YmchwiliaY Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’r ddarpariaeth o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu
Cylch gorchwyl
Ymchwilio i brofiadau plant (11 oed neu iau) a phobl ifanc (rhwng 11 a 18 oed) yng Nghymru, o ran mynediad i fannau diogel i chwarae a chymdeithasu.
Bydd yr ymchwiliad yn:
Ystyried materion sy’n effeithio ar brofiadau chwarae grwpiau penodol o blant a phobl ifanc, gan gynnwys:
plant a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig;
plant a phobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ac sydd o gartrefi incwm isel;
plant a phobl ifanc anabl;
plant a phobl ifanc sy’n perthyn i grwpiau ymylol, fel y gymuned Sipsiwn-Teithwyr.
Adolygu’r materion sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth bresennol, gan gynnwys:
cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth;
yr hyn y gellir ei wneud i wella diogelwch a’r ymdeimlad o ddiogelwch, mewn adnoddau chwarae a hamdden cymunedol presennol;
costau darparu mynediad, gan gynnwys costau cludiant.
Adolygu effeithiolrwydd y polisïau a’r mentrau presennol i ddarparu mannau diogel i chwarae a chymdeithasu, gan gynnwys:
Polisi Chwarae Llywodraeth y Cynulliad, a Chynllun Cyflawni'r Polisi Chwarae;
effeithiau posibl y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru);
y gwasanaethau ieuenctid a hamdden sydd ar gael yn bresennol;
y polisi cynllunio, a rhoi’r polisi ar waith;
y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a weithredir gan Lywodraeth Cymru;
rôl ysgolion ac, yn benodol, ysgolion bro;
parthau tai;
mentrau diogelwch cymunedol, gan gynnwys Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT).
