CYP(3)-CB 014
Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Gyllidebu ar gyfer Plant
Aleb Gan Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn croesawu’r cyfle i gynnig tystiolaeth i ymchwiliad byr y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gyllidebu ar gyfer plant yng Nghymru. Mae hwn yn fater cymhleth ac un sy’n haeddu sylw ar lefel genedlaethol. Mae’r Pwyllog i’w longyfarch, felly, am gymryd y cam pwysig hwn. Ar yr un pryd, beth bynnag, hoffai’r Bwrdd ddatgan ei siom na chawsom ein cynnwys yn y rhestr o gyrff yr ydych yn dymuno ymgynghori â hwy.
Yn gyffredinol, credwn nad yw anghenion plant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn cael eu hystyried yn ddigonol o fewn trefniadau cyllidebu.
Mae’r Bwrdd ei hun yn gyfrifol am ddyrannu cyllid i fudiadau sy’n darparu gwasanaethau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws Cymru. Er enghraifft byddwn yn cynnig grantiau gwerth tua dwy filiwn o bunnau yn ystod 2009-2010 i gyrff megis Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin a Chlybiau Ffermwyr Ifanc gwahanol siroedd. Mae’r grantiau i gyd yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau gwasanaethau a gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Serch hynny, gallwn dystio y byddai pob corff sy’n derbyn grantiau oddi wrthym yn awyddus i dderbyn rhagor er mwyn ehangu eu gwasanaethau. Nid yw’r Bwrdd wedi bod mewn sefyllfa i gynyddu grantiau’r cyrff pwysig hyn oherwydd cyfyngiadau cyllidol.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gyfrifol am gadw gorolwg o addysg cyfrwng Cymraeg a nodwn fod datblygiadau pob cyfnod addysg yn cael eu rhwystro oherwydd diffyg ystyriaeth ddigonol o ran cyllid. Yn y maes blynyddoedd cynnar nid oes digon o leoedd gofal dydd cyfrwng Cymraeg, nid yw Mudiad Ysgolion Meithrin yn gallu datblygu eu gwaith o ran cylchoedd Ti a Fi oherwydd diffyg arian. Mewn sawl sir ar draws Cymru mae awdurdodau addysg lleol yn methu ymateb i’r galw am addysg Gymraeg ac mae nifer o ysgolion yn orlawn. Ni fu’n bosibl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynnig arian i siroedd gynnal prosiectau datblygol o ran eu gwasanaethau athrawon bro hefyd oherwydd diffyg cynnydd yn ein grant oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad. Mae datblygiadau ym maes addysg megis y Cyfnod Sylfaen a Llwybrau Dysgu hefyd wedi tynnu sylw at ddiffyg buddsoddiad angenrheidiol mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac mae’r diffyg cyfleoedd mewn addysg bellach ac addysg uwch yn deillio’n rhannol o ariannu annigonol.
Yn ystod y flwyddyn diwethaf, fe ymatebodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i gynlluniau drafft Plant a Phobl Ifanc. Wrth wneud hyn, daeth yn gwbl amlwg nad oedd y partneriaethau wedi ystyried anghenion plant a phobl ifanc yn llawn. Caed ambell enghraifft lle nid oedd unrhyw sôn am anghenion plant a phobl ifanc oedd yn siarad Cymraeg. Wrth fod y partneriaethau’n symud i drefn cydariannu a chomisiynu, bydd angen sicrhau bod yr anghenion hyn yn rhan greiddiol o’r drefn ystyried blaenoriaethau. Mae mudiadau fel Urdd Gobaith Cymru wedi gweld lleihad yn y cyllid maent yn ei dderbyn gan gynghorau sir. Er enghraifft ar draws Cymru dim ond 13 o siroedd sy’n cyfrannu arian tuag at waith yr Urdd ac mae un o’r siroedd hynny wedi penderfynu peidio â pharhau gyda’r gefnogaeth gyllidol hon. Yn ôl y wybodaeth fwyaf diweddar tua £150,000 o filoedd a gafodd yr Urdd yn y ffordd hon.
’ïon, ac mae hyn yn cynnwys rhai sy’â gofynion ieithyddol contractau; ond gwelwn hefyd fod yna brinder gwybodaeth ar yr hyn y disgwyliwyd i drydydd parti gwneud wrth gyflawni contract a darparu gwasanaeth ar ran awdurdod lleol.
A oes gennych unrhyw enghreifftiau lle cynhelir dadansoddiadau cost a budd ar gyfer polisïau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc (ee asesu costau a manteision ymyriadau neu bolisïau a’u heffeithiau)? Hoffech chi weld hyn yn digwydd yn amlach ac mewn ffordd fwy agored?
Nac oes. Mae hyn yn rhywbeth sy angen sylw gan gyllidwyr ac mae trafodaethau wedi digwydd yma o ran sut mae gwneud hyn.
Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth wleidyddol bwysig yng Nghymru. Yn eich barn chi, i ba raddau y mae’r cyllidebau sy’n cael eu dyrannu yn adlewyrchu’r flaenoriaeth bwysig hon? I ba raddau y mae’r cyllidebau sy’n cael eu dyrannu a’r gwir wariant yng Nghymru yn helpu pobl dlawd?
Ar draws Cymru mae hi wedi bod yn anodd cynllunio ar gyfer delio gyda thlodi plant mewn ffordd ymarferol. Mae angen i gynlluniau Dechrau’n Deg ystyried anghenion plant sy’n siarad Cymraeg. Mae RAISE wedi bod yn fenter dda. Mae Cymorth mewn rhai ardaloedd wedi ceisio lleihau difreintedd plant a phobl ifanc nad ydynt yn mwynhau manteision plant eraill. Mae plant a phobl ifanc mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf wedi Ond at ei gilydd, mae ymdrin â’r maes hwn yn dibynnu’n ormodol ar brosiectau neu ddatblygiadau penodol fel Cychwyn Cadarn neu arian arbennig fel Cymorth.
Yn eich barn chi, i ba raddau y mae plant a phobl ifanc yn gallu cyfrannu i’r broses o bennu cyllidebau a gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a/neu leol, ac a oes gennych unrhyw enghreifftiau o hyn?
Mae hyn yn hanfodol bwysig. Bu grwp cyfeirio o bobl ifanc yn Sir Ceredigion sy’n ddefnyddwyr gwasanaeth a gyllidir gan Gymorth. Gwnaed tipyn o waith yn edrych ar gyllideb Cymorth a’r dyraniadau i brosiectau unigol ar sail gwaith blaenorol a wnaed gan Achub y Plant.
Beth fyddech yn ei newid i’w gwneud yn haws monitro’r gwariant ar blant a phobl ifanc?
Cyhoeddi meini prawf clir a adrodd yn flynyddol ar wariant yn erbyn y meini prawf hyn.
