Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Ymchwiliad y Pwyllgor i'r gwasanaethau addasu a chynnal a chadw cartrefi ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru

Cylch Gorchwyl

Ymchwilio i effeithiolrwydd trefniadau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i gartrefi pobl hŷn yng ngoleuni ymchwiliad blaenorol y cyn Bwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio i dai ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2004 ac adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o addasiadau yn 2005. Yn cynnwys:

  • I ba raddau y maent ar gael ac effeithiolrwydd gwasanaethau cynnal a chadw cartrefi ac addasiadau ar gyfer pobl hŷn trwy Gymru a rhwng daliadaethau tai.

  • Amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a gosod yr addasiadau.

  • Cynnal a chadw gosodiadau a chyfarpar.

  • Effeithiolrwydd teclynnau rheoli perfformiad a ddefnyddir i asesu perfformiad asiantaethau i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i gartrefi.

  • Dyraniad adnoddau i wasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i gartrefi gan Lywodraeth y Cynulliad a’r asiantaethau sydd wedi cael y gwaith o’u darparu.

  • Effeithiolrwydd a chyfleustra i bobl hŷn y broses o gael addasiadau a gwasanaethau cynnal a chadw a thrwsio.

  • I ba raddau maent ar gael a pha mor hygyrch i bobl hŷn yw gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau cynnal a chadw’u cartrefi, a gwasanaethau trwsio ac addasiadau.

Derbyn tystiolaeth ar beth sy’n gweithio, beth nad yw’n gweithio, ac ar beth sydd angen ei wneud i alluogi i ddarpariaeth cynnal a chadw a gwasanaethau addasiadau i’w cartrefi fod ar gael ar gyfer pobl hŷn.

Ymgynghori

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig yn Hydref 2008.

Caeodd hwn ar 19 Rhagfyr 2008

Llythyr Ymgynghori

Ymatebion a gafwyd

Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol

Tystiolaeth

Mae’r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Trawsgrifiadau a phapurau cyfarfoydd

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help