Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Ymdopi â’r her ariannol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus yng Nghymru
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i barodrwydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ymdopi â’r her ariannol a fydd yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod nesaf. Mae hyn yn dilyn ei ystyriaeth o adroddiad Ymchwilydd Cyffredinol Cymru, sef Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus.
Er bod yr ymchwiliad wedi’i seilio ar yr adroddiad, Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd yn ystyried adroddiadau perthnasol eraill a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol fel rhan o gwmpas yr ymchwiliad, wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.
Cwmpas yr ymchwiliad
Penderfynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gyfyngu ei ystyriaeth gychwynnol i’r ddwy agwedd fwyaf ar wariant cyhoeddus sydd wedi’u datganoli: Iechyd a Llywodraeth Leol (yn 2009-10 roedd y swm a ddyrannwyd i’r meysydd hyn yn cyfateb i 67% o gyfanswm cyllideb bloc Cymru). Yn dilyn hyn, bydd y Pwyllgor yn craffu’n ehangach ar barodrwydd Llywodraeth Cymru i arwain gwasanaethau cyhoeddus drwy’r anawsterau ariannol anochel a fydd yn ei hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried y materion hyn ar y lefel ehangaf, gan edrych ar y goblygiadau i’r sector cyfan. Ni fydd yn ystyried darparwyr gwasanaethau cyhoeddus unigol e.e. awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd lleol.
I grynhoi, bydd y Pwyllgor yn:
cymryd tystiolaeth am barodrwydd llywodraeth leol Cymru drwy gymryd tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
cymryd tystiolaeth am barodrwydd y sector iechyd yng Nghymru gan Bennaeth GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
craffu ar barodrwydd Llywodraeth Cymru i arwain gwasanaethau cyhoeddus Cymru drwy’r anawsterau economaidd sy’n eu hwynebu drwy gymryd tystiolaeth gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol
cyflwyno adroddiad ar ei ddarganfyddiadau
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn disgwyl cyflwyno adroddiad ar yr ymchwiliad hwn erbyn diwedd 2010 neu ddechrau 2011.
