Y Pwyllgor Busnes
Adolygiad o Reolau Sefydlog
Mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad wedi cytuno y bydd yn cynnal adolygiad o Reolau Sefydlog. Ein nod yw cytuno ar y Rheolau Sefydlog diwygiedig cyn i’r Cynulliad gael ei ddiddymu adeg etholiad y Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf, fel eu bod ar waith i arwain trafodion y Cynulliad nesaf.
Bydd yr adolygiad yn ystyried newid y Rheolau Sefydlog er mwyn:
gwella eglurder y Rheolau Sefydlog;
eu gwneud yn gyson â’r confensiynau a’r ffyrdd o weithio sydd wedi’u derbyn yn y Trydydd Cynulliad;
caniatáu arloesi neu wella.
Bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried cynigion ar gyfer yr adolygiad o Reolau Sefydlog y Cynulliad yn ystod tymor yr hydref. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn dilyn toriad hanner tymor yr hydref. Cynhelir y cyfarfodydd hyn ar ddydd Mawrth, rhwng 9am a 10am.
Sylwer: Gallai’r cyfarfodydd newid. Cadarnheir y manylion ar yr agenda.
Rheolau Sefydlog y Trydydd Cynulliad
Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar gyfer yr Adolygiad o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru. ·Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth oedd 23 Gorffennaf 2010.
Galwad am dystiolaeth (PDF)
Galwad am dystiolaeth (html)
