Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Adroddiad – Ymchwiliad y pwyllgor i Archwiliad Iechyd y Polisi Amaethyddol Cyffredin
Cylch Gorchwyl
Ar 20 Mai, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion i ddiwygio sut y caiff y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ei roi ar waith yn y cyfnod rhwng 2009 a 2013, a hynny fel rhan o Archwiliad Iechyd y Polisi Amaethyddol Cyffredin.* Nod yr Archwiliad Iechyd yw edrych ar lwyddiant y diwygiadau** a wnaed i’r PAC yn 2003, a hynny gan ystyried cyflwr y farchnad a’r heriau sy’n wynebu ardaloedd gwledig Ewrop a’r sector amaethyddol. At hynny, bwriedir argymell mân newidiadau er mwyn ymateb i’r amodau newydd hyn ac adeiladu ar y profiadau a gafwyd ers 2003, yn enwedig o ran symleiddio pethau.
Fel rhan o’r broses hon, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mynd ati i holi barn.
Yn eu cyfarfod ar 17 Ebrill 2008, nododd Aelodau’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol eu bod yn awyddus i gynnal ymchwiliad byr i Archwiliad Iechyd y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Nod yr ymchwiliad fyddai:
Asesu effaith bosibl cynigion y Comisiwn ar amaethyddiaeth a rheoli tir yng Nghymru;
Canfod barn rhanddeiliaid am y cynigion;
Cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddynt gyd-drafod â gweinyddiaethau’r DU ac aelod-wladwriaethau eraill.
