Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol

Beth yw Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD)?

diagram o'r broses

Math o is-ddeddfwriaeth yw Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaeth sy'n trosglwyddo pwerau penodol o Senedd y DU i'r Cynulliad.

Yn ymarferol, golyga hyn y bydd pob GCD newydd yn ychwanegu mater (neu faterion) newydd yn y maes perthnasol yn Atodlen 5 (fel yn yr enghraifft a ddarperir ym mharagraff 1.7 uchod), sy'n rhoi'r pwer i'r Cynulliad wneud Mesurau o fewn y meysydd polisi a ddiffinnir gan y mater.  

Pwy all gynnig Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol?

Gellir cynnig GCD gan y canlynol:

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru;
  • pwyllgor y Cynulliad; neu
  • Aelod unigol, os caiff ei enw ei dynnu o'r balot (gweler isod am ragor o fanylion).

Beth yw'r broses ar gyfer ystyried GCD?

Yn y Cynulliad, bydd yna ddau gyfnod yn y broses ar gyfer ystyried GCD, sef:

  • pwyllgor yn craffu ar GCD arfaethedig cyn deddfu; a
  • y Cynulliad yn cymeradwyo GCD drafft.

Beth fydd y broses ar gyfer craffu ar GCD arfaethedig cyn deddfu?

Mae craffu cyn deddfu yn rhoi'r cyfle i Aelodau ystyried darpariaethau GCD cyn iddo ddod yn ddeddf.

Ar ôl cyflwyno GCD drafft, dim ond i dderbyn neu wrthod y GCD hwnnw yn ei gyfanrwydd y gall y Cynulliad bleidleisio. Ni all ddiwygio'r GCD drafft mewn unrhyw ffordd.

Er mwyn rhoi'r cyfle i'r Cynulliad ystyried y GCD cyn pleidleisio arno, caiff GCD arfaethedig ei osod yn gyntaf.

Caiff y GCD arfaethedig hwn ei ystyried gan bwyllgor (craffu cyn deddfu), a fydd yn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau ac unrhyw argymhellion i'r Cynulliad.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n bosibl diwygio'r Gorchymyn arfaethedig i ystyried argymhellion y pwyllgor neu unrhyw ystyriaethau eraill.

Fel y nodir uchod, yn ogystal â chael eu cymeradwyo gan y Cynulliad, rhaid i bob GCD gael ei gymeradwyo gan Senedd y DU hefyd. O ganlyniad i hyn, mae'n bosibl i bwyllgorau'r Cynulliad graffu ar y cyd â phwyllgorau Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi cyn deddfu.

Beth yw'r broses ar gyfer cymeradwyo GCD drafft?

Ar ôl i GCD drafft fod yn destun gwaith craffu cyn deddfu ac ar ôl iddo gael ei ddiwygio (os yn briodol), caiff ei osod gerbron y Cynulliad yn ffurfiol ynghyd â Memorandwm Esboniadol.

Yna bydd y Cynulliad yn pleidleisio i gymeradwyo neu wrthod y Gorchymyn drafft, na ellir ei ddiwygio.

Beth fydd yn digwydd os caiff y GCD drafft ei gymeradwyo?

Os caiff y Gorchymyn drafft ei gymeradwyo gan y Cynulliad, cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol fydd gosod y Gorchymyn drafft gerbron Senedd y DU i'w gymeradwyo gan Dy'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi.

Os caiff ei gymeradwyo gan y ddau Dy Seneddol, caiff ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y Frenhines. Yna daw'n ddeddf drwy ddiwygio Atodlen 5 i Ddeddf 2006 gan roi rhagor o bwerau i'r Cynulliad wneud Mesurau.  

Beth fydd yn digwydd os na chaiff y GCD drafft ei gymeradwyo?

Os na fydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft, bydd yn syrthio ac ni chymerir unrhyw gamau eraill mewn perthynas ag ef.

Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft ond bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod gosod y Gorchymyn drafft gerbron Senedd y DU, rhaid iddo roi ei resymau dros wneud hyn yn ysgrifenedig i Brif Weinidog Cymru.

Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft ond y caiff ei wrthod gan Senedd y DU, bydd y Gorchymyn drafft yn syrthio ac ni chymerir unrhyw gamau eraill mewn perthynas ag ef.   

Beth yw'r broses ar gyfer GCD drafft Pwyllgor neu GCD arfaethedig Pwyllgor?

Caiff unrhyw bwyllgor baratoi GCD arfaethedig ac yna cyflwyno GCD drafft i’w gymeradwyo gan y Cynulliad, ar yr amod bod y GCD hwnnw o fewn cylch gwaith y pwyllgor arbennig hwnnw.

Mae'r Gorchymyn arfaethedig neu'r Gorchymyn drafft yn ddarostyngedig yn eang i'r un weithdrefn â'r un a amlinellir uchod.

Beth yw'r broses ar gyfer GCD drafft Aelod neu GCD arfaethedig Aelod?

Caiff unrhyw Aelod gyflwyno GCD arfaethedig i'w ystyried, ar yr amod bod ei enw wedi'i ddewis ar hap o'r balot gan y Llywydd.

Beth yw'r broses ar gyfer balot?

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y balot uchod, rhaid i Aelod sydd am gyflwyno GCD arfaethedig gyflwyno'r canlynol yn gyntaf:

  • GCD arfaethedig amlinellol; a
  • Memorandwm Esboniadol, yn esbonio diben y GCD arfaethedig.

Bydd y Llywydd yn rhoi o leiaf 7 diwrnod o rybudd i Aelodau o'i fwriad i gynnal balot er mwyn rhoi amser i Aelodau baratoi'r dogfennau gofynnol.

Bydd yr Aelod y caiff ei enw ei dynnu ar hap o'r balot yn cael y cyfle i gyflwyno ei achos dros ddeddfwriaeth gerbron y Cynulliad a gall y Cynulliad bleidleisio a all y cynnig amlinellol fwrw ymlaen ymhellach.

Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r GCD arfaethedig amlinellol (a gyflwynir fel rhan o'r balot), yna caiff yr Aelod gyflwyno Gorchymyn arfaethedig yn ffurfiol, a gaiff ei ystyried gan y Cynulliad fel y nodir uchod.

Y Broses Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol
Yn ôl i'r brig>>