ymwneud â hwy

1. Rheoleiddio'r defnydd o gerbydau modur ar ffyrdd, eu gwneuthuriad a'u cyfarpar a'r amodau y caniateir eu defnyddio; Materion 5.10, 5.17, 5.18
2. Tramgwyddau traffig ffyrdd. Materion 5.10, 5.17, 5.18
3. Trwyddedu gyrwyr. Materion 5.10, 5.17, 5.18
4. Hyfforddiant gyrru. Materion 5.10, 5.17, 5.18
5. Yswirio cerbydau modur. Materion 5.10, 5.17, 5.18
6. Oriau gyrwyr. Materion 5.10, 5.17, 5.18
7. Rheoleiddio traffig ar ffyrdd arbennig, croesfannau cerddwyr, arwyddion traffig a therfynau cyflymder. Materion 5.10, 5.17, 5.18
8. Trwyddedu gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Materion 5.10, 5.17, 5.18

9. Darparu a rheoleiddio gwasanaethau rheilffyrdd, ar wahân i gymorth ariannol -

(a) nad yw'n ymwneud â chludo nwyddau,

(b) nas gwneir mewn cysylltiad â gorchymyn gweinyddu rheilffordd, ac

(c) nas gwneir mewn cysylltiad â Rheoliad y Cyngor (EEC) 1191/69 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1893/91 ar rwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus o ran trafnidiaeth.

Materion 5.10, 5.17, 5.18
10. Diogelwch trafnidiaeth. Materion 5.10, 5.17, 5.18
11. Llongau, ar wahân i gymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau llongau i Gymru, o Gymru neu yng Nghymru. Materion 5.10, 5.17, 5.18
12. Hawliau a rhydidau mordwyo, ar wahân i reoleiddio gwaith a allai rwystro neu beryglu mordwyaeth. Materion 5.10, 5.17, 5.18
13. Safonau technegol a safonau diogelwch llestrau (er enghraifft cychod, llongau, badau ac yn y blaen) Materion 5.10, 5.17, 5.18
14. Harbyrau, dociau, glanfeydd a llithrffyrdd i gychod ar wahân i'r rheini a ddefnyddir neu y mae'n ofynnol eu cael yn gyfan gwbl neu yn bennaf ar gyfer cysylltiadau rhwng mannau yng Nghymru. Materion 5.10, 5.17, 5.18
15. Cofrestru gwasanaethau bysiau lleol, a chymhwyso a gorfodi amodau rheoleiddio traffig mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny. Materion 5.10, 5.17, 5.18

Brig

Tabl – Lles cymdeithasol

Colofn 1

Eithriadau

Colofn 2

Materion y mae'r eithriadau'n ymwneud â hwy

1. Cymorth i blant. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.6, 15.8

2. Cronfeydd ymddiriedolaeth plant, ar wahân i danysgrifiadau i gronfeydd o'r fath gan -

(a)  cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, neu

(b) Gweinidogion Cymru.

Materion 15.2, 15.4, 15.5
3. Credydau treth. Materion 15.1, 15.2, 15.4, 15.5
4. Budd-dal plant a lwfans gwarcheidwad. Materion 15.1, 15.2, 15.4, 15.5
5. Nawdd cymdeithasol. Materion 15.1, 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.6, 15.7, 15.8
6. Cronfeydd byw'n annibynnol. Materion 15.1, 15.2, 15.5, 15.6, 15.7, 15.8
7. Motability. Materion 15.1, 15.2, 15.5, 15.6, 15.7, 15.8
8. Taliadau Niwed Trwy Frechiad Materion 15.2, 15.5, 15.6, 15.7, 15.8
9. Mabwysiadu rhyngwladol, ar wahân i asiantaethau mabwysiadu a'u swyddogaethau, a swyddogaethau'r “Awdurdod Canolog” o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhyngwladol. Materion 15.2, 15.3
10. Y Comisiynydd Plant a sefydlwyd o dan Ddeddf Plant 2004. Materion 15.2, 15.3, 15.4, 15.5, 15.8

11. Cyfraith teulu a rheithdrefnau teuluol ar wahân i’r canlynol -

(a)  cyngor i lysoedd ynghylch lles; cynrychiolaeth a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i blant sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac i'w teuluoedd, a

(b) swyddogion rheithdrefnau teuluol Cymru.

Materion 15.2, 15.3, 15.4, 15.5
12. Bwydydd lles Materion 15.2, 15.5, 15.6, 15.8

Brig

Atodlen 5: Mesurau Cynulliad: Rhan 2 - Cyfyngiadau cyffredinol

Swyddogaethau Gweinidogion y Goron

1 (1) Ni all darpariaeth mewn Mesur Cynulliad ddileu nac addasu na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu nac addasu unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron.

(2) Ni all darpariaeth mewn Mesur Cynulliad roi na gosod na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i roi na gosod unrhyw swyddogaeth ar Weinidogion y Goron.

Tramgwyddau troseddol

2 (1) Ni all darpariaeth mewn Mesur Cynulliad greu, na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i greu, unrhyw dramgwydd troseddol sy’n dwyn cosb -

(a) ar gollfarn ddiannod, â charchariad am gyfnod sy'n hwy na'r tymor rhagnodedig neu â dirwy sy'n fwy na'r swm a bennir yn lefel 5 ar y raddfa safonol, neu

(b) ar gollfarn ar dditiad, â chyfnod o garchariad sy'n hwy na dwy flynedd.

(2) Yn is-baragraff (1) ystyr “y tymor rhagnodedig” (“the prescribed term”) yw -

(a) pan fo'r tramgwydd yn dramgwydd diannod, 51 o wythnosau, a

(b) pan fo'r tramgwydd yn dramgwydd neillffordd, deuddeng mis.

Deddfiadau ar wahân i'r Ddeddf hon

3 Ni all darpariaeth mewn Mesur Cynulliad addasu unrhyw un o'r darpariaethau a restrir yn y Tabl isod na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu unrhyw un ohonynt -

Deddfiad Darpariaethau a ddiogelir rhag eu haddasu
Deddf y Cymunedau Ewropeaidd (p. 68) Y Ddeddf gyfan
Deddf Diogelu Data 1998 (p. 29) Y Ddeddf gyfan
Deddf Llywodraeth Cymru 1988 (p. 38) Adrannau 144(7), 145, 145A a 146A(1)
Deddf Hawliau Dynol 1988 (p. 42) Y Ddeddf gyfan
Y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36) Y Ddeddf gyfan
Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005 (O.S. 2005/1505) Y set gyfan o Reoliadau

4 Ni all darpariaeth mewn Mesur Cynulliad addasu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol ac eithrio'r Ddeddf hon sy'n ei gwneud yn ofynnol i symiau, sy'n ofynnol ar gyfer ad-dalu symiau a fenthycir gan Weinidogion Cymru, neu ar gyfer talu llog ar symiau a fenthycir gan Weinidogion Cymru, gael eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru.

5 Ni all darpariaeth mewn Mesur Cynulliad addasu unrhyw un o swyddogaethau'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu unrhyw un o'r swyddogaethau hynny.

Y Ddeddf hon

6 (1) Ni all darpariaeth mewn Mesur Cynulliad addasu darpariaethau a geir yn y Ddeddf hon na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu'r darpariaethau hynny.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i adrannau 20, 22, 24, 36(1) i (5) a (7) i (11), 53, 54 a 156(2) i (5).

(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth -

(a) sy’n addasu unrhyw ddeddfiad a addasir gan y Ddeddf hon, neu

(b) sy’n diddymu unrhyw ddarpariaeth yn Ddeddf hon sy'n diwygio unrhyw ddeddfiad, os yw'r ddarpariaeth yn peidio â bod yn effeithiol o ganlyniad i ddarpariaeth mewn Mesur Cynulliad neu ddarpariaeth a wneir o dan Fesur Cynulliad.

Sylwch: Mae diwygiadau wedi’u cynnig i’r Rhan hon. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad – Eithriadau i faterion a chyfyngiadau cyffredinol i gael rhagor o wybodaeth.

Brig

Atodlen 5: Mesurau Cynulliad: Rhan 3 - Eithriadau rhag Rhan 2

Swyddogaethau Gweinidogion y Goron

7 Nid yw Rhan 2 yn atal darpariaeth mewn Mesur Cynulliad rhag dileu nac addasu unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron, na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu nac addasu unrhyw un o'r swyddogaethau hynny, os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth.

Y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol

8 Nid yw Rhan 2 yn atal darpariaeth mewn Mesur Cynulliad rhag addasu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu'r deddfiad hwnnw os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth.

Ailddatgan

9 Nid yw Rhan 2 yn atal darpariaeth mewn Mesur Cynulliad rhag -

(a) ailddatgan y gyfraith (neu ei hailddatgan ynghyd ag unrhyw addasiadau nas atelir gan y Rhan honno), na

(b) diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad a ddarfu,

na rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud hynny.

Is-ddeddfwriaeth

10 Nid yw Rhan 2 yn atal Mesur Cynulliad rhag addasu unrhyw ddeddfiad at ddibenion neu mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r dibenion a ganlyn na rhag rhoi pwer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu’r deddfiad hwnnw -

(a) gwneud darpariaeth am y ddogfen y mae pwer i wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth â hi i'w arfer,

(b) gwneud darpariaeth (neu beidio â gwneud darpariaeth) am y weithdrefn, o ran y Cynulliad, y mae deddfwriaeth a wneir drwy arfer y cyfryw bwer (neu'r offeryn neu ddogfen arall y mae ynddi) i fod yn ddarostyngedig iddi, ac

(c) cymhwyso unrhyw ddeddfiad a geir mewn Mesur Cynulliad neu a wneir o dan Fesur Cynulliad sy'n ymwneud â'r dogfennau y caniateir arfer y cyfrwy bwerau â hwy.

Sylwch: Mae diwygiadau wedi’u cynnig i’r Rhan hon. Gweler nodyn tracio pwerau’r Cynulliad – Eithriadau i faterion a chyfyngiadau cyffredinol i gael rhagor o wybodaeth.

Brig

Gwasanaeth e-bost

Gallwch gofrestru ar wefan y Cynulliad i dderbyn neges e-bost pan gaiff y dudalen hon ei diweddaru.

Cyfrifoldeb Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yw diweddaru’r wybodaeth hon.

Brig