Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Ymateb ysgrifenedig i Ail Adroddiad y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol ar yr Ymchwiliad i Ddyfodol Polisi Cydlyniant
Gorffennaf 2010
Cyflwyniad
Croesawaf ail adroddiad y Pwyllgor ar ei Ymchwiliad i Ddyfodol Polisi Cydlyniant.
Prif offerynnau ariannol Polisi Cydlyniant yw Cronfeydd Strwythurol, ac maent yn hynod o bwysig i Gymru. Fel rhan o’r cylch 2007-2013 cyfredol, mae Rhaglenni Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn derbyn Cronfeydd Strwythurol gwerth dros £1.7 biliwn ac mae Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol Dwyrain Cymru yn derbyn cyllid o tua £115 miliwn. Ynghyd â’r Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol, mae’r rhain yn darparu cyllid UE o dros £2 biliwn, sy’n gyfanswm o tua £3.4 biliwn gyda chyllid cyfatebol.
Mae Polisi Cydlyniant ar ei ffurf bresennol yn para o 2007 i 2013 (er y bydd gwariant yn parhau hyd ddiwedd 2015). Mae’r drafodaeth gynnar ar ddyfodol Polisi Cydlyniant i’w chael yng nghyd-destun y drafodaeth ehangach ar Gyllideb yr UE. Bydd y drafodaeth hon i raddau helaeth yn pennu cwmpas y Polisi Cydlyniant yn y dyfodol ledled yr Undeb Ewropeaidd a Chymru.
Prif nod Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cyllideb yr UE yw sicrhau canlyniad ar gyfer Cymru sy’n gwella ansawdd bywyd a ffyniant ar sail swyddi a thef cynaliadwy. Mae’n golygu y dylai cyfran ddigonol a sylweddol o’r gyllideb gael ei dyrannu i Bolisi Cydlyniant at ddiben lleihau anghydraddoldebau economaidd rhwng Aelod-Wladwriaethau a rhanbarthau o fewn Aelod-Wladwriaethau. Dylid gweithredu Polisi Cydlyniant yn gyfartal ym mhob Aelod-Wladwriaeth ar sail angen ar y lefel ranbarthol.
Isod, rwyf wedi nodi fy ymateb i bob un o 14 argymhelliad y Pwyllgor, gyda chyfeiriad penodol at 1, 2, 4, 7-9 ac 11-14 sy’n benodol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Argymhelliad 1
Bod Llywodraeth Cymru’n egluro sut orau i gynrychioli a hyrwyddo safiad Cymru ar unrhyw Bolisi Cydlyniant yn y dyfodol drwy weithio gyda rhanbarthau Ewropeaidd eraill mewn cyrff Ewropeaidd ffurfiol a rhwydweithiau anffurfiol fel REGLEG, CPMR a ROTOPI. (Tudalen 14)
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi amlinellu’n gyson ei chefnogaeth i Bolisi Cydlyniant a’r egwyddorion y credwn ddylai fod wrth wraidd y polisi yn ystod cyfnod cyfredol y rhaglen a thu hwnt.
Rydym yn ymwneud ag amrywiaeth eang o rwydweithiau Ewropeaidd ffurfiol ac anffurfiol. Mae “Cymru a’r Undeb Ewropeaidd – Strategaeth ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru” yn amlinellu yn gyffredinol y mesurau rydym yn eu cymryd i sicrhau ymgysylltiad adeiladol ac ystyrlon â sefydliadau, cyrff a rhwydweithiau Ewropeaidd.
Drwy ein hymwneud â rhwydweithiau fel REGLEG, CPMR, ROTOPI, EURADA, ac EARLALL REGLEG (Rhwydwaith gwleidyddol neu Ranbarthau’r UE sydd â Phwerau Deddfwriaethol) CPMR (Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol), ROTOPI (Ymarferwyr
Bwrdd Crwn yn Gweithredu), EURADA (Cymdeithas Asiantaethau Datblygu Ewrop) a EARLALL (Cymdeithas Awdurdodau Rhanbarthol a Lleol Ewrop dros Ddysgu Gydol Oes). , ar adegau priodol rydym wedi nodi a gweithio gyda rhanbarthau cytûn i hyrwyddo ein safbwynt ar Bolisi Cydlyniant.
Ym mis Gorffennaf 2010, cynhaliwyd cyfarfod rhwng Prif Weinidog Cymru, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Llywydd y Comisiwn i drafod dyfodol Polisi Cydlyniant ochr yn ochr â rhai swyddogion cyfatebol o’r CPMR.
Mae cymryd rhan yn y rhwydweithiau yn helpu i ategu ein perthynas ffurfiol â Llywodraeth y DU a phrif sefydliadau’r UE. Byddwn yn parhau i nodi cyfleoedd addas ar gyfer ymgysylltu ar lefel Weinidogol a swyddogol â rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol yn y dyfodol.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 2
Bod Llywodraeth Cymru’n egluro sut y mae wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid Cymreig a sut y mae am wneud y mwyaf o’r undod i eiriol dros fuddiannau Cymreig allweddol yn y cam hollbwysig nesaf o'r drafodaeth ar y Polisi Cydlyniant yn 2010-11. (Tudalen 16)
Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymgysylltu gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Ers mis Medi 2009, mae Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan wedi cymryd rhan ffurfiol yn y gwaith o fonitro a chyfrannu at ddatblygiadau sy’n ymwneud â dyfodol Polisi Cydlyniant. Gofynnwyd am eu barn ar adroddiad y Pwyllgor ac adlewyrchir eu sylwadau yn yr ymateb hwn.
Mae aelodau’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni, sy’n cynnwys 10 arbenigwr a recriwtiwyd drwy’r broses benodiadau cyhoeddus ac 14 aelod o blith partneriaid a chyrff statudol, wedi derbyn diweddariadau rheolaidd ar ymyriadau a wnaed gan Weinidogion a swyddogion ac maent wedi cael cyfle i drafod blaenoriaethau allweddol ar gyfer Cymru yn ystod cyfnodau cynnar y drafodaeth.
Anogir Aelodau’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni hefyd i ledaenu’r wybodaeth hon ymysg eu sectorau a rhanddeiliaid fel sy’n briodol.
Mae Gweinidogion a swyddogion hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol a mewnol lle mae dyfodol Polisi Cydlyniant yn bwnc cyson.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na ellir trafod hyn ar ei ben ei hun a bod yn rhaid ei ystyried ochr yn ochr ag Adolygiad Cyllideb yr UE sydd ar fin ei ryddhau yn ogystal â thrafodaethau cyllideb yr UE a gynhelir y flwyddyn nesaf. Bwriad Llywodraeth y Cynulliad yw ymgysylltu’n effeithiol ag amrywiaeth eang a chynrychiadol o randdeiliaid mewnol ac allanol wrth lunio ymateb Cymru i’r ddau fater. Mae swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried y mecanweithiau mwyaf priodol a chost effeithiol ar gyfer sicrhau’r canlyniad hwn.
O ran rhaglenni cronfeydd strwythurol yn y dyfodol, bydd unrhyw raglenni newydd gan Gymru yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â phob rhanddeiliad perthnasol a rhagwelir y bydd y broses hon yn dechrau yn 2011.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 3
Bod cynrychiolwyr o Gymru mewn cyrff Ewropeaidd ffurfiol a rhwydweithiau anffurfiol yn ystyried y prif gasgliadau a'r argymhellion a nodir yn adroddiad y Pwyllgor hwn wrth hybu sefyllfa Cymru. (Tudalen 16)
Bydd Llywodraeth y Cynulliad, lle bynnag y bo’n bosibl, yn tynnu sylw cynrychiolwyr at yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor ac yn eu hannog i gyfrannu eu safbwyntiau at y drafodaeth.
Argymhelliad 4
Bod Llywodraeth Cymru’n egluro pa achos y bydd yn ei gyflwyno i a chyda Llywodraeth Glymblaid y DU dros barhau gyda Pholisi Cydlyniant ledled yr UE, gan gynnwys cael cynnig cyllid Cydgyfeirio i ranbarthau sy'n cymhwyso, ynghyd â threfniadau cyllid pontio, ar ôl 2013. (Tudalen 18)
Ymateb: Derbyn
Y prif fecanwaith i Weinidogion ymgysylltu â Llywodraeth y DU yw’r Cydgyngor Gweinidogion (Ewrop). Mae Prif Weinidog Cymru yn mynychu’r cyfarfodydd hyn a bydd yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd cronfeydd strwythurol i Gymru yng nghyfarfodydd y dyfodol. Mae Polisi Cydlyniant yn debygol o fod yn bwnc llosg yng nghyfarfodydd nesaf y Cydgyngor Gweinidogion (Ewrop) fel rhan o drafodaethau ehangach ar gyllideb yr UE.
Hefyd, mae gohebiaeth gyson rhwng y ddwy weinyddiaeth ar amrywiaeth o faterion yr UE, gan gynnwys yr Adolygiad Cyllideb a Pholisi Cydlyniant.
Bydd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i achub ar bob cyfle i ddylanwadu ar eu swyddogion cyfatebol yn Whitehall mewn nifer o adrannau, gan gynnwys: Trysorlys EM, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau a’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Yn ein holl gysylltiadau â Llywodraeth y DU, rydym yn parhau i bwysleisio’r achos dros barhau cyllid Cydgyfeirio ar gyfer pob rhanbarth israddol (lle mae eu CMC yn llai na 75% o gyfartaledd yr UE 27) ledled yr UE, waeth beth yw cyfoeth gwirioneddol yr Aelod-Wladwriaeth y maent yn perthyn iddi. Rydym yn bendant bod angen darparu cyllid pontio priodol ar gyfer rhanbarthau sy’n gadael cyllid Gydgyfeirio a bod angen parhau i ddarparu cyllid Cystadleurwydd er mwyn adeiladu ar y cynnydd a gafwyd o fuddsoddi hyd yma.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 5
Bod y Comisiwn Ewropeaidd yn ffurfio'i gynigion ar gyfer Polisi Cydlyniant yn y dyfodol ar sail prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor am bolisi ledled yr UE sy'n cynnwys pob rhanbarth, gan ymwrthod ag unrhyw ddadleuon ar gyfer ail-wladoli, a chefnogi parhad amcanion Cydgyfeirio, amcanion Cystadleurwydd ac amcanion Cyflogaeth, yn ogystal â chymorth pontio ar gyfer rhanbarthau sydd y tu allan i'r meini prawf cyllido ar gyfer yr amcanion hynny. (Tudalen 18)
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi bod trafodaethau diweddar gyda Chomisiynwyr ac uwch swyddogion y Comisiwn yn nodi bod cefnogaeth dros barhau â Pholisi Cydlyniant drwy’r UE, gan gwmpasu pob rhanbarth, yn hytrach na thargedu’r Aelod-Wladwriaethau tlotaf yn benodol.
Bydd cyfeiriad Polisi Cydlyniant yn y dyfodol yn dod yn gliriach ar ôl cyhoeddi’r Pumed Adroddiad Cydlyniant, a ddisgwylir ym mis Tachwedd, a fydd yn nodi cyfres o opsiynau ar gyfer y dyfodol. Bydd y Comisiwn yn gofyn i randdeiliaid ymateb i gynnwys yr adroddiad. Byddai Llywodraeth y Cynulliad yn annog pawb yng Nghymru sydd â diddordeb i gyfrannu.
Argymhelliad 6
Bod y Comisiwn Ewropeaidd yn cadarnhau y caiff Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) eu cadw fel rhan o Bolisi Cydlyniant yr UE oherwydd bod y cyfuniad yn golygu bod awdurdodau lleol a rhanbarthol yn gallu ariannu ystod o gamau gweithredu ac ymyriadau integredig ar lawr gwlad er mwyn cefnogi cydlyniant tiriogaethol. (Tudalen 20)
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno â safbwynt y Pwyllgor y dylid cadw ERDF ac ESF fel rhan o Bolisi Cydlyniant yr UE. Mae hwn yn safbwynt rydym wedi bod yn ei hyrwyddo’n gadarn iawn yn ein cysylltiadau â Llywodraeth y DU ac ar lefel yr UE.
Argymhelliad 7
Bod Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi eglurhad o amseriad unrhyw asesiad effaith llawn o raglenni Amcan 1 yng Nghymru; a’i chynlluniau i gymhwyso’r gwersi a ddysgwyd o raglenni 2000-2006 a 2007-2013 yng Nghymru a rhannau eraill o’r UE i ddatblygiad rhaglenni yn y dyfodol. (Tudalen 21)
Ymateb: Derbyn
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnal gwerthusiad terfyn rhaglen o’r rhaglenni 2000 - 2006 ar lefel UE ac fe’i cyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn.
Yng Nghymru, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn datblygu gwerthusiad synthesis o raglenni Cronfeydd Strwythurol 2000 – 2006, gan gynnwys Amcan 1, gan ddwyn ynghyd ganfyddiadau sawl gwerthusiad a’r canlyniadau terfynol a adroddwyd. Bwriedir cyhoeddi hwn yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Yn ystod rhaglen 2007 – 2013, cynhelir proses o werthuso parhaus sy’n cwmpasu’r ffordd y mae’r Rhaglenni yn cael eu cynnal a’r hyn y maent yn eu cyflawni. Adroddir ar y gwaith hwn yn rheolaidd i’r Grwp Cynghori ar Werthuso (sy’n cynnwys arbenigwyr mewnol ac allanol, cynrychiolwyr rhanddeiliaid a’r Comisiwn) a Phwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan. Cyhoeddir adroddiadau ar wefan WEFO.
Mae grwp o arbenigwyr technegol Cyflawni a Chydymffurfio sy’n cynnwys rhanddeiliaid hefyd yn adolygu materion sy’n effeithio ar weithrediad Rhaglenni Gweithredol 2007 – 2013. Mae gwaith y Grwp yn golygu bod gwersi amser real yn cael eu dysgu a’u hymgorffori yn y rhaglenni wrth eu darparu.
Defnyddir yr holl ganfyddiadau a thrafodaethau hyn i lywio ein trafodaethau mewnol, a chyda Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd ar ddatblygu’r rownd nesaf o raglenni. Bydd trafodaethau parhaus gyda’n rhanddeiliaid mewn gwahanol fforymau yn cael eu cyfoethogi ymhellach wrth i ni symud tuag at y rownd nesaf o raglenni.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 8
Bod Llywodraeth Cymru’n trafod gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, gan gynnwys addysg uwch ac awdurdodau lleol, y manteision o ddefnyddio cyllid benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop i’w helpu i fuddsoddi mewn meysydd allweddol fel ymchwil a datblygu ac ynni adnewyddadwy: hyn i gynnwys asesiad o ymarferoldeb datblygu cyd-gynigion prosiect er mwyn cael mas critigol. (Tudalen 22)
Ymateb: Derbyn
O fewn cyd-destun Cronfeydd Strwythurol, roedd Cymru wedi bod ar flaen y gad yn Ewrop o ran archwilio potensial cyllid benthyg gan Fanc Buddsoddi Ewrop er mwyn gweithio gyda’n Cronfeydd Strwythurol (a chyllid cyfatebol arall) i greu buddsoddiadau mwy sefydlog. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw un o’r rhanbarthau cyntaf i weithredu cronfa JEREMIE yn llwyddiannus, sydd eisoes yn ei le ar gyfer buddsoddi. O ran peirianneg ariannol ehangach, mae Cymru hefyd yn un o’r rhanbarthau blaenllaw yn y gweithle ddatblygu cronfa JESSICA (lle mae Rheolwyr Cronfa a Buddsoddi wedi’u penodi).
Yn fwy cyffredinol, mae’r ffocws hwn ar gronfeydd ailgylchadwy yn ddull y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn ei hyrwyddo er mwyn cynyddu cynaliadwyedd buddsoddiadau Cronfeydd Strwythurol gan fanteisio i’r eithaf ar y dylanwad a ddaw o’r cronfeydd. Yng nghyd-destun Cronfeydd Strwythurol, mae angen i gyllid Banc Buddsoddi Ewrop weithio ochr yn ochr â chyllid grant yr UE i fynd i’r afael â methiannau sylweddol yn y farchnad, er enghraifft mewn meysydd a ystyrir yn risg uwch. Nid yw Peirianneg Ariannol yn briodol o reidrwydd ym mhob maes o ymyriadau Cronfeydd Strwythurol a bydd cymorth Cronfeydd Strwythurol mwy traddodiadol yn parhau i fod yn bwysig, er enghraifft er mwyn helpu pobl economaidd anweithgar i ymgysylltu â’r farchnad lafur.
Mae rhai yn brwydro’n galed i sicrhau bod offerynnau Banc Buddsoddi Ewrop yn cyfrannu fwy at gyllideb yr UE yn fwy cyffredinol. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn archwilio unrhyw gynigion sy’n codi yn y maes hwn yn y dyfodol.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 9
Bod Llywodraeth Cymru’n gofyn i Lywodraeth y DU sicrhau bod Casgliadau’r Cyngor Ewropeaidd ar Strategaeth Ewrop 2020 yn y dyfodol yn cydnabod yn glir y rôl sydd gan awdurdodau is-genedlaethol (lefelau lleol a rhanbarthol) i’w chwarae o ran sicrhau bod y strategaeth yn llwyddiant ar lawr gwlad. (Tudalen 25)
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn credu y dylai Strategaeth Ewrop 2020 gyfeirio’n glir at swyddogaeth awdurdodau is-genedlaethol wrth weithredu a chyflawni’r strategaeth. Rydym wedi dweud hynny wrth Lywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd.
Cytunodd aelod-wladwriaethau ar Gasgliadau Ewrop 2020 yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym mis Mehefin. Mae’r ffocws yn awr wedi symud ymlaen at weithredu’r Strategaeth. Mae Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd yn trafod gyda’r Llywodraeth Clymblaid sut y bydd safbwyntiau Cymru’n cael eu hystyried yn y Rhaglen Diwygio Cenedlaethol ac yn unrhyw dargedau a fydd yn cael eu pennu gan Lywodraeth y DU.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 10
Bod Senedd Ewrop - yn benodol Aelodau Senedd Ewrop ac Aelodau'r Pwyllgor Datblygu Rhanbarthol - yn ystyried prif gasgliadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn eu trafodaethau ar Gyllideb yr UE yn y dyfodol, Ewrop 2020 a'r Polisi Cydlyniant. (Tudalen 25)
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r argymhelliad hwn a bydd yn ceisio parhau i weithio’n agos gydag ASEau i gyflawni nodau ein polisi.
Argymhelliad 11
Bod Llywodraeth Cymru’n amlinellu ei chynlluniau: i roi'r arweiniad a'r cyfeiriad strategol angenrheidiol i wella cystadleurwydd a rhagoriaeth ymchwil a datblygu cymhwysol ym mhrifysgolion Cymru a’u trosglwyddo i fusnesau a chyflogaeth; datblygu cydweithio agosach rhwng y sectorau addysg uwch ac addysg bellach ac Adran Datblygu Economaidd Llywodraeth Cymru; a sicrhau bod ffrydiau ariannu i Gymru gan yr UE yn y dyfodol yn seiliedig ar gefnogi'r blaenoriaethau strategol hyn. (Tudalen 28)
Ymateb: Derbyn
Mae’r Rhaglenni 2007 – 13 yng Nghymru yn rhoi pwyslais cadarn ar Ymchwil a Datblygu Arloesedd a TGCh gyda’r flaenoriaeth hon yn cynrychioli 25% o ddyraniad Cydgyfeirio ERDF a 45% o ddyraniad Cystadleurwydd ERDF. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn hefyd yn cael ei gynnal drwy raglenni ESF, yn enwedig drwy fuddsoddiadau ategol mewn sgiliau lefel uwch.
Mae Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd
yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i gynyddu’r Ymchwil a Datblygu a wneir yng Nghymru, yn enwedig yn ein sectorau allweddol, ac i sicrhau bod yr economi’n elwa drwy ei fasnacheiddio. Mae Er Mwyn Ein Dyfodol
, strategaeth addysg uwch newydd Llywodraeth y Cynulliad, yn nodi gweledigaeth o weld Cymru’n cyrraedd safonau rhagoriaeth rhyngwladol o ran ei hymchwil, gyda mwy o gydweithio rhwng gwahanol sefydliadau.
Rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gefnogi ymchwil mewn pedwar sector lle mae gan brifysgolion Cymru y cyfle gorau i fanteisio i’r eithaf ar eu perfformiad a’u heffaith economaidd: yr economi ddigidol, yr economi carbon isel, iechyd a biowyddorau, a pheirianneg uwch a gweithgynhyrchu. Rydym am adeiladu ar ganolfannau arbenigedd cyfredol a chyfleusterau arbenigol a pharhau i ddatblygu prosiectau cydweithredol Cymru gyfan, yn arbennig y rhai rhwng addysg uwch a busnes.
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar Ewrop 2020, anogodd Llywodraeth y Cynulliad y dylid parhau i bwysleisio ac atgyfnerthu Ymchwil a Datblygu ac arloesedd i sbarduno twf. Mae Ewrop 2020 yn debygol o ddarparu’r ffocws polisi ar gyfer rhaglenni Cronfeydd Strwythurol y dyfodol.
Un o nodweddion allweddol rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007 – 2013 yng Nghymru oedd rhoi llawer mwy o bwyslais ar weithio mewn partneriaeth. Mae hyn wedi arwain at nifer o brosiectau cydweithredol gyda phrifysgolion yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni blaenoriaethau Ymchwil a Datblygu. Mae annog mwy o gydweithio rhwng prifysgolion a busnesau yn amcan penodol o fewn blaenoriaethau Ymchwil a Datblygu ac Arloesedd ac mae nifer o brosiectau’n cyflawni hyn.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 12
Bod Llywodraeth Cymru’n amlinellu sut y bydd yn rhoi mwy o gyfeiriad strategol i'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach i flaenoriaethu datblygu hyfforddiant a sgiliau mewn pynciau STEM ynghyd â mwy o ddarpariaeth gwyddoniaeth a thechnoleg, fel rhan o’i strategaeth ehangach o wella hyfforddiant sgiliau lefel uwch yng Nghymru. (Tudalen 30)
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn creu Academi Wyddoniaeth Genedlaethol i annog diddordeb yn y pynciau STEM ar bob lefel, o gyfnod y blynyddoedd cynnar i addysg bellach ac uwch. Bydd yr academi, buddsoddiad £2 filiwn sydd wedi’i leoli mewn un canolfan ganolog a phedair ranbarthol, yn gweithio ledled Cymru - yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr ac athrawon, a chydlynu gweithgareddau i hyrwyddo dysgu a gyrfaoedd STEM.
Mae mwy o leoedd mewn prifysgol ar gael yn y pynciau gwyddoniaeth o flwyddyn academaidd 2010/11 er mwyn cefnogi ein cynlluniau ar gyfer adnewyddu’r economi. Mae prifysgolion yng Nghymru wedi’u gwahodd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i newid rhai lleoedd myfyrwyr cyfredol i bynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg), yn dilyn ceisiadau gan lawer o gyflogwyr am fwy o raddedigion yn y pynciau hyn.
Bydd CCAUC yn darparu cyllid ychwanegol er mwyn i brifysgolion roi blaenoriaeth i recriwtio ar gyfer y pynciau hyn, sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth y Cynulliad fel meysydd lle mae prinder. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn y datganiad ar 14 Gorffennaf gan y Gweinidog Addysg y bydd cyfyngiad ar niferoedd israddedigion llawn amser o 2011/12, ac mae’n adeiladu ar fuddsoddiad o £1 miliwn mewn rhaglen ar y cyd sy’n cynnwys prifysgolion o Gymru a Lloegr i godi lefel diddordeb myfyrwyr ysgol mewn pynciau STEM.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 13
Bod Llywodraeth Cymru’n datblygu dull ‘Tîm Cymru’ agosach o weithio mewn partneriaeth â’r sector addysg uwch, y sector busnes a llywodraeth leol yng Nghymru fel mater o frys, i sicrhau eu bod yn achub ar bob cyfle ariannu Ewropeaidd presennol ac yn y dyfodol i ddatblygu sgiliau STEM ac i annog Ymchwil a Datblygu ac arloesi yng Nghymru, gan gynnwys FP8. (Tudalen 31)
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod yr angen i ddefnyddio dull Llywodraeth gyfan wrth gefnogi Ymchwil a Datblygu, gan greu cysylltiadau mwy effeithiol rhwng ein hadrannau a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Un o nodau allweddol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fydd hyrwyddo cydweithio rhwng y GIG, y diwydiant gofal iechyd a sefydliadau addysg uwch, er budd cleifion a thwf y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Mae strategaeth gorfforaethol CCAUC yn amlinellu’r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i gyflawni Er Mwyn Ein Dyfodol
sef gweledigaeth lle bydd system genedlaethol o addysg uwch yng Nghymru, lle mae prifysgolion a cholegau addysg bellach yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ym mhob rhanbarth.
Mae ein rhaglen Arbenigedd Academaidd ar gyfer Busnes (A4B), sy’n derbyn cymorth cronfeydd strwythurol yr UE, eisoes yn cynorthwyo i drosglwyddo gwybodaeth o addysg bellach ac uwch i fusnesau. Rydym eisoes wedi buddsoddi’n drwm mewn cyfleusterau deori a byddwn yn annog busnesau i gynnal gweithgareddau Ymchwil a Datblygu, arloesi, datblygu a mabwysiadu technolegau newydd fel rhan o’n hagwedd newydd at ddatblygu economaidd.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
Argymhelliad 14
Bod Llywodraeth Cymru’n egluro sut y bydd yn sicrhau bod y sector addysg uwch yng Nghymru a phartneriaid strategol eraill yn cyfrannu’n ddi-oed at y broses o osod, ar gyfer Gwledydd yr Undeb a’r DU, y ‘targedau pennawd cenedlaethol' a fydd yn codi o Strategaeth Ewrop 2020, ar ôl i’r Cyngor Ewropeaidd gytuno ar y strategaeth honno. (Tudalen 31)
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y trafodaethau a gynhelir gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ynglyn â’r dangosyddion canlynol y cytunwyd arnynt ar gyfer gweithgarwch addysgol yn ystyried sefyllfa Cymru yn iawn. Rydym hefyd yn pwysleisio na ddylai unrhyw ddangosyddion sy’n ategu targedau pennawd yr UE gynnwys casglu unrhyw ddata arall neu weithgarwch adrodd. Ar ôl cytuno ar y dull hwn, byddwn yn ymgynghori â chynrychiolwyr Addysg Bellach ac Uwch Awdurdodau Lleol ar fanylion y dangosyddion arfaethedig.
Goblygiadau Ariannol
Nid oes goblygiadau ariannol ychwanegol ar Lywodraeth y Cynulliad yn sgil yr argymhelliad hwn gan fod y costau eisoes wedi’u cynnwys mewn cyllidebau cyfredol.
