Y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig

Hela â chn yng Nghymru

Cefndir

1. Ar 27 Mehefin 2000 penderfynodd cyfarfod llawn o’r Cynulliad Cenedlaethol y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru 'ofyn i Lywodraeth Ei Mawrhydi yn San Steffan ganiatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu ar gwestiwn hela â chn yng Nghymru drwy lunio unrhyw Fesur i ddarparu dibenion is-ddeddfwriaethol i’r perwyl hwn’. 2. Ar 19 Rhagfyr 2000 gofynnodd cyfarfod llawn o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w Bwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ystyried effeithiau penodol gwahardd hela â chn ar Gymru. Penderfynodd y Pwyllgor wahodd cyflwyniadau ysgrifenedig ynghylch y mater, gan dynnu sylw at ffactorau sy’n berthnasol i Gymru. Er na ddaeth y Mesur Hela gwreiddiol yn ddeddf cyn Etholiad Cyffredinol 2001, cytunodd y Pwyllgor y dylai’r ymatebion a dderbynnir ddylanwadu ar y broses o gynllunio ac archwilio unrhyw ddeddfwriaeth yn y Senedd yn y dyfodol. Amgaeir copi o ddatganiad y Pwyllgor i’r Wasg yn gwahodd sylwadau yn Atodiad A.

Adroddiad y Pwyllgor

3. Nid oedd y cyfarfod llawn na’r Pwyllgor yn awyddus i ystyried pa mor ddymunol fyddai gwaharddiad. Y nod oedd canolbwyntio ar faterion sy’n gwneud hela yng Nghymru yn wahanol i hela mewn ardaloedd eraill. O ganlyniad, defnyddiwyd yr ymatebion a dderbyniwyd i’n hymarfer ymgynghori ynghylch nodweddion allweddol hela yng Nghymru i lunio’r adroddiad hwn er mwyn sicrhau y’u hystyrir wrth lunio deddfwriaeth berthnasol. Cyfeiria’r Adroddiad yn ogystal at wybodaeth a gyhoeddwyd yn adroddiad y Committee of Inquiry into Hunting with Dogs in England and Wales (Ymchwiliad Burns). 4. Mae hela yn ennyn teimladau cryf ar bob ochr y ddadl a gwelir o’r ymatebion a dderbyniwyd fod hyn yr un mor wir yng Nghymru ac mewn llefydd eraill. Derbyniwyd cyfanswm o bron i 900 o ymatebion ysgrifenedig yn amrywio o lythyrau oddi wrth aelodau unigol o’r cyhoedd i gyflwyniadau cynhwysfawr iawn gan grwpiau pwyso a grwpiau lobïo. Dim ond canran fechan iawn o’r cyflwyniadau a dderbyniwyd a gyfeiriodd at gylch gorchwyl cyfyngedig ymchwiliad y Pwyllgor h.y. pennu unrhyw ffactorau o ddiddordeb arbennig i Gymru, a bu i lawer o bobl fynegi barn ynghylch hela gan gyfeirio at ffactorau i atgyfnerthu eu dadleuon. Roedd y rhan fwyaf o’r cyflwyniadau a dderbyniwyd yn erbyn gwahardd hela (861 yn erbyn gwaharddiad a 24 o blaid). Roedd oddeutu hanner o’r ymatebion hyn ar ffurf llythyrau cyffredin a gydgysylltir gan grwpiau lobïo. Gan fod trigolion ardaloedd gwledig y byddai’r gwaharddiad yn effeithio fwyaf arnynt yn fwy tebygol i ymateb i ymarfer ymgynghori o’r fath, rydym yn ymwybodol na ellir ystyried yr ymatebion hyn fel adlewyrchiad o’r sefyllfa ar draws Cymru. Fodd bynnag, er nad yw’r ymateb yn rhoi darlun cyflawn o’r farn gyhoeddus yng Nghymru, mae’n awgrymu pa mor gryf yw teimladau llawer o bobl yng nghefn gwlad. 5. Amlinella’r adrannau canlynol ddata allweddol yn gysylltiedig â hela yng Nghymru a’r prif bwyntiau y tynnwyd sylw atynt yn yr ymatebion a dderbyniwyd. Mae llawer o’r pwyntiau hyn yn seiliedig ar y gred fod angen rheoli llwynogod fel pla amaethyddol sylweddol. Fodd bynnag, ni fu i rai ymatebwyr dderbyn y datganiad cychwynnol hwn ac eithrio yn achos rhai llwynogod sy’n creu difrod. Er bod y Pwyllgor yn cydnabod bod gwahaniaeth rhwng ysglyfaethu tybiedig a gwir ysglyfaethu gan lwynogod, ni fu iddo ystyried y mater hwn, na dilysrwydd rhai o’r dadleuon yn y cyflwyniadau a dderbyniwyd.

Hela yng Nghymru

6. Mae 56 pac hela llwynogod wedi cofrestru â Ffederasiwn Paciau Cymru (FWP) ond nid yw’r rhain ond yn cynrychioli canran o gyfanswm y paciau sy’n bodoli yng Nghymru. Amcangyfrifir bod bron i ddwy neu dair gwaith mwy o baciau heb eu cofrestru yng Nghymru na phaciau cofrestredig. Gellir rhannu hela yng Nghymru yn dri prif fath:
  • Paciau hela ar geffylau - fe’u gwelir yn ardaloedd tir isel Cymru;
  • Cn bryniau - a ddilynir ar droed yn sgîl natur y tir a dymuniadau perchenogion tir;
  • Paciau hela â gynnau - ar dir uchel yn bennaf er mwyn cyfeirio llwynogod at ynnau o goedwigoedd neu rostiroedd.
7. Mae’r tabl isod yn cynnwys gwybodaeth ffeithiol sylfaenol yn cymharu helfeydd llwynogod yng Nghymru â helfeydd yng Nghymru a Lloegr ar y cyd:8. Mae helfeydd yng Nghymru yn dueddol yn fod yn llai na’r rhai yn Lloegr o ran incwm a nifer y gweithwyr a’r dilynwyr ac nid oes ond dilynwyr ar droed yn gysylltiedig â rhai helfeydd. Serch hynny, tueddir i ladd nifer fwy o lwynogod mewn helfeydd yng Nghymru o’u cymharu â rhai yn Lloegr. Mae’r incwm a geir am bob llwynog a leddir yng Nghymru yn is na’r incwm mewn unrhyw ardal yn Lloegr.

Paciau hela â gwn

9. Agwedd arbennig ar hela yng Nghymru yw bodolaeth oddeutu 50 o baciau hela â gwn. Ffurfir y rhain gan grwpiau o ffermwyr neu bobl eraill a gyflogir drwy gontract gan y sefydliadau. Defnyddir cn hela i leoli llwynogod ac i’w codi o goedwigoedd neu rostiroedd a’u cyfeirio at gylch o ynnau fel y gellir eu saethu’n agos. Adlewyrcha eu bodolaeth i ryw raddau nifer uchel y coedwigoedd yng Nghymru - mae 12% o ardal Cymru yn goedwig o’i gymharu â 8% o ardal Lloegr2. Yn anaml iawn ceir gwylwyr yn bresennol ac nid yw’r paciau yn dilyn nac yn chwilio am y llwynog am amser hir. Mae rhai paciau yn gweithredu gwasanaeth galw i ddilyn a lleoli llwynogod sy’n achosi difrod achlysurol o fewn eu hardaloedd. 10. Bu i nifer o bobl a ymatebodd i’n hymchwiliad gwestiynu effeithiolrwydd a sail egwyddorol y mesurau a fabwysiedir i gyfyngu ar niferoedd llwynogod. Serch hynny, roedd rhai pobl yn derbyn paciau hela â gwn a reolir yn briodol fel ffordd o leihau’n sylweddol niferoedd llwynogod ac o gadw costau lles yn isel o’u cymharu â’r costau sy’n gysylltiedig â dilyn neu ddod wyneb yn wyneb â llwynogod3.

Yr angen tybiedig i reoli llwynogod

11. Credir bod mwy o angen i reoli niferoedd llwynogod yng Nghymru, fel mewn ardaloedd uchel eraill, er mwyn rheoli buddiannau pobl sy’n magu defaid ac yn rheoli anifeiliaid i’w hela a rhoddir llai o bwyslais ar hela fel gweithgaredd hamdden. Adlewyrchir hyn yn yr incwm isel a geir am bob llwynog a leddir mewn helfeydd yng Nghymru ac yng nghasgliadau ymchwil Ymchwiliad Burns. Dangosodd yr ymchwil fod 96% o ffermwyr Canolbarth Cymru yn rheoli llwynogod er mwyn diogelu eu stoc o’u cymharu â 44% o ffermwyr Canolbarth Lloegr a 27% o ffermwyr East Anglia. Dangosodd yr ymchwil yn ogystal fod 13% o ffermwyr canolbarth Cymru yn ystyried lladd llwynogod yn weithgaredd hamdden o’u cymharu â 59% o ffermwyr Canolbarth Lloegr a 31% o ffermwyr East Anglia4. Gwelwyd hefyd fod 61% o ffermwyr Canolbarth Cymru yn adrodd ynghylch yn a leddir gan lwynogod o’u cymharu â 49% o ffermwyr Canolbarth Lloegr a 24% o ffermwyr East Anglia5. 12. Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon ffermwyr o nifer yr yn a leddir gan lwynogod. I raddau helaeth, mae amcangyfrifon o’r fath yn seiliedig ar ddulliau elfennol o fesur gweithgarwch anifeiliaid ysglyfaethus e.e. llwynogod a welir ger diadellau o yn, gweddillion cyrff yn mewn deyerydd llwynogod, y ffaith nad oes yn ger mamogiaid a ddylai fod wedi wyna. Nid yw’r holl ddulliau hyn yn profi fod llwynogod yn lladd yn ac o ganlyniad tueddir i chwyddo’r niferoedd. Amcangyfrifir bod llwynogod yn lladd oddeutu 3% o yn ar dir uchel yn ôl astudiaethau swyddogol, er bod ffermwyr yn credu eu bod yn lladd 18%. Gall nifer yr yn a leddir gan lwynogod fod yn ddifrifol ond nid oes data yn bodoli i ddangos gwir resymau colledion mor uchel. Gall ffactorau eraill sy’n effeithio ar golledion fod yn gysylltiedig â ffermio ar dir uchel yn ogystal gan gynnwys brid, pwysau adeg geni, ymborth a hinsawdd5.

Dibyniaeth ar gn

13. Golyga natur tir Cymru y dibynnir i raddau helaeth ar gn, un ai i gyfeirio llwynogod at ynnau neu ar gyfer twrio, gan nad oes llawer o ddewisiadau eraill addas. Tueddir i ddibynnu’n fawr ar gn yn hytrach na dulliau eraill fel maglau, trapiau a reifflau, sef dulliau nad ydynt mor effeithlon ar dir uchel yng Nghymru. Dangosodd data a gyflwynwyd yn Adroddiad Burns fod cn yn gysylltiedig â gweithgareddau lladd dros 75% o lwynogod yng Nghanolbarth Cymru. Roedd cn yn gysylltiedig â gweithgareddau lladd 28% o lwynogod yng Nghanolbarth Lloegr a 17% yn East Anglia6.

Dwysedd stocio

14. Ceir 37 miliwn o ddefaid yn y DU a lleolir 10 miliwn ohonynt yng Nghymru (27%). Mae cyfraddau stoc yn sylweddol uwch yng Nghymru ar gyfartaledd o’u cymharu â gweddill y DU. Ceir ychydig dros 7.2 dafad fesul erw yng Nghymru o’u cymharu â 3.9 yn Lloegr ac 1.7 yn Yr Alban7. Adlewyrchir y gyfradd uwch hon a’r ffaith mai ffermio da byw a wneir yng Nghymru yn bennaf ym mhwysigrwydd tybiedig yr yn a leddir gan lwynogod a’r nifer uwch o lwynogod a leddir gan baciau Cymreig.

Stoc sydd wedi marw

15. Mae’r gwasanaeth stoc sydd wedi marw a ddarperir gan lawer o helfeydd yn cynnwys casglu anifeiliaid marw na ellir eu gwerthu ac anifeiliaid sydd wedi’u hanafu neu sy’n sâl o ffermydd. Genir cyfran uchel o holl yn Cymru y tu allan, fel mewn ardaloedd uchel eraill. Golyga hyn, ynghyd â’r amodau garw a maint y ddiadell, fod ffermwyr yn gwaredu cyfran gymharol uchel o stoc sydd wedi marw. Mae gan rai ffermwyr tir uchel yng Nghymru drefniadau â chynelau hela lleol i wneud hynny am gostau is na’r rhai a godir gan wasanaeth celanedd trwyddedig ac felly byddent hwy’n wynebu costau ychwanegol petai’r cynelau yn cau. Rhagwelir y bydd rheoliadau Ewropeaidd ynghylch llosgi a chladdu cyrff anifeiliaid yn cyfyngu ymhellach ar yr opsiynau gwaredu sydd ar gael i ffermwyr.

Effaith economaidd

16. Bu i lawer o’r cyflwyniadau a dderbyniwyd dynnu sylw at effaith negyddol gwaharddiad ar economi Cymru yn sgîl colli cyflogaeth yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Rydym yn ymwybodol y byddai effaith gwaharddiad ar economi gwledig Cymru gyfan yn gyfyngedig ac yn llawer llai sylweddol na newidiadau mwy sylfaenol o ran strwythur yr economi. Bu i nifer o’r cyflwyniadau a dderbyniwyd dynnu sylw at hyn ac at nifer y swyddi a fyddai’n dod i ben ar draws yr economi cyfan. Bu i ymatebwyr eraill ddadlau y gallai effeithiau economaidd gwaharddiad fod yn sylweddol iawn o fewn cymunedau gwledig bychan Cymru lle nad oes llawer o gyfleoedd cyflogaeth eraill. Gallai effeithio’n negyddol ar ardaloedd neu alwedigaethau penodol ac achosi caledi i’r bobl y bydd y gwaharddiad yn effeithio arnynt.

Gwerth cymdeithasol

17. Canolbwyntiodd llawer o’r ymatebwyr ar werth cymdeithasol helfeydd a drefnir a gweithgareddau cysylltiedig. Bu i nifer ohonynt ddadlau unwaith eto fod helfeydd o’r fath yn bwysig iawn o fewn cymunedau gwledig bychan Cymru.2 Cyfarwyddiaeth Ystadegau Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Dangosyddion Cymharol 20003 Cyflwyniad Inter alia i ymchwiliad Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Campaigning to Protect Hunted Animals4 Committee of Inquiry into Hunting with Dogs in England and Wales, 2000, Report on Research Contracts 5&6 Tabl A1.4, Y Llyfrfa5 Ibid adran 1.4.2.1.16 Ibid Tabl A2.127 Cyfarwyddiaeth Ystadegau Cynulliad Cenedlaethol CymruCynulliad Cenedlaethol Cymru
Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig
Mehefin 2002

Atodiad A

Cyfle i’r cyhoedd roi eu barn ar wahardd helaMae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn i bobl am eu barn ar effeithiau posibl gwaharddiad rhag hela ar Gymru.Mae Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y Cynulliad yn rhoi’r cyfle i bobl Cymru ddweud eu dweud ar effeithiau posibl gwaharddiad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.Yn Rhagfyr 2000 cyfeiriwyd y Mesur Hela gan gyfarfod llawn y Cynulliad Cenedlaethol i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, er mwyn iddo ystyried ei effaith ar Gymru. Er na ddaeth y Mesur yn ddeddf cyn yr Etholiad Cyffredinol, awgrymwyd yn araith y Frenhines ym mis Mehefin y byddai’r Llywodraeth yn cynnal pleidlais rydd ar ddyfodol hela â chwn.Mae’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig felly wedi penderfynu cynnal ymchwiliad ar effaith gwaharddiad rhag hela â chwn ar Gymru. Nid nod y pwyllgor yw mynegi barn ar a ddylid cyflwyno gwaharddiad ai peidio, ond yn hytrach nodi unrhyw ffactorau o bwys arbennig i Gymru y dylid eu cyflwyno i’r ddadl yn San Steffan. I’r perwyl hwn, mae’r pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig ar effeithiau posib gwahardd hela, gan dynnu sylw at unrhyw ffactorau sy’n arbennig o berthnasol i Gymru.Dylai unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad hwn anfon eu cyfraniad trwy e-bost at agri-rural.comm@wales.gsi.gov.uk neu anfon copi at Glerc y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA. Dylai’r cyfraniadau gyrraedd erbyn dydd Gwener 16 Tachwedd, fan bellaf.Mae’r pwyllgor yn ymwybodol o’r pwysau ar gymunedau gwledig ar hyn o bryd, yn enwedig tra bo effeithiau clwy’r traed a’r genau yn parhau, ac felly caniatawyd digon o amser i ymateb i’r ymchwiliad hwn. Serch hynny, pe bai pleidlais yn cael ei galw yn San Steffan, yn fuan ar ôl i Dy’r Cyffredin ddychwelyd yng nghanol Hydref, mae’n bosib y bydd angen i’r pwyllgor ymateb cyn y dyddiad cau uchod. Anogir y rheini sydd am gyflwyno barn i ymateb erbyn dydd Gwener 12 Hydref 2001, felly os yw’n bosib, er mwyn sicrhau y bydd eu barn yn cael ei hystyried.

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help