Y Pwyllgor Cyllid (2007-2011)
Bu'r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am graffu'n briodol ar gyllideb a gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Ombwdsmon, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hyn a’r gwahanol Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyrff y Gwasanaeth Iechyd.
Yn gyffredinol roedd gan y Pwyllgor dair prif swyddogaeth:
ystyried y cynigion ar gyfer cyllideb y Cynulliad, a chyflwyno adroddiad arnynt;
ystyried y wybodaeth ariannol a gyflwynir gyda Mesurau Cynulliad, a lle bo’n briodol, cyflwyno adroddiad arni;
ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant y Llywodraeth neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu sy’n effeithio ar y gwariant hwnnw.
Mae Rheol Sefydlog 14 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi manylion llawn am weithdrefnau'r pwyllgor ac mae Rheol Sefydlog 27 yn nodi’r amserlen ar gyfer trefnu cyfarfodydd gyda golwg ar y broses gyllid.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Ganllawiau ar wybodaeth i gyd-fynd â Mesur Cynulliad arfaethedig ym mis Ionawr 2009.
