Y Pwyllgor Cyllid

Ymchwiliad i addysg ôl-16, addysg bellach ac addysg uwch

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynnu cynnal ymchwiliad i Ariannu addysg ôl-16, addysg bellach ac addysg uwch, ac yn galw ar unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifennedig. Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad oedd:

Cylch gorchwyl

Ystyried y ddarpariaeth ar gyfer gwario ar addysg ôl-16, addysg bellach ac addysg uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru 2010-11, gan ystyried y sefyllfa economaidd bresennol a’r newidiadau a wnaed i gyllidebau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei phrif gyllideb ar gyfer 2010-11.

Yn ogystal, mae’r Pwyllgor yn awyddus i ystyried sut y bydd darpariaeth y gyllideb yn effeithio ar raglenni a chyrsiau penodol, felly mi fydd yn ddefnyddiol os gall esiamplau o achosion enghreifftiol cael eu darparu o gynlluniau sydd â’r potensial i gael eu heffeithio.

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar Rhagfyr 2009. Caeodd hwn ar 8 Ionawr 2010.

Ymatebion a gafwyd

Tystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn

Lincs i bapurau a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd perthnasol

Adroddiad

Cyhoeddir adroddiad y Pwyllgor yma

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help