Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Hygyrchedd Gwybodaeth

1. Ystyriodd y Pwyllgor hygyrchedd dogfennau a gyhoeddwyd i bobl sydd â nam ar eu golwg yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf 2008. Yr oedd yr eitem wedi’i ddychwelyd i’r Pwyllgor yn dilyn gohebiaeth a gafwyd gan DeafBlind UK.

2. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan DeafBlind UK sydd ar gael yn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-eoc-home/bus-committees-third-eoc-agendas.htm

3. Cyn y cyfarfod pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd i DeafBlind UK ystyried hygyrchedd gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ystod y drafodaeth a gafwyd yn y pwyllgor, gwnaeth DeafBlind UK y pwyntiau penodol a ganlyn am wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • mae’r wefan yn ateb safonau W3C yn rhannol ond mae lle i wella;

  • nid yw’r opsiwn hygyrchedd yn rhan o’r prif far gwe-lywio;

  • nid oes unrhyw opsiwn am gynllun plaen;

  • nid oes unrhyw opsiynau ar gyfer cael mynediad at wybodaeth drwy fformatau clywedol;

  • nid ydym yn gofyn am adborth am ba mor hygyrch yw’r wefan;

  • mae gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn fwy hygyrch.

4. Pwysleisiodd DeafBlind UK hefyd bwysigrwydd darparu print clir yn hytrach na phrint mawr, a chytunodd i anfon i’r Pwyllgor fanylion y 14 fformat arall y mae’n cynnig ei ddeunyddiau ei hun ynddynt i’w aelodau.

Argymhellion

5. Cytunodd y Pwyllgor i gymryd nifer o gamau, yn cynnwys:

  • ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i dynnu sylw at fannau y gellid eu gwella ar y wefan;

  • ysgrifennu at y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn gofyn am wybodaeth am faint o awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â pholisi gwybodaeth hygyrch a beth yw cynnwys y polisïau;

  • yYsgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am yr un wybodaeth mewn perthynas â’r awdurdodau iechyd a’r byrddau iechyd lleol yng Nghymru.

6. Cytunwyd hefyd y byddai’r adroddiad yn cael ei anfon i’r grwp trawsbleidiol mewnol i-change sy’n ystyried anghenion technolegol y Cynulliad ar gyfer y dyfodol.

7. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i ddychwelyd at y mater hwn yn ddiweddarach eleni pan fydd wedi derbyn y wybodaeth ychwanegol uchod ac o bosibl wedi gwneud ymchwiliadau pellach i bolisïau gwybodaeth hygyrch gyda’r sector preifat yn y dyfodol.

Ann Jones AC
Cadeirydd, Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Gorffennaf 2008

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help