Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Hygyrchedd Gorsafoedd Rheilffordd

Ymchwilio i’r camau y gallai Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol eraill eu cymryd i wella hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru.  Bydd yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:

a)  Yr ystod o anawsterau y mae pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn eu cael o ganlyniad i:

  • Blatfformau ac ardaloedd eraill o’r orsaf sy’n anhygyrch  

  • Cyfleusterau anhygyrch, fel toiledau neu wasanaethau gwybodaeth

  • Problemau wrth symud rhwng y trên a’r platfform

  • Gorsafoedd heb staff neu sydd â nifer gyfyngedig o staff;

b)  Y trefniadau sy’n cael eu rhoi ar waith gan Trenau Arriva Cymru (TAC) i helpu pobl i oresgyn yr anawsterau hyn;
c)  Pa mor gyflym y mae hygyrchedd gorsafoedd yn gwella;
d)  Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei wneud i wella hygyrchedd gorsafoedd yng Nghymru;
e)  Awgrymiadau o ardaloedd lle gall Llywodraeth Cymru ac eraill ymyrryd ynddynt.

Statws: Cyhoeddir yr adroddiad ar 27 Hydref 2010

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar 11 Chwefror 2010.  Daeth hwn i ben ar 1 Ebrill 2010.

Llythyr ymgynghori (PDF, 67KB)

Ymatebion a gafwyd

Tystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help