Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Dilyn yr ymchwiliad i Dlodi Plant yng Nghymru: Ai Addysg yw’r Ateb
Cylch gorchwyl
Dyma’r cylch gorchwyl ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Dlodi Plant:
Craffu ar y gwaith o gyflawni polisïau Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thlodi plant, yn benodol, y strategaeth tlodi plant, Dyfodol Teg i’n Plant (Chwefror 2005) a’r Cynllun Gweithredu Tlodi Plant (Tachwedd 2006).
Nodi’r meysydd hynny lle mae problemau arbennig o ran gweithredu a chyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
Gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth y Cynulliad ac eraill fel bo angen.
Ym mis Hydref 2010, cytunodd y Pwyllgor i ddod yn ôl at yr ymchwiliad hwn ac adolygu’r argymhellion yn yr adroddiad. Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth lafar mewn tri chyfarfod a chyhoeddir adroddiad ym mis Chwefror 2011.
