Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 (2007 - 2011)
Sefydlwyd y Pwyllgor gan y Trydydd Cynulliad ar 26 Tachwedd 2008, fel un o’r pum pwyllgor deddfwriaeth parhaol, i ystyried a chyflwyno adroddiadau ar ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn bennaf gan Aelodau Cynulliad unigol, pwyllgorau a Chomisiwn y Cynulliad. Roedd yn bosibl i’r Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiadau ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth hefyd, fel yr oedd yn briodol.
Mae pwerau’r Pwyllgor wedi’u nodi yn Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn benodol Rheol cau Sefydlog 10, 22 a 23.
