Y Pwyllgor Cyllid
Ymchwiliad i Ddyrannu Cronfeydd Cyfalaf yng Nghymru
Cylch gorchwyl
Ystyried y ffordd y caiff cronfeydd cyfalaf eu dyrannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gan ystyried yr angen am y pwyntiau a ganlyn:
sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac effeithiol i gyflawni amcanion datganedig y Llywodraeth;
cydbwyso blaenoriaethau gwleidyddol cystadleuol o fewn adrannau a rhwng adrannau;
cadw ymrwymiadau blaenorol a chyfredol mewn cof;
gallu ymateb yn hyblyg i flaenoriaethau gwleidyddol cyfnewidiol neu flaenoriaethau eraill;
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio’n benodol ar y pwyntiau a ganlyn:
i ba raddau y caiff y rhaglen gwariant cyfalaf ei rheoli a’i chydlynu’n strategol;
sut y caiff prosiectau eu hasesu cyn eu cymeradwyo; sut y caiff cynnydd ei fonitro a sut y caiff y gyllideb a gwariant eu rheoli yn ystod y flwyddyn.
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn bwrw golwg dros y pwyntiau a ganlyn, fel y bo’n briodol:
sut caiff cymalau cymdeithasol eu gweithredu mewn caffael cyfalaf;
sut mae cytundebau fframwaith yn datblygu;
pa gyfleoedd sydd i hyrwyddo busnesau yng Nghymru o fewn y rhaglen gyfalaf;
pa ddylanwad posibl sydd mewn rhaglenni cyfalaf.
Ar y cyfan, mae buddsoddiad cyfalaf yn ymrwymiad hirdymor ac, yn aml iawn, dim ond yn y tymor canolig a’r hirdymor y gellir gwerthuso ei effeithiolrwydd. Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio’n eang ar y prosesau o ddyrannu a rheoli gwariant cyfalaf, ac ni fydd yn cynnwys asesu rhinweddau, na’r dulliau o weithio ar gyfer prosiectau unigol.
