Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Ymchwiliad i'r gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ym myd cyflogaeth

Cytunodd y Pwyllgor ar 24 Mawrth 2009, i gynnal ymchwiliad craffu byr â’i ffocws ar wahaniaethu yn erbyn pobl hŷn mewn cysylltiad â’r byd cyflogaeth.

Cylch Gorchwyl

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad oedd i:

  • adnabod rhai meysydd penodol mewn perthynas â gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ym myd cyflogaeth; a

  • craffu ar bob un o Weinidogion Cymru sydd â phwerau a chyfrifoldebau sy’n effeithio ar bobl hŷn, ac ar ganlyniadau’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ym myd cyflogaeth ers iddi gyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn 2003, yn enwedig mewn perthynas â’r prif feysydd a nodir gan y Pwyllgor.

Dynodir y prif feysydd pryder drwy:

  • Adolygiad o lenyddiaeth ymchwil a datblygu polisi cyfredol yn y maes hwn

  • Grwp cyfeirio bychan, anffurfiol, dros dro o randdeiliaid allweddol.

  • Mae’n bosibl y defnyddir dulliau eraill o nodi materion allweddol pan fo’n briodol, er enghraifft, penodi arbenigwr i gynghori’r Pwyllgor

Grwp Cyfeirio Dros Dro i Randdeiliaid

  • TUC Cymru

  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

  • Prime Cymru

  • Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru

Ymgynghori

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar 3 Ebrill 2009.

Caeodd hwn ar 15 Mai 2009.

Llythyr Ymgynghori

Ymatebion a gafwyd

Tystiolaeth

Mae’r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar  25 Tachwedd 2009 (PDF, 944KB) Cyhoeddwyd ymateb y Gweinidog i’r Mawrth 2010. (PDF, 147KB)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help