Y Pwyllgor Deisebau

Darpariaeth dysgu seiliedig ar waith ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed

Cylch Gorchwyl

Rydym wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ein hymchwiliad.

Diben yr ymchwiliad hwn yw edrych yn fanwl ar brofiadau pobl ifanc sy’n agored i niwed, yn arbennig y rheini sy’n byw’n annibynnol, ac sy’n dilyn rhaglenni sy’n seiliedig ar waith.

  • Argaeledd ac ansawdd rhaglenni hyfforddiant a lleoliadau seiliedig ar waith, yn arbennig lleoliadau sy’n addas ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed;

  • Cynnydd ar gyfer y person ifanc sy’n agored i niwed sy’n datblygu’r sgiliau a’r cymwysterau a enillodd mewn lleoliad blaenorol;

  • Cymorth ariannol i bobl ifanc sy’n ariannu hyn yn annibynnol, gan gynnwys lwfansau hyfforddiant, lwfans cynhaliaeth addysg, budd-daliadau, ac arian ar gyfer costau teithio;

  • Cymorth personol ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed gan gynnwys gwahaniaethau o ran lefel y cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n gadael gofal;

  • Effeithiolrwydd cydweithio / gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau yng Nghymru.

Ymgynghori

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar 20 Gorffennaf 2010.  Daeth hwn i ben ar 3 Medi 2010.

Llythyr Ymgynghori

Cyhoeddir yr ymatebion a gafwyd yma

Dystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn cael tystiolaeth gan amrwyiaeth o dystion mewn perthynas â’r mater hwn.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help