Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Ymchwiliad i’r Adolygiad o Gyllideb yr UE
Cylch gorchwyl a’r materion allweddol i fynd i’r afael â hwy:
Deall a gwerthuso meddylfryd y Comisiwn Ewropeaidd o ran siâp Cyllideb yr UE yn y dyfodol, ac asesu’r effeithiau posibl y gallai’r Adolygiad o Gyllideb yr UE eu cael ar gyfleoedd ariannu’r UE ar gyfer Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys yr effaith ar Gronfeydd Strwythurol yr UE a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
Deall a gwerthuso trywydd Llywodraeth y DU ar gyfer trafodaethau ar yr Adolygiad o Gyllideb yr UE yn y dyfodol, o’i gymharu â’r safbwyntiau sy’n ymddangos o’r Aelod Wladwriaethau eraill, ac asesu a yw sefyllfa’r DU yn gwneud y gorau o fuddiannau Cymru ai peidio
Deall a gwerthuso sut mae Llywodraeth Cymru’n cymryd rhan yn y ddadl ar siâp Cyllideb yr UE yn y dyfodol a sut mae’n dylanwadu ar sefyllfa Llywodraeth y DU
Gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o gyfrannu at y sefyllfa negodi ar gyllideb yr UE yn y dyfodol
Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio’n arbennig ar y cwestiynau/materion canlynol:
Pa effaith fydd yr argyfwng ariannol ac economaidd yn ei gael ar (i) setliad terfynol y gyllideb gyffredinol, a (ii) y blaenoriaethau ar gyfer strategaeth yr UE yn y dyfodol?
Beth fydd goblygiadau penodol newidiadau ym Mholisi Cydlyniant yr EU a dyraniadau PAC i Gymru? A oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth i fynd ar drywydd ffynonellau eraill o arian, yn y ddau faes hyn ac yn nhermau chwilio am raglenni ariannu eraill yr UE?
Beth fydd y "llinellau coch” yn sefyllfa Llywodraeth y DU mewn trafodaethau ym Mrwsel yn ystod cyfnod 2010-2012?
Pa safbwyntiau eraill sy’n ymddangos ym Mrwsel? O Aelod Wladwriaethau eraill, Senedd Ewrop, rhwydweithiau’r UE, rhanbarthau? Sut mae’r safbwyntiau hyn yn cymharu â rhai Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU? A oes unrhyw agweddau ar y safbwyntiau hyn sy’n ymddangos a fyddai’n edrych yn ddiddorol o safbwynt Cymru?
