Mae’n bleser gennyf ymateb ar ran Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.
Cred UCAC y bydd y mesur yn hybu dull cyfannol “ysgol gyfan”. Byddai’n sicrhau cysondeb trwy Gymru ac yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bwyta’n iach. Nid yw UCAC yn credu bod angen pwerau ychwanegol i’r mesur ar gyfer hybu hyn ymhellach.
Bydd rhaid, nid yn unig sicrhau hawl yr ysgol / AALl i brynu bwydydd a chynnyrch lleol ond hefyd eu hannog i wneud hyn. Cytuna UCAC bod y cyflymdra y gweithredwyd hyn yn Lloegr wedi gweithio yn erbyn y pwrpas, ac wedi troi plant yn erbyn y bwydydd sydd yn cael eu cynnig.
Mae’r Mesur arfaethedig nid yn unig yn ymwneud â phrydiau bwyd ar gyfer plant ysgol, ond hefyd yn “rheoleiddio'r hyn a ddarparir mewn siopau bwyd, ysgolion a pheiriannau gwerthu.” Mae UCAC yn ymwybodol bod rhai sefydliadau ble mae’r adeiladu wedi ei ariannu o dan y cynllun PFI, ac mai gan y cwmni ariannu mae’r hawl i redeg peiriannau gwerthu. Rydym yn ymwybodol bod y peiriannau hyn yn gwerthu nwyddau sydd yn mynd yn groes i bolisi bwyta’n iach yr ysgolion. Ond oherwydd mai gan y cwmni ariannu mae’r hawliau, nid oes gan yr ysgol yr hawl i ymyrryd. Bydd angen, felly, sicrhau bod y Mesur yn rheoli hawliau’r cwmnïau ariannu i werthu yn eu peiriannau'r hyn sydd yn groes i argymhellion y mesur.
Mae UCAC yn cytuno, gan ystyried ein sylwadau i gwestiynau 5, 6 a 7.
Mae UCAC yn ymwybodol y byddai gorfodi Penaethiaid i baratoi adroddiad ysgrifenedig blynyddol ar gyfer yr Awdurdod Addysg Lleol, y Llywodraethwyr, y rhieni a’r cyhoedd yn ychwanegiad at lwyth gwaith y Pennaeth. A fyddai disgwyl i’r adroddiad cael ei anfon allan at y rhieni ar y cyd gyda’r adroddiad blynyddol ar gyfer y cyfarfod blynyddol gyda’r Llywodraethwyr, neu ydi’r adroddiad i’w anfon allan ar wahân?
Ai’r ysgol fydd yn derbyn y gost am gynhyrchu’r adroddiad a thalu amser gweinyddwyr i’w ddatblygu?
Nid oes unrhyw arweiniad ynglyn â hyd a manylder yr adroddiad. Byddai hyn yn siwr o arwain ac anghysondebau, yn enwedig wrth ystyried y bydd Arolygwyr yn adrodd yn ôl arno.
Argymhellion UCAC:
Rydym yn UCAC yn ymwybodol bod Swyddogion Addysg yn yr AALl o dan bwysau gwaith cynyddol, ac rydym o’r farn y dylid sicrhau y bydd cyllid digonol ar gyfer cyflogi staff ychwanegol i dderbyn adroddiadau'r ysgolion unigol ac i baratoi’r adroddiad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae UCAC wedi argymell yn Rhif 5 mai am dair blynedd yn unig y dylid paratoi’r adroddiadau blynyddol. Dylai’r Mesur gael ei weithredu a’i sefydlu yn ystod y tair blynedd gyntaf, fel nad oes angen adroddiad blynyddol oddi wrth bob ysgol yng Nghymru, nac ychwaith oddi wrth bob AALl yng Nghymru.
Fe fyddai ei gynnwys yn adroddiad blynyddol Estyn yn ddigonol o hynny ymlaen.
Rwyf yn ymateb ar ran aelodau UCAC, ac nid ar ran sefydliad unigol. Rydym eisoes wedi nodi ein pryderon am y costau ychwanegol a ddaw yn sgil gweithredu’r Mesur, nid yn unig costau papur a llungopïo, ond hefyd costau staff ar gyfer paratoi’r adroddiad, a’i gynhyrchu.
A fydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno fel y bydd cytundebau am gyflawni bwydydd i’r ysgolion yn cael eu hadnewyddu, ynteu a fydd gan y Mesur yr hawl i newid y cytundebau cyn iddynt ddod i ben? Efallai y byddai newid y cytundebau cyn iddynt ddod i ben yn gost ychwanegol.
Nid yw UCAC yn credu mai’r ysgolion a’r AALl sydd i dalu am unrhyw gostau ychwanegol wrth weithredu’r Mesur. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru yw ei ariannu’n llawn. Mae UCAC wedi argymell mai am dair blynedd yn unig y dylai’r adroddiadau gael eu cyflwyno, oherwydd fel arfer, am dair blynedd yn unig y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu cynlluniau unigol; ar ôl hynny mae’r arian yn cael ei gynnwys yn y setliad blynyddol. Mewn geiriau eraill, mae’r arian yn mynd ar goll yn niwl cyllido addysg yng Nghymru.
Nid yw UCAC yn cefnogi unrhyw drefn ariannu sy’n ddibynnol ar ysgolion /AALl yn gwneud bid neu gais unigol am arian. Dylid sefydlu fformiwla deg sydd yn sicrhau bod pob Awdurdod a phob ysgol yn medru cwrdd â gofynion y Mesur yn llawn heb ychwanegu dim at eu costau.
20 Chwefror 2008
UCAC
Pen Roc
Rhodfa’r Môr
ABERYSTWYTH
Ceredigion
SY23 2AZ
01970 639950 / ucac@athrawon.com