Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mesurau

Beth yw Mesur/Mesur arfaethedig?

diagram o'r broses

Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae iddo effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006.Tra bod Mesur yn mynd trwy'r Cynulliad, fe'i gelwir yn Fesur arfaethedig.

Pwy sy'n gallu cyflwyno Mesur arfaethedig?

Gall y canlynol gyflwyno Mesur arfaethedig:

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru;
  • pwyllgor y Cynulliad;
  • Aelod unigol, os caiff ei enw ei dynnu o'r balot (gweler isod am ragor o fanylion);
  • Comisiwn y Cynulliad.

Sut y caiff Mesur ei gyflwyno?

Er mwyn cyflwyno Mesur rhaid:

  • ei osod yn Gymraeg a Saesneg;
  • cael 'datganiad cymhwysedd deddfwriaethol' gan y Llywydd i gyd-fynd ag ef yn nodi a oes gan y Cynulliad y pwer i wneud y Mesur arfaethedig yn ei farn ef;
  • cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag ef.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

  • amcanion polisi’r Mesur arfaethedig;
  • a oedd unrhyw ffyrdd amgen o gyflawni amcanion polisi'r Mesur arfaethedig wedi'u hystyried;
  • manylion unrhyw ymgynghori a wnaed;
  • crynodeb gwrthrychol o holl ddarpariaethau'r Mesur arfaethedig a'i effaith fwriadedig;
  • amcangyfrifon gorau o ran y costau sy'n gysylltiedig â'r Mesur arfaethedig;
  • manylion unrhyw bwerau is-ddeddfwriaeth yn y Mesur arfaethedig;
  • manylion unrhyw dâl a godir ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Beth yw'r broses ar gyfer ystyried Mesur arfaethedig?

Mae yna bedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur, sef:

  • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl - mae hyn yn cynnwys y pwyllgor yn edrych yn fanwl ar bob llinell o'r Mesur arfaethedig;   
  • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl - mae hyn yn cynnwys y Cynulliad yn edrych yn fanwl ar bob llinell o'r Mesur arfaethedig;
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.

Beth sy'n digwydd yn ystod cyfnod 1?

Yn ystod cyfnod 1, bydd y Cynulliad yn sefydlu pwyllgor i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig.

Gall y pwyllgor wahodd sylwadau gan bartïon sydd â diddordeb a rhanddeiliaid, a gall hefyd dderbyn tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig.

Bydd y pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar ddiwedd ei ystyriaethau a gall gynnwys argymhellion ar gyfer diwygio'r Mesur arfaethedig.

Ar ôl i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad, bydd y Cynulliad yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, gan ystyried adroddiad y pwyllgor.  

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol, bydd y Mesurau yn symud ymlaen i gyfnod 2. Os na, bydd y Mesur yn syrthio.

Beth sy'n digwydd yn ystod cyfnod 2?

Yn ystod cyfnod 2, bydd pwyllgor (naill ai'r pwyllgor o gyfnod 1 neu bwyllgor newydd) yn ystyried ac yn cwblhau unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur arfaethedig.

Caiff unrhyw Aelod, p'un a yw'n aelod o'r pwyllgor sy'n ystyried y Mesur arfaethedig ai peidio, gyflwyno gwelliant ond dim ond aelodau'r pwyllgor a all bleidleisio ar welliannau. Yn ystod cyfnod 2, caiff pob gwelliant derbyniadwy eu hystyried gan y pwyllgor.

Bydd cyfnod 2 wedi'i gwblhau pan fydd yr holl welliannau wedi'u cwblhau.

Beth sy'n digwydd yn ystod cyfnod 3?

Yn ystod cyfnod 3, bydd y Cynulliad yn ystyried ac yn cwblhau unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur arfaethedig (y mae'n bosibl iddo gael ei ddiwygio o ganlyniad i unrhyw welliannau a basiwyd yn ystod cyfnod 2).

Yn ystod cyfnod 3, caiff unrhyw Aelod gyflwyno gwelliant i Fesur arfaethedig, ond y Llywydd fydd yn dewis y gwelliannau hynny i'w hystyried gan y Cynulliad. Gellir grwpio gwelliannau ar bynciau tebyg er mwyn eu trafod.

Mae cyfnod 3 ar ben pan fydd pob gwelliant wedi'i gwblhau, oni bai bod y Cynulliad yn cytuno i drafodion pellach yn ystod cyfnod 3, sy'n rhoi'r cyfle olaf i unrhyw welliannau technegol neu ganlyniadol gael eu hystyried gan y Cynulliad.

Beth sy'n digwydd yn ystod cyfnod 4?

Cyfnod 4 yw'r cyfnod olaf yn y broses o ystyried Mesur arfaethedig. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Cynulliad yn pleidleisio a fydd yn cymeradwyo'r Mesur arfaethedig ar ei ffurf derfynol.

Beth fydd yn digwydd os caiff y Mesur arfaethedig ei basio?

Os caiff ei basio gan y Cynulliad, bydd rhaid i'r Mesur arfaethedig dderbyn cymeradwyaeth Frenhinol gan y Frenhines cyn iddo ddod yn ddarn ffurfiol o ddeddfwriaeth.

Beth fydd yn digwydd os na chaiff y Mesur arfaethedig ei basio?

Os na fydd y Cynulliad yn pasio'r Mesur arfaethedig, bydd yn syrthio ac ni chymerir unrhyw gamau eraill mewn perthynas ag ef.

Beth yw'r cyfnod ailystyried?

Ar ôl i Fesur gael ei basio gan y Cynulliad, mae'n bosibl y bydd yn rhaid iddo fynd trwy gyfnod arall os codwyd unrhyw gwestiynau, naill ai gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Goruchaf Lys, ynghylch a oedd gan y Cynulliad y pwer (h.y. cymhwysedd deddfwriaethol) i wneud y Mesur neu agweddau penodol arno.

Beth yw'r broses ar gyfer Mesur arfaethedig Pwyllgor?

Caiff unrhyw bwyllgor gyflwyno Mesur arfaethedig sy'n ymwneud â chylch gwaith y pwyllgor hwnnw.

Ar ôl iddo gael ei gyflwyno, bydd y Mesur arfaethedig yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uchod ar gyfer Mesurau arfaethedig heblaw na chaiff egwyddorion cyffredinol pwyllgor eu hystyried oherwydd bydd disgwyl i'r pwyllgor ymgymryd â'r gwaith hwn fel rhan o'r paratoadau ar gyfer ei gynigion.

Beth yw'r broses ar gyfer Mesur arfaethedig Aelod?

Caiff unrhyw Aelod gyflwyno Mesur arfaethedig Aelod, ar yr amod bod ei enw wedi'i ddewis ar hap o'r balot gan y Llywydd.

Beth yw'r broses ar gyfer balot?

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer balot, rhaid i Aelod sydd am gyflwyno Mesur arfaethedig gyflwyno'r canlynol yn gyntaf:

  • teitl y Mesur arfaethedig; a
  • Memorandwm Esboniadol.

Bydd y Llywydd yn rhoi o leiaf 7 diwrnod o rybudd i Aelodau o'i fwriad i gynnal balot er mwyn rhoi amser i Aelodau baratoi'r dogfennau gofynnol.

Bydd yr Aelod y caiff ei enw ei dynnu ar hap o'r balot yn cael y cyfle i gyflwyno ei achos dros ddeddfwriaeth gerbron y Cynulliad a gall y Cynulliad bleidleisio a all y cynnig fwrw ymlaen ymhellach.

Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r cynnig, caiff yr Aelod gyflwyno Mesur arfaethedig yn ffurfiol, a gaiff ei ystyried gan y Cynulliad yn y ffordd arferol.

Mesur Arfaethedig
Yn ôl i'r brig>>