Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Ymchwiliad i wahaniaethu yn erbyn pobl sy’n byw gyda HIV gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a darparwyr gofal iechyd

Craffu ar Lywodraeth Cymru, a’r sector gofal iechyd, ar y gwaith a wneir i sicrhau bod pobl sy’n byw gydag AIDS neu HIV yn cael mynediad cyfartal i wasanaethau gofal iechyd. Yn cynnwys:

  • ymchwilio i faint o wahaniaethu sy’n bodoli yn erbyn pobl sy’n byw gydag AIDS a HIV ym maes gofal iechyd ac mewn amgylchiadau eraill gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd;

  • dynodi’r canllawiau clinigol presennol ar atal trosglwyddo’r feirws HIV ym maes gofal iechyd ac mewn amgylchiadau eraill gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd;

  • asesu a yw polisïau ac arferion presennol yn briodol, mewn amrywiaeth o amgylchiadau gofal iechyd, gydag ystyriaeth arbennig i ganfod:

    • i ba raddau mae polisïau a gweithdrefnau gofal iechyd wedi’u seilio ar hen gredoau yn hytrach nag ar dystiolaeth glinigol;

    • i ba raddau y defnyddir camau rhagofalus mewn cysylltiad â phob claf yn hytrach na dim ond y cleifion sydd wedi cael profion ar gyfer afiechydon sy’n cael eu cludo yn y gwaed;

  • adolygu pa mor ddigonol yw’r trefniadau presennol i sicrhau bod darparwyr gofal iechyd yn gwybod am anghyfreithlondeb gwahaniaethu yn erbyn pobl sy’n byw gydag AIDS neu HIV yn y gwasanaethau a ddarparant o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Ymgynghori

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar Gorffennaf 2009. Caeodd hwn ar 2 Hydref 2009.

Llythyr ymgynghori (PDF, 100KB)

Ymatebion a gafwyd

Dystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn..

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help