Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol

Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Interim y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol ar yr Ymchwiliad i Ddyfodol y Polisi Cydlyniant

Rhagfyr 2009

Crynodeb Gweithredol

Rwy’n croesawu adroddiad interim amserol y Pwyllgor ar ei Ymchwiliad i Ddyfodol y Polisi Cydlyniant.

Cronfeydd Strwythurol yw prif offerynnau ariannu’r Polisi Cydlyniant ac maent yn arbennig o bwysig i Gymru. Fel rhan o gylch cyfredol 2007-2013, mae Rhaglenni Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cael tua £1.9 biliwn Cytunwyd ar raglenni mewn Ewros. Defnyddir cyfradd gynllunio gyfredol WEFO sef €1.1/£1 ond gall hon newid. o’r Cronfeydd Strwythurol ac mae Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol Dwyrain Cymru yn cael cyllid gwerth dros £123 miliwn. Ynghyd â’r Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol mae’r rhain yn cynnig cyllid yr UE gwerth dros £2 biliwn, gan arwain at gyfanswm o £3.4 biliwn gydag arian cyfatebol.

Mae’r Polisi Cydlyniant ar ei ffurf bresennol yn rhedeg rhwng 2007 a 2013 (er y bydd gwariant yn parhau tan ddiwedd 2015). Mae barn eisoes yn cael ei meithrin ynghylch sut y dylid mynd ati i ddatblygu’r polisi ar ôl 2013 a chroesawir cyfraniad y Pwyllgor. Mae’r drafodaeth ddatblygol hon yn digwydd yng nghyd-destun y drafodaeth ehangach ynghylch Cyllideb yr UE gan mai dyma fydd yn pennu cyfanswm y cyllid ar gael a’r blaenoriaethau cysylltiedig. Cynhelir y trafodaethau ynghylch Cyllideb yr UE yn wyneb dirywiad economaidd byd eang a phwysau mawr ar gyllidebau aelod-wladwriaethau. Yn y pen draw, y drafodaeth ynghylch Cyllideb yr UE fydd yn pennu, i raddau helaeth, gwmpas y Polisi Cydlyniant yng Nghymru yn y dyfodol.

Isod, rwyf wedi nodi fy ymateb i chwe argymhelliad unigol y Pwyllgor i Lywodraeth y Cynulliad.

Argymhelliad y Pwyllgor:

1.  Mae’r Pwyllgor yn gwahodd Llywodraeth Cymru i gadarnhau’r safbwynt a nodwyd ganddi o ran y ddadl ar y polisi cydlyniant yn y DU ac yn enwedig ym Mrwsel, ac i ymateb ar frys i’r alwad gan randdeiliaid o Gymru iddi arwain y gwaith o hwyluso a chydgysylltu’r broses hon yng Nghymru a Brwsel.

Ymateb: Derbyniwyd mewn egwyddor

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datgan ei safbwynt sawl gwaith. Y prif ddiben yn y drafodaeth ynghylch dyfodol y Polisi Cydlyniant yw sicrhau canlyniad i Gymru sy’n gwella ansawdd bywyd a ffyniant yn seiliedig ar dwf a swyddi cynaliadwy. Mae hyn yn cyd-fynd â’r weledigaeth yn “Cymru’n Un” a “Cymru a’r Undeb Ewropeaidd”, ein strategaeth ar ymgysylltu â’r UE. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn credu y dylid dyrannu cyfran ddigonol a sylweddol o Gyllideb yr UE i’r Polisi Cydlyniant er mwyn lleihau’r anghyfartaledd economaidd rhwng Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau o fewn yr Aelod-wladwriaethau er mwyn datblygu cydlyniant economaidd a chymdeithasol. Dylai’r Polisi Cydlyniant fod yn gymwys ar sail gyfartal ym mhob Aelod-wladwriaeth yn unol â’r angen rhanbarthol.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi arwain, a bydd yn parhau i arwain, ar hwyluso a chydgysylltu’r broses hon yng Nghymru, ym Mrwsel a thu hwnt.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn rhan o’r broses ers 2007 pan, i bob pwrpas, lansiodd y pedwerydd Fforwm Cydlyniant drafodaeth ar ddyfodol y polisi Cydlyniant. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd rhan barhaus mewn trafodaethau yng Nghymru, yn y DU ac ym Mrwsel gyda sefydliadau'r UE, y sawl sy’n meithrin barn a’r gymuned ehangach materion rhanbarthol.  

Argymhelliad y Pwyllgor:

3. Gofyn i Lywodraeth Cymru egluro natur ymrwymiad Llywodraeth y DU ar gyllid trosiannol i Gymru o fewn y Polisi Cydlyniant ar ôl 2013.

Ymateb: Derbyniwyd mewn egwyddor

Nodir safbwynt cychwynnol Llywodraeth y DU yn “Global Europe: vision for a 21st century budget”. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ym mis Mehefin 2008 mewn ymateb i adolygiad y Comisiwn Ewropeaidd o Gyllideb yr UE ac mae’n nodi (o’i gyfieithu): “Lle mae gan Aelod-wladwriaethau y strwythurau sefydliadol a’r cryfder ariannol i ddatblygu a dilyn eu polisïau rhanbarthol eu hunain, dylai fod modd iddynt wneud hynny o fewn fframwaith strategol cyffredin yr UE. O ganlyniad, dylid cael gwared yn raddol ar Gronfeydd Strwythurol yn yr Aelod-wladwriaethau mwy cyfoethog.”  

Ymgynghorodd Llywodraeth y DU â ni cyn i’r ymateb gael ei gyflwyno, ac mae’r fersiwn gyfredol yn adlewyrchu’n barn y dylid diddymu Cronfeydd Strwythurol yn raddol yn hytrach na’u hatal ar unwaith. Rydym wedi egluro y dylai’r rhanbarthau sy’n trosglwyddo o gyllid Cydgyfeirio gael cyllid trosiannol priodol gan ei bod yn debygol iawn y byddai diddymu cyllid o’r fath yn sydyn yn cael effaith negyddol ar gydgyfeirio a chydlyniant rhyngranbarthol.

Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y bydd angen ystyried canlyniadau gwneud newidiadau mawr i batrymau ariannu yn sgil diwygiadau yn y dyfodol, er enghraifft, beth fydd ffurf trefniadau trosiannol priodol yng nghyd-destun adnoddau cyllidebol yr UE a fydd ar gael a’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.  

Byddwn yn parhau i drafod ffurf ac amserlen trefniadau trosiannol posibl gyda Llywodraeth y DU. Rydym eisoes wedi dechrau trafod y blaenoriaethau y dylai unrhyw gyllid trosiannol eu gwireddu.

Argymhelliad y Pwyllgor

4.  Perswadiwyd y Pwyllgor ynglyn â gwerth cael “mecanwaith graddfa symudol” fel nodwedd sefydlog o’r polisi cydlyniant yn y dyfodol, ac mae’n gofyn i Lywodraeth Cymru chwarae rhan weithredol yn y broses o archwilio sut y gellid datblygu’r gwahanol syniadau sy’n cael eu trafod ym Mrwsel, fel yr Amcan Rhanbarthau Trosiannol (a awgrymwyd gan Sachsen-Anhalt) neu gyfres o “geriau” datblygu economaidd (a awgrymwyd gan Graham Meadows), mewn ffordd a fyddai’n dod â budd i Gymru a’r Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd.

Ymateb: Derbyniwyd mewn egwyddor

Bydd unrhyw fecanweithiau posibl ar gyfer ariannu Polisi Cydlyniant yn ddibynnol ar ganlyniadau Adolygiad Cyllidebol yr UE. Mae nifer o gynigion yn y drafodaeth ynghylch dyfodol y Polisi Cydlyniant sy’n ymwneud â ffurf y polisi. Mae’r rhain yn cynnwys trefniadau trosiannol cyfredol a newidiadau mwy parhaol i ddulliau ariannu gam wrth gam neu symudol ar gyfer y rhanbarthau hynny nad ydynt bellach yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth. Byddwn yn parhau i edrych ar y gwahanol fodelau ond mae’n hanfodol mai ein prif amcan o hyd fydd sicrhau bod y Polisi Cydlyniant yn gymwys ym mhob Aelod-wladwriaeth ar sail gyfartal yn seiliedig ar angen pob rhanbarth unigol a hefyd yn arwain o hynny bod cyllid trosiannol ar gael.   

Argymhelliad y Pwyllgor

5.  Gofyn i Lywodraeth Cymru egluro’r camau gweithredu y rhagwelir y bydd eu hangen i sicrhau y caiff y strategaethau ymadael eu datblygu mewn ffordd amserol o fewn rhaglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-13 yng Nghymru.

Ymateb: Derbyniwyd mewn egwyddor

Mae pwyslais cadarn eisoes ar gynaliadwyedd buddsoddiadau o fewn rhaglenni 2007-2013, er enghraifft drwy ail-ddefnyddio cronfeydd drwy gynllun JEREMIE (Cyd-adnoddau Ewropeaidd ar gyfer Busnesau Micro i Ganolig) a chynllun JESSICA (Cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig) a thrwy feithrin cysylltiadau rhwng y byd academaidd a’r byd busnes a fydd yn para yn y hirdymor y tu hwnt i 2013.

O dan arweiniad Bwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol yr Ysgrifennydd Parhaol, mae’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol eisoes wedi dechrau edrych ar ddatblygu strategaethau ymadael ar gyfer Rhaglenni'r Cronfeydd Strwythurol 2007-2013. Mae pob un o’r prif Adrannau gwariant yn edrych ar eu defnydd o Gronfeydd Strwythurol a defnydd eu cwsmeriaid ohonynt er mwyn pennu risgiau posibl. Caiff strategaethau ymadael prosiectau eu cynnwys adeg eu datblygu, ac mae asesu’r rhain yn rhan o’r meini prawf a ddefnyddir i gymeradwyo prosiectau. Er mwyn datblygu strategaethau ymadael ar lefel uwch a rhai mwy strategol (yn yr adran ac yn y rhaglen) rydym yn rhagweld y bydd rôl yn bodoli o fewn Grwpiau Adolygu Strategol adrannol y Cronfeydd Strwythurol. Mae’r grwpiau hyn yn cael eu sefydlu, neu wedi’u sefydlu, i fonitro perfformiad cyffredinol portffolios prosiectau. Bydd Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru gyfan yn ystyried cynaliadwyedd buddsoddiadau’r cronfeydd strwythurol y tu hwnt i 2013 a strategaethau ymadael y rhaglen, yn ogystal â’r blaenoriaethau ar gyfer unrhyw gyllid trosiannol a allai fod ar gael yn y dyfodol.

Argymhelliad y Pwyllgor

6.  Gofyn i Lywodraeth Cymru egluro sut y mae’r broses o brif-ffrydio EQUAL wedi ei chynnwys yn rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Cymru, gan gynnwys y defnydd a wnaed o gamau gweithredu trawswladol o fewn y rhaglenni Cydlyniant a Chystadleurwydd hyd yn hyn.

Ymateb: Derbyniwyd mewn egwyddor

Gwnaed gwaith wrth ddatblygu’r rhaglenni i bennu’r rhannau gorau a’r hyn a ddysgwyd o roi’r rhaglenni EQUAL ar waith yng Nghymru. Arweiniodd hyn yn uniongyrchol at nifer o newidiadau sylweddol i’r prosiect ei hun ac i’r ffordd y mae WEFO yn gweithredu:

  • Mynd i’r afael â materion cyfle cyfartal ar y cychwyn yn amcanion y prosiect

  • Sicrhau bod modd parhau i gymryd camau gweithredu cynaliadwy ar ôl i’r prosiect ddod i ben

  • Cryfhau’r dull partneriaeth sy’n gysylltiedig â dylunio, datblygu a rhoi’r prosiect ar waith

  • Prosiectau i weithio gydag un Swyddog Datblygu Prosiect yn WEFO

Mae egwyddorion arloesi cymdeithasol sy’n ymgorffori elfen ryngwladol hefyd wedi’u hannog mewn prosiectau â photensial priodol. Mae hyn wedi arwain at nifer o brosiectau ac estyniadau strategol i rai prosiectau peilot EQUAL 2000–2006, gan gynnwys prosiect Lles drwy Weithio Remploy, sy’n cefnogi cyflogi’r unigolion hynny sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio.

Mae WEFO wedi mabwysiadu ystod o strategaethau i annog gweithio trawswladol o fewn y rhaglenni prif ffrwd. Mae hyn wedi cynnwys codi proffil cyfleoedd cyfredol, meithrin cysylltiadau â rhanbarthau a rhaglenni eraill ac edrych ar raglenni INTERREG i bennu partneriaid a phrosiectau posibl. Ar y cychwyn, blaenoriaeth WEFO a noddwyr prosiectau wrth gyflenwi Rhaglenni yng Nghymru oedd sicrhau bod y prif brosiectau strategol ar waith a’u bod yn effeithiol. Mae Tîm Cydweithredu Tiriogaethol  WEFO wrthi’n gweithio gyda Thîm Rheoli’r Rhaglen i bennu’r prosiectau a gymeradwyir a allai gynnwys gweithgarwch trawswladol.

Argymhelliad y Pwyllgor

7.  Mae Tasglu Symleiddio’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu dull posibl i randdeiliaid o Gymru gyflwyno awgrymiadau ynglyn â ffyrdd o wella’r modd y caiff y rhaglenni presennol eu gweinyddu a’u gweithredu. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro sut y mae’n ymgysylltu â gwaith y tasglu hwn ym Mrwsel.

Ymateb: Derbyniwyd mewn egwyddor

Mae gan Dasglu Symleiddio’r Comisiwn Ewropeaidd un cynrychiolydd o’r DU.  Cyn pob cyfarfod y tasglu ym Mrwsel, mae swyddogion WEFO yn cwrdd â chynrychiolydd y DU a swyddogion o’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill fel rhan o Weithgor Symleiddio’r DU i ddatblygu safbwynt y DU. Mae cyfraniad WEFO yn datblygu materion a godir gan randdeiliaid drwy hen ymgynghoriadau, gwerthusiadau ac arolygon barn cwsmeriaid wrth i raglenni 2007-2013 gael eu datblygu. Hyd yma, nid yw’r grwp wedi trafod symleiddio tu hwnt i 2013.  

Bydd gwaith y Tasglu Symleiddio hefyd yn rhoi adborth i Weithgor Lefel Uchel y Comisiwn Ewropeaidd ar Gronfeydd Strwythurol, a gynhaliodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Hydref 2009.  

Carwyn Jones AS, Prif Weinidog

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help