Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Is-ddeddfwriaeth

Gweinidogion sy’n gwneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau sydd a ddirprwywyd iddynt gan Ddeddf Seneddol neu, maes o law, gan Fesur Cynulliad. Maent yn cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau, cynlluniau a gallant gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.

Mae gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n berthnasol i Is-ddeddfwriaeth i’w gweld yn Rheolau Sefydlog 24 a 25. Bydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn craffu ar Is-ddeddfwriaeth o dan Reol Sefydlog 15.

Y Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

Yng nghyswllt cyfran fechan o’r eitemau pwysicaf o ddeddfwriaeth mae angen cymeradwyaeth (y weithdrefn gadarnhaol) ac mae’n rhaid i’r Cynulliad eu cymeradwyo’n ffurfiol cyn iddynt ddod i rym.
Mwy>>

Y Weithdrefn Penderfyniad Negyddol

Mae’r rhan fwyaf o Is-ddeddfwriaeth yn agored i gael ei dirymu (y weithdrefn negyddol), yn amodol ar y pwer sydd gan y Cynulliad i benderfynu gwneud hynny.
Mwy>>

Is-ddeddfwriaeth - Arall                        

Mae “Is-ddeddfwriaeth – arall” yn cynnwys deddfwriaeth nad oes unrhyw weithdrefn ffurfiol wedi’i phennu ar ei chyfer ac eithrio’i gosod gerbron y Cynulliad. Mae eitemau eraill o is-ddeddfwriaeth (fel gorchmynion cau ffyrdd) i’w gweld ar wefan Llywodraeth y Cynulliad, a ni fyddent yn ymddangos yma.
Mwy>>

Llythyrau ynghylch torri'r rheol 21 diwrnod

Yn ôl Deddf  Llywodraeth Cymru 2006 os na chaiff offeryn ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf 21 diwrnod cyn iddo ddod yn weithredol, rhaid hysbysu’r Llywydd.  Mwy>>

Offerynnau Statudol a Wnaed ar y Cyd â'r Ysgrifennydd Gwladol

Rhaid gosod offerynnau a wneir ar y cyd gan Weinidogion Cynulliad Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol gerbron y Cynulliad a Senedd y DU (ni fydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn ystyried y rhain, yn unol â Rheol Sefydlog 15.7 (ii)). Mwy>>

Gorchmynion a wneir yn unol â Gweithdrefnau Cynulliad Arbennig

Darn o ddeddfwriaeth ddirprwyedig yw gorchymyn gweithdrefn arbennig. Ni chaniateir i Orchmynion y mae’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig yn gynnwys iddynt gael eu gwneud na’u cadarnhau gan y Gweinidog hyd nes y cydymffurfiwyd â’r gweithdrefnau a nodir yn Rheol Sefydlog 25.
Mae Rheol Sefydlog 25 yn cynnwys darpariaeth i gyflwyno deisebau i Lywydd y Cynulliad yn erbyn y Gorchymyn gweithdrefn arbennig drafft. Mae gan y Llywydd ganllawiau ysgrifenedig ar gyfer cyflwyno deiseb o’r fath. Mwy>>