Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Ymchwiliad y pwyllgor i wasanaethau addasu a chynnal a chadw cartrefi ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru
I ymgyngoreion ar y rhestr amgaeedig
Hydref 2008
Mae Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i wasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i’w cartrefi ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Yn yr ymchwiliad bydd y Pwyllgor yn gobeithio edrych pa mor effeithiol yw gwasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i’w cartrefi ar gyfer pobl hŷn sy’n byw gartref ac yn edrych ar y cynnydd a wneir ar wella’r gwasanaethau hyn ers i ddau adroddiad gael eu cyhoeddi:
Adolygiad o Dai ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru gan Bwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio’r Cynulliad (2004);
Adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac Addasiadau eraill i Dai (2005).
Yn gymorth i’w ymchwiliad mae’r Pwyllgor yn dymuno cael tystiolaeth ysgrifenedig ar gynnal a chadw cartrefi a gwasanaethau addasiadau ar gyfer pobl hŷn, yn arbennig o ran y materion a ganlyn:
Amseroedd aros am addasiadau a ddarperir trwy’r awdurdodau lleol, yn cynnwys y rhai a gaiff eu hariannu gan Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl;
Y broses ar gyfer gwneud cais am grantiau a mân addasiadau;
Pa mor ddefnyddiol neu beidio yw gwybodaeth a chyngor ar gynnal a chadw cartrefi a gwasanaethau addasiadau ;
Cynnal a chadw gosodiadau a chyfarpar;
Adnoddau ar gyfer cynnal a chadw cartrefi a gwasanaethau addasiadau;
Rheoli perfformiad gwasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau a ddarperir gan awdurdodau lleol ac asiantaethau Gofal a Thrwsio;
Pa mor gyson yw’r ddarpariaeth gwasanaethau cynnal a chadw ac addasiadau i gartrefi mewn gwahanol rannau o Gymru ar gyfer perchnogion tai a thenantiaid.
Gwahoddiad i gyfrannu i’r ymchwiliad
Nid oes angen i gyflwyniadau roi sylw i’r holl feysydd uchod ac mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan unigolion a chan sefydliadau, yn cynnwys grwpiau pobl hyn. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn gynnar yn 2009.
Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener 19 Rhagfyr 2008 fan bellaf. Os yn bosibl, rhowch fersiwn electronaidd ar ffurf MS Word neu Rich Text, naill ai trwy gyfrwng e-bost i equality.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd cyflwyniadau gan y rhai sydd ar y rhestr ddosbarthu ynghlwm. Buasent yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymlaen i unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ond sydd â chyfraniad i’w wneud i’r adolygiad o bosib. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda gwahoddiad agored i gyflwyno safbwyntiau. .
Datgelu Gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol i adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Ond, os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu. Gall hyn gynnwys gwybodaeth sydd yn y gorffennol wedi’i thynnu gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ar wahân i ddata personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, dylech nodi’n glir pa rannau na ddylid eu datgelu, ynghyd â’ch rhesymau dros atal y deunydd dan sylw. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Ann Jones
Cadeirydd, y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Ymgyngoreion
Cynghorau Iechyd Cymuned
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru
Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe
Cyngor Iechyd Cymuned Bro Morgannwg
Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed
Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd
Cyngor Iechyd Cymuned Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Iechyd Cymuned Ceredigion
Cyngor Iechyd Cymuned Clwyd
Cyngor Iechyd Cymuned Dwyrain Conwy
Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Gwynedd
Cyngor Iechyd Cymuned Gorllewin Conwy
Cyngor Iechyd Cymuned Gwent
Cyngor Iechyd Cymuned Meirionnydd
Cyngor Iechyd Cymuned Merthyr a Chwm Cynon
Cyngor Iechyd Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Iechyd Cymuned Pontypridd a’r Rhondda
Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro
Cyngor Iechyd Cymuned Sir Drefaldwyn
Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin
Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn
Cynghorau
Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Caerdydd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Powys
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Ynys Môn
Byrddau Iechyd Lleol
Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe
Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent
Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili
Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd
Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd Port Talbot
Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion
Bwrdd Iechyd Lleol Conwy
Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd
Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful
Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr
Bwrdd Iechyd Lleol Powys
Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin
Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint
Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen
Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn
Ymddiriedolaethau’r GIG
Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro
Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf
Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent
Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda
Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyrff Elusennol
Cymdeithas Abbeyfield
Cynghrair Henoed Cymru
Age Concern, Caerdydd a’r Fro a Chanolfan Byw’n Iach Cymru
Age Concern Cymru
Cymdeithas Alzheimer
Cancer Research UK
Fforwm Gofal Cymru
Gofal a Thrwsio Cymru
Charities Aid Foundation
Cyngor ar Bopeth
Cartrefi Cymunedol Cymru
Counsel & Care
Croesffyrdd - Gofalu am Ofalwyr
Cyswllt Teulu Cymru
Cynhalwyr Cymru/ Cynghrair Cynhalwyr Cymru
Anabledd Cymru
Disabled Living Foundation
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Help the Aged Cymru
Sefydliad Joseph Rowntree
Cymorth Canser Macmillan
Mencap Cymru
Mind Cymru
Motor Neurone Disease Association
Older People’s Advocacy Alliance
RNIB Cymru
Scope Cymru
Shelter Cymru
Cymdeithas Strôc Cymru
Cymdeithas Tai
Cymdeithas Tai Aelwyd
Cymdeithas Tai Baneswell Cyf
Cymdeithas Tai Bro Myrddin
Grwp Tai Cadarn Cyf
Cymdeithas Tai Cadwyn Cyf
Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd Cy
Cymdeithas Tai Cantref Cyf
Cymdeithas Tai Clwyd Cyf
Cymdeithas Tai Dewi Sant
Cymdeithas Tai Eryri Cyf
Cymdeithas Tai Hafan Cyf
Cymdeithas Tai Cynon –Taf Cyf
Cymdeithas Tai Eastern Valley Cyf
Cymdeithas Tai Teuluoedd (Cymru) Cyf
Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf Cyf
Grwp Tai Gwalia Cyf
Cymdeithas Tai Gwerin (Cymru)
Cymdeithas Tai Hafod Cyf
Cymdeithas Tai Linc-Cymru
Llamau
Cymdeithas Tai Merthyr Tudful Cyf
Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru
Cymdeithas Tai Newydd (1974) Cyf
Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyf
Ymddiriedolaeth Tai Cyfle
Cymdeithas Tai Sir Benfro Cyf
Grwp Tai Pennaf
Cymdeithas Tai Pwyliaid Cyf
Cymdeithas Tai Pontypridd Cyf
Sefydliadau eraill
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Cyngor Gofal Cymru
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Comisiynydd Pobl Hyn
Cyngor Cymru i'r Deillion
Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
Cartrefi Hygyrch Caerdydd
BMA Cymru
Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Canolfan Ymchwil Gwaith Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe
Sefydliad Ymchwil Meddygaeth a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol
Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
Cydffederasiwn GIG Cymru
Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru
