Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tudalen archif - Datblygiad Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) a Mesurau

Mae'r tablau isod yn crynhoi datblygiad pob GCD a Mesur cyfredol. Mae rhagor o wybodaeth ar y Gorchmynion a Mesurau sydd ar y gweill ar gael ar ein tudalen Datblygiad Gorchmynion Cymhwyster Deddfwriol (GCD) a Mesurau.

GCD | Mesurau

GCD

Gorchymyn

Datblygiad

Addysg a hyfforddiant

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg a Hyfforddiant) 2008 (teitl blaenorol – Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007)

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Mae’r Gorchymyn yn rhoi rhagor o gymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy fewnosod Mater newydd (Mater 5.17) ym Maes 5: Addysg a Hyfforddiant yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i alluogi bod newidiadau'n cael eu gwneud drwy Fesur Cynulliad, ynghylch unrhyw agwedd ar drefnu a chyflenwi Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru. Bydd y cymhwysedd deddfwriaethol hwn hefyd yn galluogi ymestyn y diffiniad o Anghenion Addysgol Arbennig i gynnwys anghenion addysgol ychwanegol a thrwy hynny osod rhwymedigaethau ar gyrff cyhoeddus ynghylch y categori estynedig hwnnw o ddysgwr a gweithredu unrhyw addasiad mewn polisi y dymunir ei gael ynghylch strwythur y broses lunio datganiadau a darpariaethau'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig.

Y Cynulliad:

San Steffan:

Gofal cartref

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008 (teitl blaenorol - Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 4) 2008)

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Mae’r Gorchymyn yn rhoi rhagor o gymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes Lles Cymdeithasol (Maes 15 yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006). Mae'r Gorchymyn hwn yn cwmpasu taliadau y mae awdurdodau lleol yn eu codi ar gyfer gofal cymdeithasol preswyl. Nid yw’n galluogi'r Cynulliad i ddeddfu o ran taliadau y mae darparwyr gofal preifat yn eu codi am ofal cymdeithasol dibreswyl. Prif ddiben y Gorchymyn yw rhoi grym i'r Cynulliad gymeradwyo Mesurau Cynulliad o dan Ran 3 Deddf Llywodraeth Cymru, a fydd yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i reoleiddio'r gwaith o bennu taliadau a dileu'r anghysondebau eang sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Y Cynulliad:

San Steffan:

Plant hawdd eu niweidio

The National Assembly for Wales (Legislative Competence) (Social Welfare and Other Fields) Order 2008 (teitl blaenorol – Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007)

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Mae’r Gorchymyn yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) wneud Mesurau Cynulliad ynghylch lles pob plentyn a pherson ifanc gan gynnwys plant hawdd eu niweidio ac am fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru, drwy ychwanegu materion at Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Ym maes lles cymdeithasol y mae'r prif welliant (Materion 15.2 i 15.8), er bod materion cysylltiedig ym meysydd addysg a hyfforddiant (Mater 5.18), a chwaraeon a hamdden (Mater 16.1).

Y Cynulliad:

San Steffan:

Y diwydiant cig coch

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Ammaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) 2009

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Mae'r Gorchymyn yn rhoi rhagor o gymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad ym maes amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu cefn gwlad (Maes 1 yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006). Mae'n rhoi’r hyblygrwydd i’r Cynulliad Cenedlaethol drefnu strwythur y gwaith o hyrwyddo, marchnata a datblygu’r sector cig coch yng Nghymru.

Y Cynulliad:

San Steffan:

Gofalwyr

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Byddai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes lles cymdeithasol (maes 15 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006). Roedd rhaglen lywodraethu “Cymru’n Un” Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys ymrwymiad i baratoi deddfwriaeth newydd ynghylch gofalwyr yn hytrach na dibynnu ar ddulliau atgyfnerthu sy’n bodoli eisoes yn unig, megis mesurau perfformiad ac arolygu, cymhellion ariannol a phwerau cyfeirio. Mae’r cynnig hwn am gymhwysedd deddfwriaethol yn codi o’r angen i gefnogi’r gofal a ddarperir gan ofalwyr ac i hyrwyddo lles gofalwyr

Y Cynulliad:

San Steffan:

Eithriadau i faterion

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Eithriadai i Faterion) 2009

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Mae'r Gorchymyn drafft yn gwneud diwygiadau technegol i Adran 94 ac Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Effaith y diwygiadau hyn yw cymhwyso'r eithriadau sydd wedi'u rhestru yn y tabl hwn ar hyn o bryd i'r holl Faterion yn Rhan 1 o Atodlen 5. Mae rhestr o eithriadau yn disodli'r tabl o eithriadau, ac mae'r rhestr hon yn ymddangos mewn paragraff A1 newydd yn Rhan 2 o Atodlen 5. Mae Adran 94 o Ddeddf 2006 wedi'i diwygio er mwyn nodi'n glir nad yw darpariaeth Mesur Cynulliad o fewn cymhwysedd os yw'n dod o fewn yr eithriadau sydd wedi'u rhestru yn y paragraff hwnnw.

Y Cynulliad:

San Steffan:

Tai fforddiadwy

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai) 2009 (teitl blaenorol - Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008)

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn rhoi rhagor o gymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad ym maes Tai (Maes 11 yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006). Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Mesurau Cynulliad ynghylch gwaredu anheddau a thai annedd gan landlordiaid cymdeithasol. Mae cwmpas y Gorchymyn yn cynnwys atal dros dro yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael mewn ardaloedd lle mae pwysau am dai.

Cymeradwywyd y Gorchymyn gan y Cynulliad yn unig. Tynwyd yn ôl a gosodwyd Gorchymyn arall yn ei le Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010

Y Cynulliad:

San Steffan:

Gofalwyr

Cynigiwyd gan Helen Mary Jones AM

Y Cynulliad:

Trefniadau etholiadol llywodraeth leol

Cynigiwyd gan Peter Black AC

Y Cynulliad:

Statws iaith swyddogol

Cynigiwyd gan David Melding AC

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn ychwanegu Mater dan Faes 20 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i ddarparu ar gyfer creu Comisiynydd Ieithoedd a chaniatáu darparu ar gyfer gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Y Cynulliad:

Cynlluniau teithio datblygiadau mawr

Cynigiwyd gan Jenny Randerson AC

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu i fynnu bod pob datblygiad defnydd tir mawr yn cyhoeddi ac yn gweithredu ‘cynllun teithio’ fel un o’r amodau caniatâd cynllunio.

Y Cynulliad:

Cynllun parcio ffafriol

Cynigiwyd gan Darren Millar AC

Byddai'r Gorchymyn hwn yn caniatau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ynghlch ac yng nghyswllt ffafriaeth parcio mewn amgylchiadau penodedig.

Y Cynulliad:

Brig

Mesurau

Mesur

Datblygiad

Gwneud iawn am gamweddau’r GIG

Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru                                                                                                        

Bydd Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) yn galluogi Gweinidogion Cymru i greu, mewn is-ddeddfwriaeth, fanylion y prosesau i’w dilyn gan gyrff y GIG yng Nghymru pan fyddant yn delio â sefyllfaoedd lle penderfynir, ar ôl ymchwiliad cychwynnol, y gallai esgeuluster fod wedi digwydd ond lle mae gwerth y digollediad yn debygol o fod yn gymharol isel. Bydd hyn yn galluogi cleifion i geisio iawn heb gychwyn achos cyfreithiol mewn llys a byddai’n un rhan o gyfres o drefniadau integredig, a fyddai hefyd yn cynnwys gweithdrefn gwynion y GIG a’r gweithdrefnau ar gyfer delio â digwyddiadau.

Teithio gan ddysgwyr

Mesur ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Bydd y Mesur yn gwneud cyfraith ynghylch teithio gan ddisgyblion ysgol a phobl ifanc 16-19 oed sy’n derbyn addysg neu hyfforddiant yng Nghymru. Bydd y Mesur yn rhoi mwy o hawl i blant ysgolion cynradd gael cludiant am ddim i’r ysgol os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol; yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur, hybu mynediad i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg; ac yn rhoi’r pwer i awdurdodau lleol newid amserau sesiynau ysgolion os gall hynny arwain at welliannau o ran trefniadau cludo neu gynaliadwyedd amgylcheddol.

Dysgu a sgiliau

Mesur ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Bydd y Mesur hwn yn creu cyfraith ar gyfer addysg disgyblion ysgol a phobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant 14-19 oed yng Nghymru. Mae’r darpariaethau statudol yn darparu modd o osod fframwaith cyfreithiol fydd yn adlewyrchu’r polisi Llwybrau Dysgu 14-19 ac yn darparu modd o ddatblygu’r fframwaith cyfreithiol hwnnw wrth i’r polisi ddatblygu. Prif bwrpas y Mesur hwn yw creu hawl i ddysgwyr 14-19 oed yng Nghymru i ddewis dilyn cwrs astudio o gwricwlwm lleol, a adwaenir eisoes o fewn Rhwydweithiau Dysgu 14-19 fel ‘Dewislen Opsiynau’.

Llywodraeth leol

Mesur ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Mae’r pwerau i wneud y Mesur hwn wedi’u cynnwys ym Materion 12.4 ac 12.5 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Amcan cyffredinol y Mesur yw rhoi rhagor o hyblygrwydd i awdurdodau ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau mewn cyd-destun cenedlaethol; creu cyfundrefn statudol sy’n integreiddio gwaith cynllunio strategol yn well yn y tymor hir ac yn gwella gwasanaethau yn y tymor byr; a diwygio’r gyfraith yn well er mwyn adlewyrchu natur a gwaith unigryw llywodraeth leol yng Nghymru.

Bwyta'n iach mewn ysgolion (Cymru)

Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009

Cynigiwyd gan Jenny Randerson AC

Prif ddiben y Mesur arfaethedig yw cynnig polisi cyfannol, cynhwysfawr, wedi’i wneud yng Nghymru, yn ymwneud â maeth sy’n sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hybu a’i gefnogi ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol Cymru. Bydd y Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i annog rhagor o ddisgyblion i fwyta prydau ysgol yn gyffredinol ac i wneud yn siwr bod cynifer â phosibl o’r rheiny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn eu bwyta. Rhaid i Awdurdodau Addysg Lleol hefyd gymryd camau rhesymol i ofalu bod enwau’r plant hynny sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael eu diogelu.

Comisiynydd Safonau

Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009

Cynigiwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Ar hyn o bryd, nid oes rheidrwydd cyfreithiol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael Comisiynydd Safonau. Bydd y Mesur yn sefydlu hon yn swydd statudol yng Nghymru.

Addysg

Mesur ynghylch Addysg (Cymru) 2009

Cynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Pwrpas y Mesur yw ymestyn hawliau plant drwy ddarparu'r hawl iddynt wneud apeliadau anghenion addysgol arbennig a hawliadau o wahaniaethu ar sail Anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (Y Tribiwnlys). Mi fydd yn diwygio deddfwriaeth sydd yn rhoi'r hawl i rhieni apelio a gwneud hawliadau i'r Tribiwnlys.

Cau ysgolion (ymgynghori a chategorïau)

Cynigiwyd gan Mike German AC

Gwasanaethau ieuenctid

Cynigiwyd gan Peter Black AC

Anghenion addysgol arbennig (gwybodaeth)

Cynigiwyd gan Alun Cairns AC

Byddai’r Mesur hwn yn galluogi plant yng Nghymru i dderbyn buddion tebyg i’r rhai a roddir i blant yn Lloegr drwy’r Mesur Seneddol Anghenion Addysgol Arbennig (Gwybodaeth).

Brig

Gwasanaeth e-bost hysbysu

Gellir cofrestru ar wefan y Cynulliad i dderbyn e-byst hysbysu pan fo'r tudalen hon wedi ei diweddaru.

Brig