Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Datblygiad Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) a Mesurau

Mae'r dudalen yma yn cynnig gywbodaeth cryno ar bob GCD a Mesur arfaethedig ers mis Mai 2007 (dechrau'r Trydydd Cynulliad).

Caiff yr wybodaeth hon ei chasglu gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a chaiff ei ddiweddaru'n gyson. Ceir rhagor o wybodaeth am Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, Mesurau a'r broses ddeddfwriaethol ar dudalennau Deddfwriaeth y wefan.

GCD

Gorchmynion arfaethedig y Llywodraeth

Cyflwynwyd 14 GCD arfaethedig gan y Llywodraeth hyd yn hyn. O'r rhain, mae 6 wedi cwblhau'r broses.

Gorchymyn Cyflwynwyd Statws
Addysg a hyfforddiant Mehefin 2007 Wedi dod i ben (Cafwyd cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Ebrill 2008)
Diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff Mehefin 2007 Wedi dod i ben (Chwefror 2010). Yn disgwyl cymeradwyaeth Brenhinol
Plant hawdd eu niweidio Gorffennaf 2007 Wedi dod i ben (Cafwyd cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Rhagfyr 2008)
Gofal cartref Tachwedd 2007 Wedi dod i ben (Cafwyd cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Gorffennaf 2008)
Tai fforddiadwy Rhagfyr 2007 Cymeradwywyd gan y Cynulliad yn unig (mis Ionawr 2009). Cyflwynwyd Gorchymyn arall yn y maes (gweler Cartrefi cynaliadwy, isod)
Y diwydiant cig coch Medi 2008 Wedi dod i ben (Cafwyd cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Gorffennaf 2009)
Gofalwyr Rhagfyr 2008 Wedi dod i ben (Cafwyd cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Tachwedd 2009)
Eithriadau i faterion Mehefin 2009 Wedi dod i ben (Cafwyd cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Tachwedd 2009)
Yr iaith Gymraeg Chwefror 2009 Wedi dod i ben (Rhagfyr 2009). Yn disgwyl cymeradwyaeth Brenhinol.
Diwylliant Mehefin 2009 Pwyllgor y Cynulliad, Pwyllgor Materion Cymreig Ty'r Cyffredin a Phwyllgor Cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi yn craffu ar y Gorchymyn cyn y broses deddfu
Llywodraeth leol Gorffennaf 2009 Gosodwyd gorchymyn drafft (Chwefror 2010)
Llywodraethu ysgolion Hydref 2009 Pwyllgor y Cynulliad, Pwyllgor Materion Cymreig Ty'r Cyffredin a Phwyllgor Cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi yn craffu ar y Gorchymyn cyn y broses deddfu
Cartrefi cynaliadwy Tachwedd 2009 Pwyllgor y Cynulliad, Pwyllgor Materion Cymreig Ty'r Cyffredin a Phwyllgor Cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi yn craffu ar y Gorchymyn cyn y broses deddfu
Trafnidiaeth Rhagfyr 2009 Pwyllgor y Cynulliad, Pwyllgor Materion Cymreig Ty'r Cyffredin a Phwyllgor Cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi yn craffu ar y Gorchymyn cyn y broses deddfu

Brig

Gorchmynion arfaethedig Aelodau

Cyflwynwyd 2 GCD arfaethedig gan Aelodau'r Cynulliad hyd yn hyn. Ar hyn o bryd nid oes un o'r rhain wedi cwblhau'r broses.

Gorchymyn Cyflwynwyd Statws
Darparu gwasanaethau iechyd meddwl Chwefror 2008 Wedi dod i ben (Chwefror 2010). Yn disgwyl cymeradwyaeth Brenhinol
Diogelwch tân yn y cartref Chwefror 2008 Cymeradwywyd gan y Cynulliad. Ni gymeradwywyd gan Senedd y DU hyd yn hyn (Ionawr 2010)
Darparu gwasanaethau bysiau a choetsys Heb ei gyflwyno eto Y Cynulliad wedi caniatáu amser i gyflwyno'r GCD arfaethedig (Ebrill 2008)
Dangos motiffau a fflagiau cenedlaethol ar blatiau cofrestru cerbydau Heb ei gyflwyno eto Y Cynulliad wedi caniatáu amser i gyflwyno'r GCD arfaethedig (Hydref 2008)
Arwynebau caled Heb ei gyflwyno eto Y Cynulliad wedi caniatáu amser i gyflwyno'r GCD arfaethedig (Gorffennaf 2009)
Cynllun parcio ffafriol

-

Y Cynulliad heb ganiatáu amser i gyflwyno'r GCD arfaethedig. (Rhagfyr 2009
Gofalwyr

-

Tynwyd yn ôl (Rhagfyr 2008). Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei cynigion ei hun yn y maes yma.
Trefniadau etholiadol llywodraeth leol

-

Y Cynulliad heb ganiatáu amser i gyflwyno'r GCD arfaethedig. (Mehefin 2008). Ni fydd yn datblygu ymhellach.
Statws iaith swyddogol

-

Y Cynulliad heb ganiatáu amser i gyflwyno'r GCD arfaethedig. (Rhagfyr 2008). Ni fydd yn datblygu ymellach.
Cynlluniau teithio datblygiadau mawr

-

Y Cynulliad heb ganiatáu amser i gyflwyno'r GCD arfaethedig (Mawrth 2009). Ni fydd yn datblygu ymhellach.

Brig

Gorchmynion arfaethedig Pwyllgorau

Cyflwynwyd 1 GCD arfaethedig gan Bwyllgor hyd yn hyn. Ar hyn o bryd nid oes yr un o'r rhain wedi cwblhau'r broses.

GCD Cyflwynwyd Statws
Priffyrdd a thrafnidiaeth Mehefin 2009 Y Pwyllgor i baratoi GCD drafft

Brig

Mesurau

Mesurau arfaethedig y Llywodraeth

Cyflwynwyd 9 Mesur arfaethedig gan y Llywodraeth hyd yn hyn. O'r rhain, mae 5 wedi cwblhau'r broses.

Mesur Cyflwynwyd Statws
Gwneud iawn am gamweddau’r GIG Gorffennaf 2007 Wedi dod i ben (Cafwyd Cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Gorffennaf 2008)
Teithio gan ddysgwyr Ebrill 2008 Wedi dod i ben (Cafwyd Cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Rhagfyr 2008)
Dysgu a sgiliau Gorffennaf 2008 Wedi dod i ben (Cafwyd Cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Mai 2009)
Llywodraeth leol Medi 2008 Wedi dod i ben (Cafwyd Cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Mehefin 2009)
Plant a theuluoedd Mawrth 2009 Wedi dod i ben (Tachwedd 2009) Heb dderbyn cymeradwyaeth Brenhinol hyd yn hyn
Addysg Ebrill 2009 Wedi dod i ben (Cafwyd Cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Rhagfyr 2009)
Codi ffioedd am wasanaethau gofal cymdeithasol Mehefin 2009 Wedi dod i ben (Ionawr 2010) Heb dderbyn cymeradwyaeth Brenhinol hyd yn hyn
Diwydiant cig coch Hydref 2009 'Cyfnod 3' (Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl)
Strategaethau ar gyfer gofalwyr Ionawr 2010 'Cyfnod 1' (Y Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig)

Brig

Mesurau arfaethedig Aelodau

Cyflwynwyd 3 Mesur arfaethedig gan Aelodau'r Cynulliad hyd yn hyn. Mae un o'r rhain wedi cwblhau'r broses.

Mesur Cyflwynwyd Statws
Bwyta'n iach mewn ysgolion Mawrth 2008 Wedi dod i ben. Cafwyd Cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Hydref 2009)
Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) Gorffenaf 2008 'Cyfnod 2' (Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl)
Ailgylchu Tachwedd 2008 'Cyfnod 1' (Y Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig)
Asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg Heb ei gyflwyno eto Wedi’i ddethol mewn balot (Mai 2009)
Hawliau gweithwyr ag anghenion dysgu ychwanegol Heb ei gyflwyno eto Y Cynulliad wedi caniatáu amser i gyflwyno'r Mesur arfaethedig (Tachwedd 2009)
Cau ysgolion (ymgynghori a chategorïau)

-

Y Cynulliad heb ganiatáu amser i gyflwyno'r Mesur arfaethedig (Tachwedd 2007). Ni fydd yn datblygu ymhellach.

Gwasanaethau ieuenctid

-

Y Cynulliad heb ganiatáu amser i gyflwyno'r Mesur arfaethedig (Mai 2008). Ni fydd yn datblygu ymellach.
Anghenion addysgol arbennig (gwybodaeth)

-

Y Cynulliad heb ganiatáu amser i gyflwyno'r Mesur arfaethedig (Tachwedd 2008). Ni fydd yn datblygu ymhellach.

Brig

Mesurau arfaethedig Pwyllgorau

Cyflwynwyd 1 Mesur arfaethedig gan Bwyllgor hyd yn hyn. Mae'r Mesur wedi cwblhau'r broses.

Mesur Cyflwynwyd Statws
Comisiynydd Safonau Mawrth 2009 Wedi dod i ben (Cafwyd Cymeradwyaeth Brenhinol ym mis Rhagfyr 2009)

Brig

Mesurau arfaethedig Comisiwn y Cynulliad

Cyflwynwyd 1 Mesur arfaethedig gan Gomisiwn y Cynulliad hyd yn hyn. Ar hyn o bryd nid oes yr un o'r rhain wedi cwblhau'r broses.

Mesur Cyflwynwyd Statws
Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Hydref 2009 'Cyfnod 1' (Y Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig)


Gwasanaeth e-bost hysbysu

Gellir cofrestru ar wefan y Cynulliad i dderbyn e-byst hysbysu pan fo'r tudalen hon wedi ei diweddaru.

Brig