Y Pwyllgor Diwylliant

Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
Eich cyf / Your Ref
Ein cyf / Our Ref
8 Mai 2001Annwyl Gyfaill
ADOLYGIAD Y PWYLLGOR DIWYLLIANT O’R IAITH GYMRAEG
Cyd-destun yr adolygiadMae Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol wrthi ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o’r iaith Gymraeg. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ymgynghoriad ysgrifenedig yn ogystal â sesiynau casglu gwybodaeth mewn cyfarfodydd gyda’r pwyllgor.Nododd y Cynulliad ei weledigaeth i Gymru yn y tymor hir yn gwellcymru.com. Roedd y weledigaeth hon yn cynnwys ymrwymiad "…i feithrin ei hunaniaeth unigryw ac amrywiol, a manteision dwyieithrwydd…" Yn erbyn y cefndir hwn, bydd y Pwyllgor Diwylliant yn awgrymu strategaeth gadarn er mwyn cynorthwyo i gyrraedd y nod hwn.Oherwydd y newidiadau a arweinodd at greu Pwyllgor Addysg a Phwyllgor Diwylliant ar wahân, cynhelir y prif adolygiad gan y Pwyllgor Diwylliant, a’r adolygiad o’r Gymraeg mewn addysg ffurfiol (Ysgolion, Addysg Bellach ac Addysg Uwch) ar wahân gan y Pwyllgor Addysg, sydd i ddechrau yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Serch hynny, mae addysg anstatudol, er enghraifft darpariaeth addysg feithrin ac addysg i oedolion, yn dod o fewn cylch gwaith yr adolygiad hwn.Yn ystod yr adolygiad, bydd y Pwyllgor Diwylliant yn derbyn cyngor arbenigol oddi wrth Euryn Ogwen Williams.Cyfrannu at yr adolygiadYn amgaeëdig gyda’r llythyr hwn, y mae nifer o ddogfennau yr ydym yn gobeithio y byddant yn medru cyfoethogi’r ymatebion i’r adolygiad:- Mae Atodiad A yn cynnwys Cylch Gwaith yr adolygiad a phenderfyniad y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf 2000. Yn unol â’r penderfyniad, ni fydd yr adolygiad yn ystyried unrhyw faterion deddfwriaethol manwl.
- Yn Atodiad B, ceir amserlen arfaethedig yr adolygiad; drafft cychwynnol yw hwn, sy’n debyg o gael ei ddiwygio. Bydd y sefydliadau hynny sydd ar y rhestr i ymddangos gerbron y Pwyllgor yn derbyn gwahoddiad ar wahân cyn bo hir. Bydd cyfle i’r sefydliadau nad ydynt yn ymddangos yn y rhestr ond a hoffai wneud cyfraniad llafar i’r adolygiad, wneud hyn yn y sesiynau 'microffon agored’ ym mhedair 'sioe deithiol’ yr adolygiad iaith, fel a nodir yn yr amserlen.
- Mae Atodiad C yn nodi nifer o themâu y bydd yr adolygiad yn talu sylw manwl iddynt, ac yn gwahodd unigolion a sefydliadau i gyflwyno tystiolaeth ar ystod y pynciau a’r materion a restrir yma. Tra byddem yn gwerthfawrogi sylwadau ar y themâu hyn, mae croeso i’r cyfranwyr wneud unrhyw sylwadau eraill y mynnant.
- Papur sefyllfa ar yr iaith Gymraeg yw Atodiad D, a ystyriwyd gan y Pwyllgor ar 14 Mawrth.
- Mae Atodiad E yn darparu rhai manylion cefndir ynghylch y Pwyllgor.
- Yn Atodiad F, ceir y rhestr o sefydliadau ac unigolion y gwahoddwyd iddynt gyfrannu at yr adolygiad ysgrifenedig hwn. Os yw’r cyfranwyr yn gwybod am sefydliadau ac unigolion eraill a fyddai’n hoffi cyfrannu at yr adolygiad, byddwn yn ddiolchgar pe gallent anfon y llythyr hwn a’r atodiadau ymlaen atynt.
ATODIAD A
CYLCH GORCHWYL
Mae cylch gorchwyl yr adolygiad fel a ganlyn:I geisio diffinio’n fwy manwl nod sefydledig y Cynulliad Cenedlaethol o 'greu Cymru ddwyieithog’. Nod y Pwyllgor fydd awgrymu strategaeth bendant o’r camau tuag at gyflawni’r nod honno.Bydd yr adolygiad yn talu sylw arbennig i’r themâu canlynol:- galluogi pobl i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall neu’r ddwy ymhob agwedd o fywyd cenedlaethol ac yn eu cymunedau;
- cefnogi Cymraeg fel iaith y teulu a’r gymuned;
- darparu cyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg, a’i defnyddio;
- hyrwyddo parch cyfartal tuag at y Gymraeg a’r Saesneg, a chynnal y consensws a’r ewyllys da cenedlaethol at ddwyieithrwydd.
TELERAU’R PENDEFYNIAD A FABWYSIADWYD GAN Y CYFARFOD LLAWN AR 4 GORFENNAF 2000
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol:1 Yn nodi'r ymrwymiad yn nogfen 'Gwell Cymru' i feithrin manteision dwyiethrwydd.2 Yn cydnabod cyfraniad sefydlu S4C a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i Gymru, ac yn croesawu'r camau cadarnhaol eraill a ddeilliodd o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.3 Yn croesawu'r cynnydd pellach a wnaethpwyd o ran yr iaith Gymraeg ym mlwyddyn gyntaf datganoli, sydd wedi cynnwys:- gweithredu'n llawn ofynion y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer Cymraeg yng nghyfnod allweddol 4 mewn ysgolion di-Gymraeg;
- Llywodraeth y DU yn llofnodi'r Siarter Ewropeaidd dros Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol;
- cynyddu adnoddau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yng nghylch cyllideb 1999-2000.
ATODIAD B
PWYLLGOR DIWYLLIANT
ADOLYGIAD YR IAITH GYMRAEG: AMSERLEN PROSIECT
(NB: Angen ychwanegu gweithgaredd pwyllgorau rhanbarth at yr amserlen)
| Dyddiad Cyfarfod (Bore Mercher i gyd) | Gweithgaredd | Lleoliad/Pwy sy'n ymddangos |
|---|---|---|
| 2 Mai | Cyflwyniad a chwestiynau | CCCBwrdd yr Iaith GymraegCadarnhawyd yr eitemau canlynol:Cyflwyniad y Cyngor LlyfrauCyflwyniad gan Ddinas a Sir CaerdyddAdroddiad y Pwyllgor dan Reol Sefydlog 9.9 |
| 16 Mai | Cyflwyniad a chwestiynau | CCCMr Winston RoddickAcademyddion(rhestr dros dro:Yr Athro Colin WilliamsDr Mark Tewdwr JonesDylan Phillips)Cadarnhawyd y canlynol hefyd:Adroddiad y GweinidogTrafod â Chanolfan y Mileniwm |
| 6 Mehefin | Ar yr Hewl | Canolfan y Celfyddydau, AberystwythUrdd Gobaith CymruCyngor LlyfrauCYDCyngor Sir Ceredigion Llyfrgell Genedlaethol CymruCymdeithas Ffermwyr Ifanc CymruEitemau eraill a gadarnhawyd:Cynllun Iaith Gymraeg y CynulliadAdroddiad ar ymgynghoriad RESOURCE |
| 20 Mehefin | Cyflwyniad a chwestiynau | CCCWedi ei gadw'n rhydd i drafod Canolfan y MileniwmEitemau eraill a gadarnhawyd:Trafod blaenoriaethau cyllidebAdroddiad y Gweinidog |
| 4 Gorff | Ar yr Hewl | DinbychCefnPopeth CymraegCanolfan IaithChampion FMCyngor Sir DdinbychCyngor Sir Gwynedd Yr Athro Colin BakerDr Glyn Williams |
| 18 Gorff | Cyflwyniad a chwestiynau | CCCCymdeithas yr Iaith GymraegEisteddfod Genedlaethol (+ trafodaeth y pwyllgor ar yr adolygiad hyd yn hyn)Eitemau eraill a gadarnhawyd:Adroddiad y GweinidogTrafodaeth derfynol ar flaenoriaethau cyllidebAdroddiadau terfynol Adolygiadau Pum Mlynedd |
| TORIAD | ||
| 24 Hydref | Ar yr Hewl | AbertaweMentrau IaithIaith CyfHeini GruffyddMudiad Ysgolion MeithrinCyngor Sir AbertaweCyngor Sir CaerfyrddinCyngor Sir Penfro |
| 7 Tach | Cyflwyniad a chwestiynau | CCCComisiwn Cydraddoldeb HiliolBiwro ieithoedd llai eu defnyddELWAWCVAMercatorEitemau eraill a gadarnhawyd:Adroddiad y Gweinidog |
| 15 Tach | Ar yr Hewl | CasnewyddTystion i'w cadarnhau(WDABwrdd Croeso CymruMenter a BusnesYr Athro Dylan Jones-EvansCBI CymruTUC Cymru) |
| 21 Tach | Cyflwyniad a chwestiynau | CCCWAHATFfederasiwn Busnesau BychainCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
| 5 Rhag | Cyflwyniad a chwestiynau | CCCBBC CymruS4CGolwg (Dylan Iorwerth)Cyngor Celfyddydau Cymru(+ Trafodaeth ar yr Adolygiad)Eitemau eraill wedi eu cadarnhau:Adroddiad y Gweinidog |
| Ion i Ebrill 2002 | Trafod, dadansoddi, gwerthuso a chyfnod Adroddiad | Sesiwn gyda Bwrdd yr Iaith yn Ionawr 2002 |
ATODIAD C
Mae'r themâu canlynol yn gosod strwythur i'r Adolygiad ac i'r adroddiad terfynol. Byddai o gymorth petaech yn gallu defnyddio'r themâu yn yr un modd yn eich cyflwyniad. Rydym wedi cynnwys Blaenoriaethau, Mesurau a Rhwystrau Posibl, a nodwyd yn barod mewn adroddiadau a thrafodaethau am yr iaith Gymraeg. Gallwch ymateb i’r rhain neu ychwanegu atynt yn eich cyflwyniad.Mae'r Prif Themâu yn 'wleidyddol' yn yr ystyr eu bod yn ymwneud â chynnal pobl yn eu cymunedau a dinasyddion mewn perthynas â'u llywodraeth ddemocrataidd. Y mae hefyd bum pwnc sy'n croestorri bob thema sy'n seiliedig ar y gwaith damcaniaethol ar ddwyieithrwydd a chynllunio iaith. Seiliwyd y damcaniaethau ar astudiaethau o gymunedau ledled y byd sydd wedi ymdrin â dwyieithrwydd.THEMA: TEULUOEDD A CHYMUNEDAU
Dylid ystyried y thema hon yn arbennig ynghyd â'r themâu trawsbynciol a welir isod. Bydd y Pwyllgor Addysg yn adolygu agweddau ffurfiol addysg ddwyieithog. Cesglir y dystiolaeth honno ar wahân. Mae'r adolygiad hwn yn ystyried addysg feithrin a darpariaeth Cymraeg-i-oedolion a ddarperir gan yr amryw gymunedau islaw,BLAENORIAETHAU:
- Teuluoedd
- Cymunedau Daearyddol ( yn cynnwys cadarnleoedd yr iaith)
- Cymunedau Sefydliadol (Statudol a Gwirfoddol)
- Cymunedau Corfforaethol
- Cymunedau Hirbell
- Pobol ifanc y tu allan i amgylchfyd ysgol.
- Ymfudo I mewn ac allan o’r ardaloedd cymraeg
MESURAU
- Cynllunio Ieithyddol
- Rhoi grym i gymunedau
- Hyfforddiant
- Mesurau cynnal teulu a chymuned
- Asiantaethau galluogi deinamig
- Datblygu cynaliadawy
- Cysylltu a mynediad i'r dechnoleg newydd
- Partneriaethau effeithiol
RHWYSTRAU POSIBL
Diffyg adnoddau
Diffyg syniadau newydd
Rheoliadau Cynllunio
Biwrocratiaeth oddi uchod
Gagendor Digidol
THEMA: DATBLYGU ECONOMAIDD
Heb weithgarwch economaidd mae cymunedau'n marw. Heb gymuned, mae ieithoedd yn marw. Datblygu economaidd, yn enwedig yng nghadarnleoedd yr iaith, yw hanfod cynhaliaeth yr iaith. Mae enghreifftiau hanesyddol o hyn yn ardaloedd chwareli'r gogledd a maes glo'r gorllewin; mae enghreifftiau mwy diweddar yn y sector cynhyrchu annibynnol sy'n cyflenwi S4C, Antur Teifi a Menter a Busnes.BLAENORIAETHAU:
- Cefnogi a chynnal mentrau, yn enwedig mentrau cymunedol, mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn dal yn gryf, ar gyfer buddsoddiad Amcan 1.
- Sicrhau nad yw eu lleoliad yn eithrio'r ardaloedd hyn o'r gymdeithas wybodaeth.
- Cynnig cymhellion i greu adnoddau dwyieithog.
MESURAU
- Cefnogi mentergarwch dwyieithog gyda chymhellion ychwanegol.
- Sicrhau cyswllt bandeang fforddadwy i bob rhan o Gymru.
- Rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i gyfleon yn yr Economi Newydd i gwmnïau sy'n cyflogi gweithlu dwyieithog.
- Ystyried cymhellion trethiannol i gwmnïau bach a chanolig sy'n gweithredu'n ddwyieithog
RHWYSTRAU POSIBL
- Methu deall fod datblygiad economaidd yn hanfodol i ddatblygiad iaith.
- Methiant i gofleidio cyfleoedd y Dechnoleg Newydd nas cyfyngir gan leoliad.
- Methiant i gwmpasu syniadaeth economaidd brif ffrwd ar ymddygiad defnyddwyr mewn prosesau cynllunio iaith.
THEMA: YMCHWIL A DATBLYGU
Mae llawer o fylchau yn y wybodaeth sydd ei hangen i greu darlun clir o'r sefyllfa bresennol. Ni fydd yr holl wybodaeth o'r cyfrifiad ar gael tan 2003. Bydd angen gwybodaeth i flaenoriaethu gweithgarwch y gallai'r Pwyllgor ei argymell.BLAENORIAETHAU
- Creu proses o gasglu data sylfaenol ar sefyllfa bresennol y Gymraeg.
- Gosod meincnodau i fesur effeithiolrwydd y polisi ar hyn o bryd a'r buddsoddiad mewn meysydd allweddol.
- Sefydlu ymchwil broffesiynol i fapio effeithiolrwydd dwyieithrwydd yng Nghymru
- Archwilio a datblygu dulliau traddodiadol a newydd o ddosbarthu adnoddau creadigol yn y Gymraeg.
MESURAU
- Sefydlu partneriaeth o asiantaethau, S4C, BBC Radio Cymru, y Bwrdd Croeso, Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill gydag adrannau ymchwil i rannu adnoddau.
- Bwrdd yr Iaith Gymraeg i archwilio ymchwil gyfredol a chreu a chydlynu cynllun ymchwil Cymru gyfan yn y dyfodol.
- Creu bas data o'r ymchwil gyda chefnogaeth sefydliad Addysg Uwch a fydd ar gael i weithwyr prosiectau ac wedi ei gysylltu ag ymchwil Ewropeaidd.
- Sicrhau fod yr ymchwil yma yn sail i gynllunio hir dymor ac i fuddsoddi cyhoeddus.
RHWYSTRAU POSIBL
- Methu wynebu'r angen i gyfiawnhau buddsoddi cyhoeddus.
- Gadael i'r trefniadau rhyng-sefydliadol traddodiadol barhau.
- Diffyg ymddiriedaeth mewn proses agored, atebol, ddemocrataidd.
THEMA: HYBU DWYIEITHRWYDD A CHYNNAL CONSENSWS CENEDLAETHOL AC EWYLLYS DA
Lle bo'r lleiafrif yn ddwyieithog a lle bo'r mwyafrif yn cydnabod hawl y dinesydd unigol i dderbyn gwasanaethau yn y naill neu'r ddwy iaith, mae tystiolaeth fod trefniadaeth sefydlog a pharhaol yn bodoli. Mae canfod consensws ar y ffordd hon ymlaen yn un o themâu'r adolygiad hwn.BLAENORIAETHAU
- Adeiladu ar y weledigaeth o Gymru ddemocrataidd, ddwyieithog, aml-ddiwylliant.
- Creu canfyddiad o'r Gymraeg fel adnodd gwerthfawr.
- Diffinio'r berthynas rhwng y dinesydd, y gymuned a'r llywodraeth.
MESURAU
- Y Cynulliad Cenedlaethol i arwain ar bolisïau holistaidd.
- Sicrhau fod adnoddau yn y Gymraeg ar gael ym mhob cymuned gan gynnwys cymunedau'r we.
- Dadansoddi agweddau a thrwy bartneriaeth o asiantaethau, hybu syniad dwyieithrwydd trwy Gymru gyfan.
RHWYSTRAU POSIBL
- Drysu rhwng adfywio iaith a chynnal diwylliant
- Trafod 'aelodaeth ethnig’ yn hytrach na chymdeithas amrywiol.
THEMA: BUDDSODDI CYHOEDDUS A STRWYTHURAU CYFLENWI.
Mae'r thema hon yn ymwneud â chymryd golwg holistaidd ar gynllunio ieithyddol. Mae’n ymwneud â gwneud iaith yn thema drawsbynciol yn unrhyw ac ym mhob buddsoddi cyhoeddus mewn pobl a chymunedau.BLAENORIAETHAU
- Swyddogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y dyfodol.
- Creu rhwydwaith deinamig o systemau cyflenwi.
- Sefydlu peirianweithiau atebolrwydd.
- Gwneud defnydd llawn o wasanaeth teledu S4C a Radio Cymru'r BBC i gyflenwi adloniant poblogaidd a pherthnasol, gwybodaeth ac addysg yn y Gymraeg.
MESURAU
- Pennu cyfrifoldebau Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel cydlynydd a rheoleiddiwr mewn dull ysgafn.
- Rhoi adnoddau addas i'r Bwrdd i gyflawni ei gyfrifoldebau. (Daw'r rhain yn amlwg yn y strategaeth fydd yn esblygu yn ystod yr adolygiad)
- Creu fforwm i ystyried y cynlluniau blynyddol fydd S4C a BBC Radio Cymru yn eu cyflwyno I OFCOM
- Galluogi mentrau cynaliadwy fydd yn datblygu'n rhwydwaith effeithiol o gyflenwi.
RHWYSTRAU POSIBL
- Ein bod yn siarad am gymhorthdal yn hytrach na buddsoddiad mewn pobl, cymunedau a dewis democrataidd.
- Ein bod yn methu defnyddio grym technolegau newydd i ryddhau.
- Ein bod yn parhau i chwilio am atebion biwrocrataidd oddi uchod.
- Normaleiddio - Mae'n sylfaenol mewn gwlad ddwyieithog fod pob iaith yn cael ei defnyddio'n normal ym mhob cyd-destun yn ôl dymuniad y dinesydd unigol. Mae angen cydnabod normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg a'r Saesneg yng ngweithredoedd y wladwriaeth, a gweithgareddau uwch-gorfforaethol ac is-gorfforaethol. Golyga hyn:
- Galluogi pobol i ddefnyddio’r naill neu'r ddwy iaith mewn bywyd bob dydd.
- Ehangu ystod cysyniadau ar gyfer y Gymraeg
- Cefnogi cydnabyddiaeth o ddwyieithrwydd mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, trafodion masnachol ac yn y gweithle.
- Trosglwyddo Iaith - ffactorau sy'n pennu cynhaliaeth yr iaith o genhedlaeth i genhedlaeth, a'r ymyrraeth angenrheidiol i sicrhau fod hyn yn digwydd.
- Cynaliadwyedd yn y Gymuned - ffactorau sy'n pennu fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i datblygu o fewn cymunedau - boed y rheini'n gymunedau daearyddol, sefydliadol, corfforaethol neu’n gymunedau hirbell.
- Datblygiad continuum iaith - cynyddu sgiliau iaith, y cysyniadau defnydd a chynyddu'r hyder i'w defnyddio.
- Datblygu sefyllfaoedd diglossic - cynyddu'r cyfleoedd lle mae'r Gymraeg yn gyfrwng amlwg i'w ddefnyddio i gyfathrebu
ATODIAD D
PWYLLGOR DIWYLLIANT - CC-5-01(p.2)
Dyddiad 14 MAWRTH 2001Lleoliad Ystafell Bwyllgora 1Teitl CEFNOGI’R IAITH GYMRAEG - Papur sefyllfa Diben1. Mae Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Diwylliant wedi gofyn am bapur sefyllfa ar yr iaith Gymraeg. Mae’r papur hwn yn ymateb i’r cais hwnnw. Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg wedi cymeradwyo’r papur hwn.Crynodeb
2. Mae’r papur hwn yn :- cyflwyno ychydig ddata ar sefyllfa bresennol yr iaith;
- rhoi crynodeb o bolisïau cyhoeddus y gorffennol ac
- yn amlinellu rôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Atodiad 1).
Cyflwr yr Iaith: Ychydig Wybodaeth
3. Yn ôl Cyfrifiad 1991 mae 500,000 o bobl yn siarad Cymraeg (18.5% o’r boblogaeth). Mae’r ffigur hwn ond ychydig yn llai na’r 508,000 (18.9%) a gofnodwyd ym 1981. (Ffigur y cyfrifiad o’r rhai a oedd yn dweud eu bodnaill ai’ngallu darllen, ysgrifennu neu siarad Cymraeg oedd 20.1%).4. Roedd llawer yn teimlo bod canlyniadau cyfrifiad 1991 yn rhai calonogol. Cawsant eu dehongli fel rhai oedd yn dangos bod sefyllfa’r iaith wedi sefydlogi, ar ôl degawdau o ddirywiad:
| Poblogaeth 3 oed a throsodd a oedd yn bresennol ar noson y Cyfrifiad; canran sy’n siarad Cymraeg 1921-1991 |
| Blwyddyn | Canran |
|---|---|
| 1921 | 37.1% |
| 1931 | 36.8% |
| 1951 | 28.9% |
| 1961 | 26.0% |
| 1971 | 20.8% |
| 1981 | 18.9% |
| 1991 | 18.5% |
cyfrannauuchaf yn siroedd y gorllewin (yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn, roedd mwy na 50% yn siarad Cymraeg ym 1991). Er hynny, mae hyn yn tueddu i guddio’r dosbarthiad rhanbarthol o ran
niferoeddy siaradwyr. Er enghraifft, yn Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych roedd 25,000 yn siarad Cymraeg ym 1991 a 32,000 yn siarad Cymraeg yng Nghonwy ac yn Abertawe. Nid yw’r niferoedd yng Ngheredigion (36,000) a Sir Fôn (41,000) yn fawr fwy mewn gwirionedd. Dim ond yn Sir Gaerfyrddin (92,000) a Gwynedd (79,000) y mae’r niferoedd yn llawer uwch.8. Mae’r darlun lleol yn fwy amrywiol na’r un rhanbarthol. Er enghraifft, Cwm Cynon oedd yr olaf o hen ddosbarthau Morgannwg Ganol i ddisgyn o dan 10% o siaradwyr Cymraeg ym 1991. Ond ar yr un pryd roedd niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn Nhaf-Elái gerllaw ac yng Nghaerdydd wedi codi.9. Ar y lefel leol mae cymunedau Cymraeg yn crebachu’n ddi-dor. Ym 1981, roedd 128 allan o’r 800 o wardiau yng Nghymru yn gymunedau lle roedd mwy na 70% neu fwy yn siarad Cymraeg a 7.1% o’r boblogaeth yn byw ynddynt. Erbyn 1991, dim ond 87 o’r 908 o wardiau oedd yn cyfateb â’r un diffiniad a dim ond 5.1% o’r boblogaeth oedd yn byw ynddynt.10. Mae oed siaradwyr Cymraeg yn arwyddocaol iawn at ddibenion polisi a hwn yw un o’r meysydd mwyaf cymhleth i’w ddehongli. Yn ôl cyfrifiad 1991 roedd llawer
llaio siaradwyr Cymraeg ymhlith pobl dros 45 oed nag ym 1981. Ymhlith pobl rhwng 15 a 44, ni fu llawer o newid (cynnydd bach ymhlith pobl 15-24 oed). At ei gilydd, roedd nifer y siaradwyr Cymraeg dros 15 oed rhwng 1981 a 1991 wedi cwympo o 424,000 i 386,000 - gostyngiad o 7%.11. I gyferbynnu â’r gostyngiad parhaol yn nifer y siaradwyr hn cafwyd yng Nghyfrifiad 1991 gynnydd dramatig yn nifer y plant o oed ysgol sy’n siarad Cymraeg. Ym 1991, nodwyd bod 26.9% o blant 10-14 oed yn siarad Cymraeg (18.5% ym 1981) a bod 24.7% o blant rhwng 5-9 oed yn siarad Cymraeg (17.8% ym 1981).12. Yn ddi-os mae’r cynnydd yn nifer y plant sy’n siarad Cymraeg yn adlewyrchu rôl ganolog y gwasanaeth addysg o ran cynnal yr iaith. Mae’r parhad yn nhwf addysg Gymraeg yn rhan o’r stori. Yn ystod blwyddyn ysgol 1990-91, roedd 21.8% o ddisgyblion ysgol gynradd a 15.1% o ddisgyblion ysgol uwchradd yn mynychu ysgol Gymraeg neu ysgol ddwyieithog (mae’r canrannau hyn wedi parhau i godi’n raddol yn ystod y blynyddoedd wedi hynny). Mae’n debygol bod dysgu Cymraeg fel ail iaith hefyd yn dylanwadu ar nifer y plant y nodir eu bod yn siarad Cymraeg a bod rhai plant y nodwyd eu bod yn siarad Cymraeg yn y cyfrifiad yn ei dysgu fel ail iaith.13. O fewn y grp sy’n siarad Cymraeg, mae nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg fel "mamiaith" yn gymharol fychan, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth iau. Ym 1998/99 roedd penaethiaid ysgolion cynradd wedi asesu bod 6. 3% o’u disgyblion yn siaradwyr mamiaith rhugl (o’i gymharu ag 8% ugain mlynedd yn ôl) . Yn ôl arolwg Cymdeithasol Cymru 1992 amcangyfrifwyd bod 4.6% o blant rhwng 5-10 yn siarad "mwy o Gymraeg nag o Saesneg" gartrefYmyrraethau Polisi Cyhoeddus y Gorffennol14. Y prif elfennau polisi a etifeddwyd gan y Cynulliad yw:
- Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a sefydlodd Bwrdd yr Iaith. Mae dros 150 o gyrff cyhoeddus wedi gweithredu cynlluniau iaith y Bwrdd hyd yn hyn
- cyflwyno’r Gymraeg fel pwnc astudio gorfodol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn dilyn Deddf Diwygio Addysg 1998
- twf y ddarpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog (cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol)
- lle’r Gymraeg mewn darlledu (cyfrifoldeb Llywodraeth y DU a chyrff darlledu)
- darparu grantiau ar gyfer projectau iaith Gymraeg (gweinyddir y rhain bellach gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg).
inter alia)yn cynnal athrawon bro; cyrff gwirfoddol, Mentrau Iaith; Yr Eisteddfod Genedlaethol; Mudiad Ysgolion Meithrin; Urdd Gobaith Cymru a chynllun grantiau cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau.15. Er bod y rhestr uchod yn canolbwyntio ar weithgareddau’r llywodraeth ganolog yn y maes, mae’n hollbwysig nad ydym yn anghofio am ymdrechion dygn llawer o sefydliadau ac asiantaethau eraill sydd wedi bod yn gweithio dros yr iaith am flynyddoedd maith.
ADRAN DIWYLLIANT CHWARAEON A'R IAITH GYMRAEG, MAWRTH 2001
BWRDD YR IAITH GYMRAEG ATODIAD 1
1. Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Y mae’r Bwrdd presennol wedi cymryd lle’r Bwrdd Iaith anstatudol a sefydlwyd ym 1988.2. Y Cynulliad sy’n penodi Aelodau’r Bwrdd. Gall hyd at 15 o bobl fod yn aelodau o’r Bwrdd, ond ar hyn o bryd 11 aelod sydd arno. Yr aelodau presennol yw:Mr Rhodri Williams (Cadeirydd)Dr Medwin Hughes (Dirprwy Gadeirydd)Yr Athro Colin BakerMr Jeffrey MorganMr Gwyn BartleyMs Sue CamperMs Bethan GuilfoyleMs Gwawr HughesDr Arun MidhaMs Rhiannon WaltersYr Athro Colin Williams3. Penodwyd y Cadeirydd Mr Rhodri Williams ym mis Mai 2000, yn dilyn cystadleuaeth agored. Penodwyd am 3 mlynedd, hyd at 30 Ebrill 2003. Penodwyd yr aelodau i wasanaethu am dymor o 3 mlynedd, i ddod i ben ar 31 Mawrth 2003.4. Prif swyddogaeth y Bwrdd yw "hybu a hyrwyddo defnyddio’r iaith Gymraeg". O fewn y swyddogaeth eang hon, mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn darparu’n benodol ar gyfer:- rhoi grantiau
- cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol
- cynghori cyrff a mudiadau eraill (a all fod yn gyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat neu fudiadau gwirfoddol)
- goruchwylio a rheoleiddio’r modd y mae cyrff cyhoeddus yn mabwysiadu ac yn gweithredu cynlluniau iaith o dan y Ddeddf
ATODIAD E
PWYLLGOR DIWYLLIANT
Cefndir
- Mae’r Pwyllgor Diwylliant yn un o saith o bwyllgorau pwnc Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ofynnol bod gan y Cynulliad bwyllgorau o’r fath yn unol ag Adran 57 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (a sefydlodd y Cynulliad Cenedlaethol). Mae pob pwyllgor pwnc yn cwmpasu’r maes y mae un o Weinidogion y Cynulliad (sy’n aelod o Gabinet y Cynulliad) yn gyfrifol amdano. Mae’r Gweinidog perthnasol yn aelod o’r pwyllgor hwnnw.
- Dyma gyfrifoldebau’r pwyllgorau pwnc:
- cyfrannu at ddatblygu polisïau’r Cynulliad;
- parhau i adolygu’r gwariant a’r gweinyddu sy’n gysylltiedig â’u gweithredu;
- adolygu cyrff cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat wrth iddynt gyflawni swyddogaethau cyhoeddus;
- rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth arfaethedig a fydd yn effeithio ar Gymru;
- rhoi cyngor i Gabinet y Cynulliad ar faterion sy’n ymwneud â dyrannu cyllideb y Cynulliad;
- bod yn rhan o’r broses o ystyried cwynion ynhylch yr hyn a wna’r Cynulliad neu’r hyn y methodd â’i wneud;
- bod yn rhan o’r broses benodi yn y sector cyhoeddus;
- ystyried materion a gyfeirir ato gan y Cynulliad.
Aelodaeth
- Etholir aelodau’r pwyllgor gan y Cynulliad. Caiff cydbwysedd y pleidiau yn y Cynulliad ei adlewyrchu yn aelodau’r panel a’r pwyllgorau. Mae’r Pwyllgor presennol, a etholwyd ym mis Tachwedd 2000, fel a ganlyn:
- Plaid
- Etholaeth
- Rhodri Glyn Thomas (Cadeirydd)
- Plaid Cymru
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Jenny Randerson (Gweinidog y Cynulliad)
- Democratiaid Rhyddfrydol
- Canol Caerdydd
- Delyth Evans (Dirprwy Weinidog)
- Llafur
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Gareth Jones
- Plaid Cymru
- Conwy
- Lorraine Barrett
- Llafur
- De Caerdydd a Phenarth
- Owen John Thomas
- Plaid Cymru
- Canol De Cymru
- Rosemary Butler
- Llafur
- Gorllewin Casnewydd
- Alison Halford
- Llafur
- Delyn
- Jonathan Morgan
- Ceidwadwyr
- Canol De Cymru
- Ysgrifenyddiaeth o Swyddfa’r Llywydd yw staff y Pwyllgor, sydd o dan arweiniad Clerc. Gall hefyd benodi ymgynghorwyr arbenigol o bryd i’w gilydd.
- Cyfrifoldebau’r Pwyllgor Diwylliant
- Mae’r Pwyllgor Diwylliant yn gyfrifol am y pynciau canlynol:
- Y celfyddydau a diwylliant, gan gynnwys amgueddfeydd a llyfrgelloedd
- Chwaraeon a hamdden
- Yr iaith Gymraeg
- Mae’n gyfrifol am oruchwylio’r cyrff canlynol a noddir gan y Cynulliad a chyrff sy’n derbyn cymorth grantiau:
- Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Y Cyngor Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth (Cymru)
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Y Cyngor Amgueddfeydd
ANNEX F / ATODIAD F
LIST OF CONSULTEES / RHESTR YMGYNGHORI
- Abbey National
- Aberystwyth Arts Centre
- Academi (Yr Academi Gymreig)
- ACEN, Welsh Language Services
- ADAS
- Aelwyd Housing Association Ltd
- Age Concern, Cymru
- Agricultural Wages Committee
- Anheddau Cyf
- Antur Cwm Taf/Tywi
- Antur Gwy
- Antur Penllyn
- Antur Teifi
- Archives Council Wales
- Arena Network
- Arts & Business Cymru
- Arts Council of Wales
- Artworks Wales
- ASDA
- Association of Welsh Community Health Councils
- Atlantic Foundation
- Audit Commission
- BAFTA Cymru
- Baneswell Housing Association Ltd
- Bank of England Agency for Wales
- Barclays Bank
- Barcud Derwen
- Barddas
- Barn
- BBC Wales
- Benefits Agency
- Big Issue Cymru
- Blewyn Glas
- Boundary Commission for Wales
- Brecon & Radnor Express & Powys County Times
- Brecon Beacons National Park
- Bridgend County Borough Council
- Bridgend County Borough Library & Information Services
- British Council Wales
- British Gas Trading
- British Medical Assocation
- British Red Cross (Wales)
- Bro Morgannwg NHS Trust
- Bro Myrddin Housing Association Ltd
- Bro Taf Health Authority
- Broadcasting Support Services
- BT, Wales
- BTCV Cymru
- Business Connect Wales
- Business Direction
- Business in Focus Ltd
- Business in the Community in Wales
- Cadarn Housing Group Ltd
- CADMAD
- CADW Welsh Historic Monuments
- CADWYN
- Cadwyn Housing Association Ltd
- Caernarfon & Denbigh Herald
- Caerphilly County Borough Council
- Caerphilly County Borough Libraries
- Cambria
- Cambrian News
- Camelot
- Campaign for the Protection of Rural Wales
- Cancer Research Campaign Cymru
- Cardiff & Vale NHS Trust
- Cardiff Bus and Cardiff City Transport Services Ltd
- Cardiff Central Library
- Cardiff Chamber of Commerce Trade & Industry
- Cardiff Charter 88
- Cardiff Community Housing Association Ltd
- Cardiff County Council
- Cardiff International Airport
- Cardiff Marketing Ltd
- Cardigan & Tivyside Advertiser
- Care for Wales Public Policy
- Carmarthen Journal
- Carmarthen Lyric Theatre
- Carmarthenshire County Council
- Carmarthenshire Enterprises
- Carmarthenshire NHS Trust
- CBAT ( Cardiff Bay Arts Trust)
- CBI Wales
- CEFN
- CELTEC North Wales TEC
- Celtic Congress, Welsh Branch
- Centre for Alternative Technology
- Ceredigion and Mid Wales NHS Trust
- Ceredigion County Council
- Ceredigion County Library
- Champion 103 FM
- Chapter Arts Centre & Chapter Globe
- Charles Lloyd Foundation
- Charter Housing Association (1973)Ltd
- Chartered Institute of Environmental Health
- Chartered Institute of Housing in Wales
- Christian Aid
- Chronicle Series
- Chwarae Teg - Fairplay
- City & County of Swansea Library and Information S
- City and County of Swansea
- Civic Trust for Wales
- Clebran
- Clecs y Cwm a'r Dref
- Clonc
- Clwyd Alyn Housing Association Ltd
- Clwyd Theatre Cymru
- Clwyd-Powys Archaeological Trust
- Clwydfro Enterprise Agency
- CND Cymru, Campaign for Nuclear Disarmament Wales
- Coast FM
- Coastal Business Centre/Coastal Enterprise Agency
- Coed Cymru
- Commission for Local Administration in Wales
- Commission for Racial Equality
- Commonwealth Games Council for Wales
- Community Enterprise Wales
- Community Music Wales
- Community Service Volunteers (CSV Wales)
- Community Transport Association
- Companies House
- Composers of Wales
- Confederation of Passenger Transport Wales
- Congregational Federation in Wales
- Conwy & Denbighshire NHS Trust
- Conwy County Borough Council
- Conwy County Borough Council Library
- Corwen Times
- Council for Sunday Schools & Christian Education in Wales
- Council for Wales of Voluntary Youth Services
- Council of Museums in Wales
- Council of Welsh TECs
- Country Land and Business Association
- Country Quest
- Countryside Alliance
- Countryside Council for Wales
- County Borough Council of Merthyr Tydfil
- County Borough of Blaenau Gwent
- County Echo Newspapers
- County Times Express & Gazette Series
- Crown Prosecution Service Wales
- Cwlwm
- Cwmni Iaith Cyf
- CYD
- Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery
- CYMAD
- Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
- Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Cymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru
- Cymdeithas Emynau Cymru
- Cymdeithas Gerdd Dafod
- Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth
- Cymdeithas Tai Cantref Cyf
- Cymdeithas Tai Clwyd Cyf
- Cymdeithas Tai Dewi Sant
- Cymdeithas Tai Eryri Cyf
- Cymdeithas Tai Hafan Cyf
- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
- Cymru Prosper Wales
- Cynnydd - Wales Youth Justice Forum
- Cynon Valley Leader
- Cynon-Taf Housing Association Ltd
- Cyswllt Busnes De Gwynedd, Antur Dwyryd - Llyn
- CYTUN
- Dail Dysynni
- Daily Post
- Democratic Left Wales
- Denbighshire County Council
- Denbighshire Free Press
- Denbighshire Library & Information Service
- Design Wales
- District Audit
- District Land Registry for Wales
- Dr Glyn Williams
- Dr Gwenllian Mair Awbery
- Dr Hywel Glyn Lewis
- Dr J Philip Davies
- Dr Mark Tewdwr Jones
- Drama Association of Wales
- Duke of Edinburgh's Award
- DVLA
- Dyfed Powys Health Authority
- Eastern Valley Housing Association Ltd
- Eco'r Wyddfa
- Education Business Partnership Ltd
- Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru
- Electricity Consumers Committee
- ELWA
- Employment Service
- Environment Agency Wales
- Environment Education Council for Wales
- Equal Opportunities Commission Wales
- ESTYN
- European Anti-Poverty Network - Cymru
- European Bureau for Lesser Used Languages (Wales Office)
- European Centre for Traditional & Regional Cultures
- Export Association
- Family Housing Association (Wales) Ltd
- Farmers Union of Wales
- Farming and Rural Conservation Agency
- Federation of Master Builders
- Federation of Small Businesses Wales
- Federation of Sports Associations for the Disabled
- Fellowship of Reconciliation in Wales
- Festivals of Wales
- Fferm a Thyddyn
- Ffotogallery
- Field Studies Council
- Finance Wales Plc
- Financial Times (Wales )
- Flintshire County Council
- Flintshire Enterprise Ltd
- Flintshire Leader and Standard
- Flintshire Libraries & Information Service
- Football Association of Wales
- Forensic Science Service
- Forestry Commission, Wales
- fpa Cymru
- Free Press Series
- Friends of the Earth Cymru
- Gas Consumers Council Wales
- Glamorgan & Gwent Housing Association Ltd
- Glas Cymru
- Glynn Vivian Art Gallery
- GMB, Britains General Union
- Golwg
- Gower Society
- Grand Theatre & Arts Wing
- Great Western Trains Co Ltd
- Groundwork Wales
- Guild for Promotion of Welsh Music
- Gwalia Housing Association Ltd
- Gwent Health Authority
- Gwent Healthcare NHS Trust
- Gwent Police
- Gwerin (Cymru) Housing Association Ltd
- Gwynedd Archaeological Trust
- Gwynedd Council
- Gwynedd Library & Information Service
- Hafod Housing Association Ltd
- Hafod Trust
- Halifax Building Society
- Health & Safety Executive
- Health Communication Research Centre
- Health Service Commissioner for Wales
- Health Solutions Wales
- Heddlu Dyfed Police Force
- Heini Gruffudd
- Heritage Lottery Fund
- Historic Building Council for Wales
- HM Customs & Excise
- HSBC
- HTV
- Iechyd Morgannwg Health Authority
- Independent Television Commission
- Inland Revenue - Wales & Midlands
- Institute of Chartered Accountants
- Institute of Directors Wales
- Institute of Grassland and Environmental Research
- Institute of Public Relations Cymru Wales
- Institute of Rural Health
- Institute of Welsh Affairs
- Institute of Welsh Affairs
- Institute of Welsh Affairs (Mid Wales Reg)
- Institute of Public Relations Cymru Wales
- International Centre for Protected Landscapes
- International Film Festival of Wales
- Isle of Anglesey County Council
- Isle of Anglesey Library Services
- Jewish Representation Council
- Joint Committee for Ethnic Minorities in Wales
- Jubilee 2000
- Legal Services Commission
- Llafar Bro
- Llafar Gwlad
- Llais
- Llais Aeron
- Llais Ardudwy
- Llais Ogwan
- Llandysul & Pont Tyweli Ymlaen Office Antur Teifi
- Llanelli Millennium Coastal Park
- Llanelli Star Series
- Llangollen International Musical Eisteddfod
- Llanw Llyn
- Lleu
- Lloyds TSB
- Lloyds TSB Foundation in Wales
- Llwybr - Pathway
- Llysgenhadaeth Glyndwr/Embassy
- Local Government Boundary Commission for Wales
- Marcher Radio Group Ltd
- Marks & Spencer
- Materials Technology Forum in Wales
- Meat & Livestock Commission for Wales
- Mencap in Wales
- Menter a Busnes
- Menter Aman Tawe
- Menter Bro Myrddin
- Menter Bro Ogwr
- Menter Brycheiniog
- Menter Caerdydd
- Menter Ceredigion
- Menter Cwm Gwendraeth
- Menter Iaith Dinbych-Conwy
- Menter Iaith Gwynedd
- Menter laith Mon
- Menter laith Sir Benfro
- Menter laith Sir y Flint
- Menter laith yn Rhondda CynonTaf
- Menter Llanelli
- Menter Maldwyn
- Menter Mon
- Menter Preseli
- Mentor Powys
- Mentrau laith Myrddin
- Mercator
- Merched y Wawr
- Merioneth Express
- Merthyr Express Series
- Merthyr Tydfil Central Library
- Merthyr Tydfil Housing Association Ltd
- Mewn Cymru
- Mid & West Wales Fire Authority
- Mid Glamorgan Press Agency
- Mid Wales Film Commission
- Mid Wales Housing Association Ltd
- Mid Wales Journal
- Mid Wales Manufacturing Group
- Mid Wales Partnership
- Mid Wales TEC Canolbarth Cymru
- Mid Wales Tourism
- Millennium Commission
- MIND CYMRU
- Mold & Buckley Chronicle
- Mold & Deeside Midweek Leader
- Monmouthshire Beacon
- Monmouthshire Libraries & Information Service
- Monouthshire County Council
- Montgomeryshire Wildshire Trust
- Mudiad Ysgolion Meithrin
- Muni Arts Centre
- Museum of Modern Art, Wales
- Nacro Cymru
- National Assocation of Citizens Advice Bureaux
- National Audit Office
- National Botanic Garden of Wales
- National Federation of Woman's Institutes - Wales
- National Language Centre
- National Library of Wales
- National Lotteries Charity Board
- National Museums & Galleries of Wales
- National Playing Fields Association
- National Trust
- National Welsh American Foundation
- National West minster Bank
- Neath Guardian & Port Talbot Guardian
- Neath Port Talbot County Borough Council
- Neath Port Talbot County Borough Library
- New Opportunities Fund
- New Theatre
- New Welsh Review
- Newport & Gwent Chamber of Commerce & Industry
- Newport County Borough Council
- Newport Library & Information Service
- NFU Cymru Wales
- NHS Confederation in Wales
- North Ceredigion Times
- North East Wales NHS Trust
- North Glamorgan NHS Trust
- North Wales Chamber of Commerce and Industry
- North Wales Chronicle Series
- North Wales Economic Forum
- North Wales Film Commission
- North Wales Fire Authority
- North Wales Health Authority
- North Wales Housing Association Ltd
- North Wales Pioneer
- North Wales Police
- North Wales Tourism
- North Wales Weekly News
- North West Wales NHS Trust
- NSPCC Cymru Wales
- NTO Council for Wales
- Oakdale Trust
- Office for National Statistics
- OFGEM
- Ofwat
- Ordnance Survey
- Organic Farming Centre for Wales
- Oriel 31
- Oriel Mostyn
- Oriel Myrddin
- Oriel Plas Glyn - y -Weddw
- Oriel Ynys Mon
- Orthodox Church in Wales
- Papur Fama
- Papur Menai
- Papur Pawb
- Papur y Cwm
- Parliament for Wales Campaign
- PCS, Public and Commercial Services Union
- Pembrokeshire & Derwen NHS Trust
- Pembrokeshire Business Initiative
- Pembrokeshire Coast National Park
- Pembrokeshire County Council
- Pembrokeshire County Library
- Pembrokeshire Housing Association Ltd
- Pembrokeshire in Business
- Performance Studies International
- Phillips, Dylan Research Fellow
- Pethe Penllyn
- Photolibrary Wales
- Place Names Advisory Committee
- Planet-The Welsh Internationalist
- Planning Aid Wales
- Plu'r Gweunydd
- Poetry Wales
- Pontypridd & District Housing Association Ltd
- Pontypridd & Llantrisant Observer
- Pontypridd & Rhondda NHS Trust
- Popeth Cymraeg/ Welsh Unlimited
- Port Talbot Tribune Series
- Post Office Board Wales
- Powys County Council
- Powys Health Care NHS Trust
- Powys Library & Archive Service
- Prince's Trust - Cymru
- Principality Building Society
- Professional Translator Training
- Professor Colin Baker
- Professor Colin Williams
- Pyramid
- Queer Words
- Radio Ceredigion
- Radio Maldwyn
- Rail Users Consultative Committee for Wales
- Railtrack
- Rambler's Assocation
- Rent Assessment Panel for Wales
- Residuary Body for Wales
- Rhieni dros Addysg Gymraeg
- Rhondda Cynon Taff County Borough Council
- Rhondda Housing Association Ltd
- Rhondda Leader
- Rhyl Prestatyn & Abergele Journal
- RNIB Cymru
- RNID Cymru
- Roman Catholic Archdiocese of Cardiff
- Roy Thomas
- Royal Cambrian Academy
- Royal Institution of Chartered Surveyors in Wales
- Royal Mint
- Royal Pharmaceutical Society of GB
- Royal Society of Architects in Wales
- Royal Welsh Agricultural Society
- RSPB Cymru
- RSPCA
- Ruthin Craft Centre
- S4C
- Safeway
- Sainsbury
- Salvation Army
- Samaritans - Wales
- Save the Children Fund
- Scope
- SCOVO
- Seren Hafren
- Sgrin
- Shelter Cymru
- Sherman Theatre
- Snowdonia Bic Eryri
- Snowdonia National Park Authority
- Snowdonia Society
- South Wales Argus
- South Wales Echo
- South Wales Evening Post
- South Wales Export Association
- South Wales Film Commission
- South Wales Fire Authority
- South Wales Guardian
- South Wales Sea Fisheries Committee
- South West Wales Economic Forum
- SPARC
- Sports Council for Wales
- St Donats Arts Centre
- St John Ambulance in Wales
- St Mellons Enterprise Centre
- Sustainable Energy
- Sustainable Wales
- SWALEC
- Swansea Herald of Wales
- Swansea Housing Association Ltd
- Swansea NHS Trust
- Swansea Sound & The Wave
- SYNIAD
- TAC Welsh Independent Producers
- Taff Housing Association Ltd
- Tafod-Elai
- Taliesin
- Taliesin Arts Centre
- TEC South East Wales
- Tenby Observer/Narberth & Whitland Observer
- Tenovus - The Cancer Charity
- Tesco
- TGWU, Transport & General Workers Union
- Theatr Ardudwy
- Theatr Gogledd Cymru
- Theatr Gwynedd
- Theatr Hafren
- Theatr Mwldan
- Torfaen County Borough Council
- Torfean County Borough Libraries
- Tourism South and West Wales
- Trade Marks Registry
- Tu Chwith
- Tua'r Goleuni
- Ty Llen
- Ty Morgannwg
- Ty Newydd
- UNISON
- United Nations Assocation in Wales
- United Welsh Housing Association Ltd
- Urdd Gobaith Cymru
- Vale of Glamorgan Council
- Vale of Glamorgan Libraries
- Valleys Enterprise Ltd
- Valleys Radio
- Velindre NHS Trust
- Venture Wales
- Village Retail Services Association
- Wales & West Housing Association Ltd
- Wales & West Passenger Trains Ltd
- Wales - Argentina Society
- Wales Assembly for Women
- Wales Assocation of County Voluntary Councils
- Wales Association of Community and Town Councils
- Wales Co-Operative Centre Ltd
- Wales Coastal Forum
- Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
- Wales Council of the European Movement
- Wales Craft Council
- Wales Environmental Standards Group
- Wales Food Alliance
- Wales Funders Forum
- Wales in Europe
- Wales International
- Wales Labour Action
- Wales Management Council
- Wales Media Forum
- Wales Millennium Centre
- Wales New Deal Advisory Taskforce
- Wales Tourist Board
- Wales TUC Cymru
- Wales Youth Agency
- WDA
- Welsh Agricultural Organisation Society
- Welsh Amateur Music Federation
- Welsh Association of Male Voice Choirs
- Welsh Books Council
- Welsh Centre for International Affairs
- Welsh Consumer Council
- Welsh Development Agency Food Directorate
- Welsh Federation of Housing Associations
- Welsh Folk Dance Society
- Welsh Hospitals & Health Services Association
- Welsh Industrial Development Advisory Board
- Welsh Language Board
- Welsh Library Association
- Welsh Local Government Association
- Welsh National Board for Nursing , Midwifery & Health Workers
- Welsh National Opera
- Welsh Refugee Council
- Welsh Socialist Monthly
- West Wales Chamber of Commerce
- West Wales Export Association
- West Wales TEC
- Western Power Distribution (Hyder)
- Western Telegraph
- Wilia
- WJEC National Language Unit of Wales
- Women's Royal Voluntary Service (WRVS)
- World Wildlife Fund
- Wrexham County Borough Council
- Wrexham Evening Leader
- Wrexham Leader
- Wrexham Mail
- Writers Guild of Great Britain ( Wales)
- Wyeside Arts Centre
- Y Barcud
- Y Bedol
- Y Bigwn
- Y Cardi Bach
- Y Casglwr
- Y Clawdd
- Y Cylch/The Circuit
- Y Cymro
- Y Cynfod
- Y Ddraig Werdd
- Y Dinesydd
- Y Dydd
- Y Fan a'r Lle
- Y Faner Newydd
- Y Ffynnon
- Y Gadlas
- Y Gambo
- Y Garthen
- Y Glannau
- Y Gloran
- Y Glorian
- Y Gymdeithas Feddygol
- Y Lolfa
- Y Llien Gwyn
- Y Lloffwr
- Y Mandral
- Y Pentan
- Y Rhwyd
- Y Tincer
- Y Traethodydd
- YMCA, Welsh Council
- Young Farmers' Clubs of Wales
- Youth Hostels Assocation, Wales
- Yr Angor
- Yr Arwydd
- Yr Athro
- Yr Herald
- Yr Hogwr
- Yr Odyn
- Yr Wylan
- YWCA, Welsh Council
| Enw | ||
