Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (2007 - 2011)
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru wedi cael ei archwilio’n briodol ac yn drylwyr.
Mae’r Pwyllgor wedi craffu ar adroddiadau sy’n cael eu paratoi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon Llywodraeth Cymru. Mae’r Pwyllgor wedi ymchwilio’n benodol i faterion o ddiddordeb neu faterion sy’n peri pryder sy’n deillio o’r adroddiadau hyn. Mae wedi cyflwyno adroddiadau ac wedi gwneud argymhellion ar ei ganfyddiadau.
