Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Ymchwiliad i effaith polisi Llywodraeth Cymru ar hygyrchedd gwasanaethau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl yng Nghymru
Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad:
Amcan y Pwyllgor yw craffu ar effaith polisi a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hygyrchedd trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn, bydd yr ymchwiliad yn ystyried:
Materion sy’n peri pryder penodol i bobl anabl sy’n defnyddio, neu sydd am ddefnyddio, gwasanaethau trafnidiaeth;
Pa mor ddigonol yw’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’i Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb cysylltiedig ar gyfer gwella hygyrchedd trafnidiaeth yng Nghymru;
Effaith canllawiau Llywodraeth Cymru ar y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol fel dull o wella hygyrchedd trafnidiaeth yng Nghymru;
Yn y meysydd y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt:
Polisïau sy’n anelu at wella hygyrchedd gwasanaethau bysiau, fel y polisi teithio rhatach a thrafnidiaeth gymunedol;
Materion hygyrchedd sy’n wynebu cerddwyr, fel y defnydd o fannau a rennir;
Hygyrchedd gwasanaethau tacsi a cherbydau llogi preifat
Effaith polisi Llywodraeth Cymru ar integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth mewn perthynas ag anghenion a phryderon pobl anabl.
