Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Ymchwiliad i Gyfranogiad Cymru mewn Rhaglenni Ymchwil, Arloesi a Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd
Ar ddydd Mawrth, 21 Medi, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Gyfranogiad Cymru mewn Rhaglenni Ymchwil, Arloesi a Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd
Cylch gorchwyl
Cael dealltwriaeth o’r lefel a’r math o gyfranogiad gan sefydliadau o Gymru yn y Rhaglenni UE canlynol: Rhaglen Ymchwil Fframwaith Saith (FP7); Rhaglenni Dysgu Gydol Oes; a’r Rhaglenni Cystadleurwydd ac Arloesi
Cymharu cyfranogiad sefydliadau Cymreig â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd
Dod o hyd i enghreifftiau llwydiannus o Gymru
Cynnig argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru ar gyfer ffyrdd o hwyluso cyfranogi pellach yn y rhaglenni hyn
Amlygu unrhyw agweddau cadarnhaol neu negyddol ar gyfranogi yn y rhaglenni, a bwydo hyn i’r cyfryngau priodol (Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd) i alluogi i hyn gael ei ystyried wrth baratoi ar gyfer rhaglenni’r dyfodol ar ôl 2013
Adolygu pa mor berthnasol yw’r gyfranogaeth o ran cyflawni strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru
