Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol

Ymchwiliad i Ddyfodol y Polisi Cydlyniant

Ar 26 Ionawr 2010, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ei ymchwiliadau i Strategaeth Ewrop 2020 ac adolygiad o gyllideb yr UE i'r ymchwiliad hwn.

Cylch gorchwyl

  • Meithrin dealltwriaeth o’r trafodaethau presennol am ddyfodol polisi cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd ar ôl 2013, a cheisio dylanwadu ar y trafodaethau hynny.

  • Cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y safbwynt y dylid ei fabwysiadu yn y trafodaethau hyn er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf i bobl Cymru.

  • Rhannu’r argymhellion hyn gyda sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, yn arbennig y Comisiwn Ewropeaidd, rhwydweithiau’r Undeb Ewropeaidd a rhanddeiliaid allweddol eraill ym Mrwsel a Chymru.

Y materion allweddol i’w hystyried

Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio’n benodol ar y cwestiynau a’r materion hyn wrth gynnal ei ymchwiliad:

  • Beth yw gweledigaeth Comisiynydd Hübner o ran cyfeiriad y polisi yn y dyfodol? I ba raddau y bydd polisi’r dyfodol yn dilyn patrwm y cyfnod presennol a’r amcanion o ran cydgyfeiriant, y gallu i gystadlu, cyflogaeth a chydweithredu? A yw hi’n rhagweld newid sylweddol?

  • Ym marn y Comisiynydd, sut fydd y polisi newydd yn mynd i’r afael â’r pedair prif her, sef globaleiddio, newid demograffig, newid hinsawdd ac ynni? A yw hi’n rhagweld y bydd blaenoriaethau newydd yn cael eu cynnwys o dan yr amcanion cyffredinol presennol?

  • Sut y bydd cydlyniant tiriogaethol yn rhan o hyn? A yw’r Comisiynydd yn rhagweld y bydd yn berthnasol i’r holl bolisi, neu’n ymwneud yn benodol â’r amcan ar gyfer cydweithredu?

  • A yw’r Comisiynydd yn rhagweld y bydd mwy o bwyslais ar raglenni ariannol megis JESSICA a JEREMIE yn y polisi cydlyniant newydd, a rôl ehangach i Fanc Buddsoddi Ewrop, yn lle’r dull traddodiadol o ariannu sy’n seiliedig ar grantiau?

  • Beth yw manteision penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i alw am arian trosiannol a thrawswladol?

  • Beth yn union yw arian “trawswladol” yn nhyb Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac a oes ganddi ffigurau dangosol ar gyfer y swm y byddai’n gobeithio’i gael fel rhan o’r cytundeb hwn?

  • Pa mor ymrwymedig yw Llywodraeth y DU i amddiffyn safbwynt Llywodraeth y Cynulliad wrth gynnal trafodaethau ar y polisi newydd? Sut fydd yr elfen “drawswladol” yn cyd-fynd â gobaith Llywodraeth y DU o gael polisi cydlyniant sydd wedi’i “ailwladoli”, gan eithrio’r rhanbarthau tlotaf yng nghanol a dwyrain Ewrop?

  • Ym mha ran o fframwaith y polisi y dylid cynnwys datblygu gwledig? A ddylid ei ymgorffori unwaith eto yn y cronfeydd strwythurol neu a ddylai barhau ar wahân yn rhan o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin? A oes dewisiadau eraill?

  • Pa safbwyntiau eraill sy’n cael eu lleisio ym Mrwsel ac ymysg rhwydweithiau, rhanbarthau ac aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd? Sut y mae’r safbwyntiau hyn yn cymharu â rhai Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU? A oes agweddau ar y safbwyntiau hyn sy’n ymddangos yn ddiddorol o bersbectif Cymreig?

Dystiolaeth

Mae’r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Trawsgrifiadau a phapurau cyfarfoydd

Adridduad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad Interim cyntaf ar 9 Rhagfyr 2009 (PDF, 432KB) Cyhoeddodd y Pwyllgor ei

Ail Adroddiad

ar 7 Gorffennaf 2010

(PDF, 527KB)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help