Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (2007-2011)
Cylch gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad oedd gofalu bod Aelodau’r Cynulliad yn cadw at safonau ymddygiad priodol.Roedd gan y Pwyllgor, yn gyffredinol, bum prif swyddogaeth:
Ymchwilio i unrhyw gwyn a gaiff ei chyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau, cyflwyno adroddiad arno ac, os yw’n briodol, argymell camau i’w cymryd.
Ystyried unrhyw faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelodau’n gyffredinol.
Goruchwylio’r trefniadau ar gyfer creu a chadw Cofrestr o Fuddiannau Aelodau a’r Cofnod o Aelodaeth Cymdeithasau a sicrhau eu bod ar gael i bawb eu gweld, a goruchwylio ffurf a chynnwys y Gofrestr a’r Cofnod .
Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cynulliad ynglyn â chwynion a wnaed o dan Reol Sefydlog 16 a chasgliadau’r adroddiad yng nghyswllt safonau moesegol wrth ymgymryd â busnes y Cynulliad.
Sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion o dan Reol Sefydlog 16.1(i) a’u gosod gerbron y Cynulliad.
Mae Rheol Sefydlog 16 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffordd mae’r Pwyllgor yn gweithio.
