Y Pwyllgor Cyllid
FIN(3)-09-R04 - Ymchwiliad i Grantiau Addysg wedi’u neilltuo
Ymateb Ysgrifenedig i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Grantiau Addysg Penodol gan Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
14 Medi 2009
Hoffwn groesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar eu hymchwiliad i Grantiau Addysg Penodol. Mae pwysigrwydd sicrhau'r gwerth gorau o'n harian a lleihau biwrocratiaeth yn fwy amlwg heddiw nag erioed o'r blaen. Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn agos iawn at ein cyfeiriad polisi presennol, ac mae’n bleser mawr gennyf fy mod yn gallu derbyn y rheini ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ymrwymo i sicrhau bod y rheini y mae angen i'r awdurdodau lleol eu hystyried yn cael eu trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Rwyf wedi nodi fy ymatebion manwl i argymhellion unigol yr Adroddiad isod.
Mae'r Pwyllgor yn argymell:
1. y dylai’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau greu rhestr o’r holl grantiau penodol sydd ar gael i ysgolion a cholegau. Dylai hyn gynnwys holl grantiau Llywodraeth y Cynulliad, pa un a ydynt yn dod o’i hadran hi neu o adrannau eraill Llywodraeth y Cynulliad. Dylid cyhoeddi’r rhestr ar y rhyngrwyd mewn fformat sy’n galluogi ysgolion a cholegau i weld beth sydd ar gael a pha grantiau y gallent fod yn gymwys i’w cael. Dylai ddynodi faint o arian sydd ar gael ac o ble y gall ysgol neu goleg gael y wybodaeth ynglyn â gwneud cais.
Ymateb : Derbyn
Mae cronfa ddata a rhestr o'r holl grantiau sy'n cael eu neilltuo a gaiff eu llunio’n flynyddol eisoes ar gael fel rhan o'r papurau ar setliad Refeniw Llywodraeth Leol (er enghraifft: http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/localgov/081210finalsettablee.xls) Fodd bynnag, nid yw hynny'n galluogi ysgolion na cholegau i ganfod a oes arian ar gael ar gyfer gweithgareddau penodol neu sut y gallent gael gafael arno. Felly, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud gwaith ymchwil er mwyn ychwanegu'r wybodaeth sy'n galluogi ysgolion a cholegau i weld yr hyn sydd ar gael a pha grantiau y gallent fod yn gymwys iddynt at y rhestr bresennol a rhoi'r rhestr honno ar y rhyngrwyd.
Goblygiadau Ariannol: Defnyddir adnoddau presennol i dalu am gostau llunio'r rhestr a'i chyhoeddi'n electronig.
2. y dylai’r awdurdod addysg lleol, yn yr un modd, gyhoeddi rhestr ar y rhyngrwyd o’r holl grantiau sydd ar gael i ysgolion neu golegau o fewn ei ardal a lle y gallant gael y wybodaeth ynglyn â gwneud cais.
Ymateb
Mater i'r Awdurdodau Lleol ei ystyried yw’r argymhelliad hwn. Fodd bynnag, byddaf yn sicrhau bod eu sylw'n cael ei dynnu ato.
3. Er mwyn lleddfu’r pryderon bod awdurdodau lleol yn cymryd rhan o’r grantiau a roddir mewn ffordd afresymol, y dylai awdurdodau lleol gyhoeddi symiau a gwerth y grantiau y maent yn eu cael mewn blwyddyn a’r symiau o’r grantiau hynny sydd wedi cael eu rhoi i bob ysgol a choleg. Dylent hefyd gyhoeddi’r symiau a gadwyd o fewn yr awdurdod ac i ba bwrpas y gwnaed hynny.
Ymateb
Mater i'r Awdurdodau Lleol ei ystyried yw’r argymhelliad hwn. Fodd bynnag, byddaf yn sicrhau bod eu sylw'n cael ei dynnu ato. Gallai fod yn ddefnyddiol nodi, fodd bynnag, fod gwybodaeth am wariant yr awdurdodau lleol ar addysg, gan gynnwys grantiau penodol, sy'n dangos y "gyfradd dirprwyo" i ysgolion yn gyffredinol, yn cael ei chyhoeddi'n flynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. [yr adroddiad diweddaraf Gorffennaf 2008 http://wales.gov.uk/topics/statistics/theme/loc-gov/educa/?skip=1&lang=cy]
4. Wrth i grant ddod i ben, y dylid gwneud pob ymdrech i gyflawni amcan y grant drwy ddefnyddio’r ffrydiau ariannu presennol. Dylid anelu at wneud y broses yn fwy effeithlon ac yn llai beichus drwy ddefnyddio grantiau mwy, a llai ohonynt.
Ymateb : Derbyn
Mae adolygiad o'r grantiau presennol i lywodraeth leol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd fel rhan o'r broses o ddatblygu cytundebau canlyniad gyda llywodraeth leol. Mae'r adolygiad yn ystyried nifer, maint a strategaethau ymadael y grantiau hyn. Bydd mwy o fanylion ar gael pan gyhoeddir cyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2010-11 ym mis Hydref.
Goblygiadau Ariannol: Telir am gostau gweinyddol rhesymoli o fewn y costau rhedeg presennol.
5. y dylai’r Llywodraeth gyflwyno cynllun grantiau ‘bach’, ar gyfer pob grant o dan £10,000, fel mater o frys.
Ymateb : Gwrthod
Mae Llywodraeth y Cynulliad am leihau cost gweinyddu cynlluniau grant penodol drwy leihau lefel yr arian sy'n cael ei neilltuo, naill ai trwy gyfuno ffrydiau ariannu grantiau neu gynnwys arian grantiau yn y grant cynnal refeniw. Yn y cyd-destun hwn, byddai cost gweinyddu cynllun grant a oedd yn arwain at ddyraniadau grant unigol o lai na £10,000 yn debygol iawn o fod yn anghyfartal ac yn amhriodol heblaw dan amgylchiadau eithriadol iawn.
Goblygiadau Ariannol: dim
6. bod y Llywodraeth yn cyflwyno dull sy'n ei gwneud yn glir o’r adeg y caiff grant penodol ei gyflwyno beth fydd yn digwydd pan ddaw'r grant i ben ac, er enghraifft, a fydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i'r Grant Cynnal Refeniw, a dylid cyflwyno ffigurau mynegol ar gyfer dyraniadau unigol yr adeg honno. Dylai hyn fod yn berthnasol i awdurdodau addysg lleol, ysgolion a'r sectorau addysg bellach ac addysg uwch.
Ymateb : Derbyn
Mae'r ymarfer presennol i adnewyddu Cytundeb Essex/Jones yn cynnwys adolygiad o'r Protocol Grantiau. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r broblem o ran i ba raddau y caiff y Protocol ei ddiwygio er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud yn glir beth fydd yn digwydd pan ddaw'r grant i ben.
Goblygiadau Ariannol: dim
7. y dylid cryfhau’r Protocol ar Grantiau wedi’u Neilltuo, y bydd yn rhaid ei ddiwygio ychydig yng ngoleuni’r newidiadau hyn, fel y nodir uchod ac y dylai’r Llywodraeth a’r awdurdodau lleol lynu ato.
Ymateb : Derbyn
Fel y crybwyllwyd yn yr ymateb i Argymhelliad 6, mae'r ymarfer presennol i adnewyddu Cytundeb Essex/Jones yn cynnwys adolygiad o'r Protocol Grantiau.
Goblygiadau Ariannol: dim
