Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol

Ymchwiliad i Sybsidiaredd

Cylch gorchwyl

Roedd y cylch gorchwyl fel a ganlyn:

Craffu ar y trefniadau presennol ar gyfer monitro sybsidiaredd cynigion Ewropeaidd a sefydlu dulliau a/neu drefniadau ffurfiol ar gyfer cydweithredu rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a San Steffan yn y dyfodol a fydd yn cydymffurfio â’r protocolau newydd sy’n gysylltiedig â Chytuniad Lisbon. I ystyried, yn benodol:

  • sut y rhoddir gwybod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am gynigion Ewropeaidd sy’n dod o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol a rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y broses hon

  • sut y bydd rhanbarthau deddfwriaethol eraill yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i’r afael â’r mater o fonitro sybsidiaredd

  • sut y bydd y protocol newydd a nodir yng Nghytuniad Lisbon yn effeithio ar y trefniadau ffurfiol yng Nghymru? Beth fyddai’n gyfnod addas o amser I graffu ar gynnig ac ymateb i Senedd San Steffan?

  • beth fydd goblygiadau cytundeb ffurfiol rhwng deddfwrfeydd datganoledig y DU o ran adnoddau a sut y gellir mynd i’r afael â’r rhain?

  • sut y gellir cydgysylltu cytundeb ffurfiol rhwng y deddfwrfeydd datganoledig?

  • beth fyddai’n digwydd pe bai Cymru yn penderfynu bod cynnig yr UE yn torri’r egwyddor o sybsidiaredd? Beth fyddai’r canlyniad pe bai safbwyntiau’r Cynulliad Cenedlaethol a San Steffan ar gynnig yn wahanol?

  • a fyddai’n fwy effeithiol monitro sybsidiaredd ar lefel Ewropeaidd (drwy Bwyllgor y Rhanbarthau) nag ar lefel y DU?

Ymgynghori

Tystiolaeth

Mae’r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

15 Mai 2008

9 Hydref 2008

23 Hydref 2008

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 18 Mawrth 2009

Ymateb y Llywydd - 17 Ebrill 2009

Cyhoeddwyd ymateb y Gweinidog i’r adroddiad ar 13 Mai 2009

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help