Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion
Diabetes UK Cymru
Diolch am y cyfle i gynnig sylwadau ar y Mesur Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion. Rwyf yn ymateb ar ran Diabetes UK.
Mae Diabetes UK yn cefnogi'r mesur arfaethedig hwn fel cyfraniad pwysig at hybu bwyta'n iach ac felly at leihau'r perygl i fwy o blant ddatblygu diabetes Math 2.
Hoffwn gynnig yn sylw ar adran 7.1 o'r mesur drafft, sef y cynnig i greu rheoliadau ynghylch uchafsymiau braster, halen, siwgr ac ychwanegion artiffisial. Credaf y byddai'n fuddiol pe bai unrhyw reoliadau o'r fath yn gwahaniaethu rhwng braster dirlawn (saturated) a braster annirlawn (unsaturated) a monoannirlawn (monounsaturated), a hefyd rhwng y siwgr sydd i'w gael yn naturiol mewn bwydydd heb eu prosesu - fel ffrwythau - a'r siwgr sydd wedi'i ychwanegu at fwydydd wedi'u prosesu.
Andrew Misell
Polisi a Materion Cyhoeddus
Policy and Public Affairs
Diabetes UK Cymru
