Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol

Yr Adroddiad ar Sybsidiaredd

Ymateb y Llywydd

Sandy Mewies AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Ebrill 2009

Annwyl Sandy

Adroddiad y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol - Sybsidiaredd

Diolch am eich llythyr dyddiedig 20 Mawrth yn tynnu fy sylw at adroddiad eich Pwyllgor i’w ymchwiliad ar Sybsidiaredd.

Pan sefydlwyd ein presenoldeb ym Mrwsel ddiwedd 2004, y nod oedd sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn cael gwybodaeth gynnar am faterion o fewn yr UE sy’n allweddol i Gymru. Yn ei swyddogaeth fel pennaeth ein swyddfa ym Mrwsel, mae Gregg Jones yn gweithredu fel “llygaid a chlustiau” i’r Cynulliad ym Mrwsel. Cytunaf y dylem barhau i ddefnyddio rhwydwaith monitro sybsidiaredd Pwyllgor y Rhanbarthau er mwyn helpu i lywio gwaith Pwyllgorau’r Cynulliad a bydd ein swyddfa barhaol ym Mrwsel yn parhau i sicrhau y darperir gwybodaeth a chyngor i Aelodau a Phwyllgorau’r Cynulliad er mwyn cyflawni eu gwaith craffu a monitro.

Yr wyf yn nodi ac yn croesawu eich argymhelliad y dylem barhau i gydweithio ag aelodau CALRE. Rosemary Butler, y Dirprwy Lywydd, yw cynrychiolydd ffurfiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei bwyllgor llywio ac yn ei gynadleddau. Mae hefyd yn adrodd yn ôl i Seneddau’r Alban a Gogledd Iwerddon, ar gais Llywyddion y ddau sefydliad. Rydym wedi gweithio gyda’n cydweithwyr yn CALRE i ddatblygu prosiectau e-ddemocratiaeth a phrosiectau ymgysylltu â phobl ifanc.

Rydym hefyd wedi datblygu ffyrdd o gydweithio â Seneddau eraill yn Ewrop ac, yn benodol, rydym wedi ymrwymo i gydweithio â’n cyfeillion yn Seneddau Gogledd Iwerddon a’r Alban, a thrwy’r Cynulliad Seneddol Prydeinig -Gwyddelig (BIPA).  

Yn gywir

Y Gwir Anrh yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Llywydd
The Rt Hon the Lord Elis-Thomas AM, Presiding Officer

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad
  3. Pwyllgorau y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
  4. Pwyllgorau Eraill
  5. Materion Ewropeaidd
  6. Adroddiadau
  7. EUR(3) - Yr Adroddiad ar Sybsidiaredd - Ymateb y Llywydd

Partneriaid a Help