Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol
Hawliau Cleifion yng Ngofal Iechyd Trawsffiniol
Cylch gorchwyl
Adolygu’r goblygiadau posibl i Gymru yn sgil y Gyfarwyddeb ar hawliau cleifion mewn gofal trawsffiniol
Edrych ar safbwynt Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran y cynigion hyn, ac i ba raddau y mae ei safbwynt yn cyd-fynd â safbwynt Llywodraeth y DU
Cyflwyno argymhellion, fel sy’n briodol, i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac i gyflwyno ei adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i ddylanwadu ar safbwynt y DU ynghylch y mater
Materion i’w hystyried yn ystod yr ymchwiliad
Wrth baratoi ei ymateb i gynigion y Comisiwn, dywedodd Cydffederasiwn y GIG yn ei dystiolaeth i Dy’r Arglwyddi ei fod wedi cynnal ymgynghoriad a arweiniodd at safbwynt Seisnig yn ei hanfod, gan fod y mwyafrif helaeth o’r ymatebion wedi dod o sefydliadau yn Lloegr. Mae’r Alban eisoes wedi cynnal ymgynghoriad ar wahân ac efallai fod hyn yn awgrymu y dylid edrych ar y Gyfarwyddeb o safbwynt Cymreig i weld a oes unrhyw faterion a fyddai’n effeithio ar ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghymru, neu faterion sy’n wahanol i’r rheini yn Lloegr.
Gan gofio hyn, gallai’r ymchwiliad roi sylw i’r canlynol:
Effaith y Gyfarwyddeb ar y GIG yng Nghymru;
Ymateb Llywodraeth y DU i’r Gyfarwyddeb a’i heffaith ar y gwahanol wasanaethau gofal iechyd yn y DU;
Y materion a allai ddeillio o’r Gyfarwyddeb arfaethedig gan gynnwys awdurdodi, anghydraddoldebau a gwneud iawn;
Effaith bosibl y cynnydd mewn llif cleifion ar adnoddau’r GIG yng Nghymru gan gynnwys darparu gwybodaeth a rhestri aros hwy;
Safbwyntiau ar y dulliau talu arfaethedig;
Sut y gallai Cymru ymateb i’r manteision a’r heriau o gydweithredu mwy yn y meysydd a nodir yn y Gyfarwyddeb, gan gynnwys e-iechyd a safonau ac ansawdd gofal cleifion.
