Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Ymchwiliad i Flwyddyn Ewropeaidd Goresgyn Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol 2010
Y cylch gorchwyl a'r materion allweddol a drafodwyd gan yr ymchwiliad oedd:
Deall perthnasedd Blwyddyn Ewropeaidd Goresgyn Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol 2010 i Gymru;
Canfod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â’r Flwyddyn Ewropeaidd, gan gynnwys ei rôl o fewn Corff Gweithredu Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, manylion unrhyw ddigwyddiadau neu ymgyrchoedd y mae’n bwriadu eu trefnu ac unrhyw gyllid ychwanegol y mae’n bwriadu ei roi i’r trydydd sector i gefnogi gweithgareddau ledled Cymru yn ystod y flwyddyn;
Deall pa strategaeth (os o gwbl) sydd gan Llywodraeth Cymru o ran y “Blynyddoedd Ewropeaidd” yn gyffredinol, i sicrhau bod Cymru’n cyfrannu mor effeithiol â phosibl i’r cyfleodd sy’n deillio ohonynt;
Ystyried sut y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru gefnogi mentrau fel Blwyddyn Ewropeaidd 2010 a Blynyddoedd Ewropeaidd y dyfodol;
Clywed gan fudd-ddeiliaid o Gymru ac Ewrop am sut mai arfer gorau yn cael ei rannu a pha gamau y maent wedi bwriadu eu cymryd i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gaiff eu cynnig gan Flwyddyn Ewropeaidd 2010.
